Mae croeso i bawb ymuno â ni mewn ymgynghoriad i'r cyhoedd wythnos nesaf, i ddysgu rhagor a dweud eu dweud am yr Ysgol Arbennig newydd arfaethedig i blant a phobl ifainc 3-19 oed yn Rhondda Cynon Taf – y mae disgwyl iddi hi gael ei hadeiladu yng Nghwm Clydach.
Yn gynharach eleni, cytunodd y Cabinet ar gynigion cyffrous i sefydlu pumed Ysgol Arbennig yn y Fwrdeistref Sirol erbyn 2026. Mae'r buddsoddiad yn ymateb i gynnydd yn nifer y dysgwyr ac yn nifer yr anghenion cymhleth sy’n cael eu nodi. Mae'r holl opsiynau gwaith i ehangu'r bedair ysgol arbennig bresennol wedi'u gwneud, a'r unig ddewis ymarferol arall i ddarparu capasiti ychwanegol yw adeiladu ysgol newydd.
Cafodd lleoliad yr ysgol ei ystyried yn drylwyr mewn proses arfarnu safle a phenderfynodd y Cyngor mai Y Pafiliynau yng Nghwm Clydach, pencadlys y Cyngor gynt, yw’r safle mwyaf addas. Mae'n lleoliad digonol o ran maint, mae mynediad boddhaol i'r lleoliad ac mae'n gyfle datblygu dichonadwy. Dechreuodd y gwaith o ddymchwel y safle yng ngwanwyn 2024 ac mae'r broses yna wedi'i chwblhau ers hynny.
Mae'r Cyngor bellach wedi dechrau proses Ymgynghori Cyn Ymgeisio, sy'n cynnig cyfle i drigolion ddysgu rhagor a dweud eu dweud am y cynlluniau cychwynnol. Bydd y broses yma'n helpu swyddogion i barhau i ddatblygu'r cynigion ar y cam allweddol yma, cyn i'r cais cynllunio terfynol gael ei gyflwyno.
Yn rhan o'r ymgynghoriad, bydd swyddogion yn cynnal achlysur cyhoeddus lleol ddydd Llun, 11 Tachwedd. Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal yn y Ganolfan Ddysgu yn Ymddiriedolaeth Bentref Hen Lofa’r Cambrian yng Nghwm Clydach (CF40 2XX). Mae croeso i bawb alw heibio ar unrhyw adeg rhwng 3pm a 6pm.
Bydd modd i drigolion gwrdd â swyddogion Addysg a'r garfan ddylunio, gofyn unrhyw gwestiynau am y cynigion datblygu, a dweud eu dweud. Bydd yr holl ymatebion yn cael eu cynnwys yn adborth yr ymgynghoriad i'w ystyried.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg: "Cytunodd y Cabinet i greu Ysgol Arbennig 3-19 newydd ar gyfer Rhondda Cynon Taf ym mis Ionawr 2024. Bydd yn fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd mewn cyfleusterau addysg o'r radd flaenaf. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn, cafodd safle'r Pafiliynau ei ddymchwel er mwyn sicrhau ei fod yn barod i'w ddatblygu. Mae swyddogion bellach yn bwrw ymlaen â gwaith ymgysylltu - yr Ymgynghoriad Cyn Cyflwyno Cais - i rannu'r cynigion cyn cyflwyno cais ffurfiol, sef prif gam nesaf y broses.
"Cytunodd y Cabinet ar y cynnig mawr yma i leddfu'r pwysau sylweddol mae ein hysgolion arbennig yn eu hwynebu o ran capasiti ar hyn o bryd, ac mae disgwyl i niferoedd gynyddu o ganlyniad i alw mawr ac anghenion cymhleth cynyddol ein dysgwyr. Mae'r ysgol newydd yn y cyfnod datblygu ar hyn o bryd ac mae'n cael ei chynllunio i ddiwallu'r holl anghenion yma, gyda gwell mynediad at gyfleusterau ac offer arbenigol. Bydd yn cael ei ariannu ar y cyd gan y Cyngor a Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru.
"Yn rhan o'r Ymgynghoriad Cyn Cyflwyno Cais, bydd swyddogion yn cynnal achlysur cyhoeddus lleol yng Nghwm Clydach ar 11 Tachwedd fel bod modd i drigolion ddysgu rhagor a gofyn unrhyw gwestiynau am y cynigion ar hyn o bryd. Mae croeso i bawb alw heibio i'r Ganolfan Ddysgu yn Ymddiriedolaeth Bentref Hen Lofa’r Cambrian, a byddwn yn annog y bobl hynny sydd â diddordeb yn y datblygiad i fynychu os yn bosibl."
Wedi ei bostio ar 06/11/2024