Mae'r Cyngor wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer creu murlun celf stryd ar Lyfrgell Aberdâr, yn gefndir addas ar gyfer Gardd Goffa Lluoedd Arfog Cwm Cynon gerllaw. Bydd y murlun yn ymdrin â nifer o themâu, gan gynnwys coffáu personél y Lluoedd Arfog, ymdrech y bobl gyffredin yn ystod y rhyfel, y fyddin, a threftadaeth Cwm Cynon.
Mae'r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi rhoi caniatâd drwy Benderfyniad Swyddog Dirprwyedig i Gangen Aberdâr o Gymdeithas Cymrodyr y Cymry Brenhinol baentio rhannau o waliau'r adeilad sy'n wynebu'r de a'r dwyrain yn broffesiynol (gweler y llun). Mae'r grŵp wedi bod yn cydweithio â'r arlunydd enwog 'Tee2Sugars' i ddylunio'r gwaith celf, ac mae disgwyl i'r murlun gael ei greu yng ngwanwyn 2025.
Esboniodd Phil Adkins, cyn awyrfilwr ac aelod o Gymdeithas Cymrodyr y Cymry Brenhinol beth oedd hanes y prosiect: Meddai: "Rydyn ni eisoes wedi creu'r Ardd Goffa ger y llyfrgell yn 2019, ac mae'r gymuned wedi ymateb yn dda iawn. Cafodd yr Ardd Goffa ei hagor gyda gorymdaith fawr a llawer o bobl yn cymryd rhan. Ers hynny, mae'n brosiect rydyn ni wedi bod yn gweithio arno yn barhaus. Mae grŵp o gyn-filwyr o bob gwasanaeth ac aelodau Clwb Brecwast Cyn-filwyr a Chymdeithas Cymrodyr y Cymry Brenhinol yn cwrdd sawl gwaith bob mis ar fore Sul i lanhau'r ardal a sicrhau ei bod yn cael ei chynnal a'i chadw. Mae hyn er mwyn anrhydeddu'r personél milwrol sy'n cael eu coffáu yn yr Ardd Goffa.
"Rydyn ni wastad yn chwilio am ffyrdd o wella'r ardal, a daeth y syniad o greu'r murlun o weld murlun addas a thrawiadol iawn gan yr arlunydd Tee2Sugars ar gyfer y Gofeb Ryfel Ddinesig yn Abertyleri. Fe wnaethon ni wedyn ystyried sut fyddai modd ail-greu rhywbeth tebyg yn ein hardal. Roedd waliau deheuol a dwyreiniol Llyfrgell Aberdâr yn ymddangos yn lleoliad delfrydol a phan fydd wedi'i gwblhau, bydd y murlun yn amlwg iawn i'r rheiny sy'n teithio drwy Aberdâr ac yn dod yma o gyfeiriad Cwm Rhondda."
Cysylltodd y grŵp â Swyddog Cyswllt Cyfamod Lluoedd Arfog y Cyngor, yn ogystal â Hyrwyddwr Lluoedd Arfog a Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Maureen Weaver, gan esbonio eu syniad. Oddi yna, derbynion nhw gymorth i ddechrau ar y broses ffurfiol er mwyn derbyn caniatâd i greu'r murlun.
Meddai Mr Adkins: "Mae gyda ni gysylltiadau agos â'r Cyngor ers gweithio gydag ef wrth greu'r Ardd Goffa, yn ogystal â threfnu Gorymdaith Canmlwyddiant Senotaff Aberdâr. Roedd y swyddogion yn agored iawn i'r syniad o greu murlun ac yn gefnogol iawn.
"Fe wnaethon ni gyflwyno ein cais i'r Adran Gynllunