Skip to main content

Mae ymchwil newydd yn amlygu'r arbenigedd a'r gefnogaeth a ddarperir gan weithwyr cymdeithasol yn Rhondda Cynon Taf, mewn ymgais i annog rhagor o bobl i ddod yn rhieni maeth.

Foster Wales Case Study_Quote

Mae mwy na 7,000 o bobl ifainc yn derbyn gofal ledled Cymru, felly mae'r angen am rieni maeth yn cynyddu'n sydyn. 

Ar hyn o bryd mae 368 o blant yn derbyn gofal maeth gan yr awdurdod lleol yn RhCT, ond mae angen 163 o gartrefi maeth ychwanegol arnon ni.

Ym mis Ionawr lansiodd y rhwydwaith cenedlaethol o 22 o garfanau maethu awdurdodau lleol Cymru, Maethu Cymru, ymgyrch i recriwtio 800 o deuluoedd maeth ychwanegol erbyn 2026.

Ymunodd Maethu Cymru Rhondda Cynon Taf ag ymgyrch 'Gall pawb gynnig rhywbeth' i rannu profiadau realistig o'r gymuned faethu er mwyn ymateb i rwystrau cyffredin.

Mae rhai o'r rhain yn cynnwys diffyg hyder, camsyniadau ynghylch meini prawf, a chred nad yw maethu yn cyd-fynd â rhai ffyrdd o fyw.

Mae cam diweddaraf yr ymgyrch yn canolbwyntio ar rôl gweithwyr cymdeithasol gofal maeth a’r ‘swigen gymorth’ sy’n bodoli o amgylch rhieni maeth i ddarparu’r canlynol:

  1. Gwybodaeth adealltwriaeth o rôl y gweithwyr cymdeithasol, a sut y gall y gymuned faethu ehangach eu cefnogi.
  2. Hyder a sicrwydd bod gweithwyr cymdeithasol yn arbenigwyr gofalgar, rhagweithiol sy'n gweithio'n galed i gefnogi pobl ifainc a rhieni maeth. 
  3. Cymhelliant i ddechrau'r broses i ddod yn rhiant maeth drwy Awdurdod Lleol.

Mewn arolwg YouGov cyhoeddus diweddar, dim ond 44% o’r ymatebwyr a ddywedodd fod pobl yn dangos parch at waith cymdeithasol ac roedd bron i ddwy ran o bump (39%) o’r oedolion y gofynnwyd cwestiynau iddyn nhw yn teimlo bod ymarferwyr gwaith cymdeithasol “yn aml yn cael pethau’n anghywir.” Dim ond 11% o weithwyr cymdeithasol sydd o'r farn bod gan bobl barch at y maes.

Dywedodd Lisa Massey, Gweithiwr Cymdeithasol RhCT: “Cyn ymgymryd â'r swydd yma, roeddwn i'n gynorthwy-ydd addysgu am 14 mlynedd yn helpu plant ag anawsterau ymddygiadol ac/neu emosiynol. Roeddwn i eisiau gwneud rhagor i gefnogi plant sy’n derbyn gofal, yn enwedig gan fy mod wedi cael fy magu yn yr ardal leol, wedi profi rhywfaint o sefyllfaoedd anodd fy hun, ac yn teimlo fy mod i eisiau gweithio gyda phlant o gefndiroedd tebyg a’u helpu.

“mae gweithwyr cymdeithasol eisiau gwneud gwaith da yn eich cefnogi chi er mwyn darparu'r canlyniadau gorau posibl i blant."

Mae'r ymgyrch ddiweddaraf 'Gall pawb gynnig rhywbeth' yn cael ei harwain gan arolwg sydd newydd ei gomisiynu i ddeall rhagdybiaethau a chymhellion gweithwyr cymdeithasol yn well. Roedd 309 o ymatebwyr a dyma rai o'r canfyddiadau allweddol:

  • Dywedodd 78% o weithwyr cymdeithasol a ymatebodd i’r arolwg eu bod wedi ymuno â'r proffesiwn i gefnogi a helpu teuluoedd
  • Dywedodd 18% o rieni maeth fod canfyddiadau negyddol o weithwyr cymdeithasol o ganlyniad i straeon yn y newyddion
  • Dywedodd 29% o rieni maeth fod eu canfyddiad nhw o weithwyr cymdeithasol cyn cwrdd ag un oedd eu bod nhw'n 'bobl â llwythi gwaith trwm a llawer o waith papur'
  • Mae 27% o weithwyr cymdeithasol a ymatebodd i’r arolwg yn credu bod darpar gynhalwyr yn poeni am gael eu beirniadu gan weithwyr proffesiynol

Gofalwr maeth RhCT, Tracy Grenter (yn y llun), y neges ganlynol am ei Gweithiwr Cymdeithasol: “Mae ein gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol yn werth ei phwysau mewn aur! Mae hi'n rhan hanfodol o'n rhwydwaith cymorth. Mae hi'n ein hadnabod ni a'n pobl ifainc mor dda.  Mae ei chefnogaeth wedi bod yn aruthrol dros y blynyddoedd wrth iddi weithio ochr yn ochr â ni a’r plant. Does dim sefyllfa yn ormod iddi ac rydyn ni mor lwcus i gael perthynas waith barchus fel hyn."

Yn y gwaith ymchwil, tynnodd rhieni maeth sylw at bwysigrwydd perthnasoedd gwaith agos a pharhaol i gefnogi pobl ifainc i oresgyn heriau. Roedden nhw hefyd yn awyddus i chwalu anwireddau am weithwyr cymdeithasol a’r cymorth sydd ar gael, a thalu teyrnged i ymroddiad eu gweithwyr cymdeithasol:

Rhannodd Gofalwr Maeth RhCT, Lynnett Evans, hefyd: “Roedd fy ngweithiwr cymdeithasol goruchwyliol bob amser yn mynd y filltir ychwanegol i fy nghefnogi. Penderfynais wneud cais am Orchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig ar gyfer fy mhlentyn maeth, ac roedd fy ngweithiwr cymdeithasol yn gefn i mi drwy gydol y broses. Mae fy mhlentyn maeth yn treulio cyfnodau yn yr ysbyty yn aml a byddai fy ngweithiwr cymdeithasol bob amser yn sicrhau fy mod i'n derbyn yr holl gefnogaeth oedd ei hangen arnaf i aros gydag ef yn ystod y cyfnodau yma."

Dywedodd Annabel Lloyd, Pennaeth Gwasanaethau i Blant Rhondda Cynon Taf: “Yn RhCT mae gyda ni ymrwymiad gwasanaeth cyfan i ddeilliannau i blant a theuluoedd. Mae carfanau RhCT bob amser yn gwneud argraff arnaf i gyda'u tosturi tuag at deuluoedd, eu cydnerthedd, sgiliau a'u creadigrwydd. Mae gwaith cymdeithasol rhagorol wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud, ac mae hyn yn helpu ein carfan i sicrhau bod plant a theuluoedd yn ganolog i'w gwaith. Rydyn ni'n cefnogi ein gweithwyr cymdeithasol fel bod modd iddyn nhw yn eu tro gefnogi ac annog ein rhieni maeth er mwyn sicrhau deilliannau gwell i’r plant rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw."

I weld rhagor o wybodaeth am ddod yn rhieni maeth neu i wneud ymholiad, ewch i: https://rhct.maethucymru.llyw.cymru/

DIWEDD

Nodiadau i'r Golygyddion

Manylion yr arolwg: Cynhaliwyd yr arolwg rhwng 1 a 31 Awst 2024 ac fe’i rhannwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg â rhieni maeth, gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr cymorth ym mhob un o 22 Awdurdod Lleol Cymru. Derbyniodd yr arolwg i rieni maeth 213 o ymatebion (211 yn Saesneg/2 yn Gymraeg) gan rieni maeth ar draws 22 Awdurdod Lleol Cymru. Derbyniodd yr arolwg i weithwyr cymdeithasol/gweithwyr cymorth 96 o ymatebion (93 yn Saesneg/3 yn Gymraeg) gan weithwyr cymdeithasol/gweithwyr cymorth ar draws 21 Awdurdod Lleol Cymru. Mae dadansoddiad llawn o'r ymatebion ar gael ar gais.

Am ragor o wybodaeth am yr arolwg neu'r ymgyrch at ddibenion cyfweliadau, neu geisiadau gan y cyfryngau, cysylltwch â: Jo Reeves (Joanna.Reeves@rctcbc.gov.uk) neu Georgia Osborne (Georgia.Osborne@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 12/11/2024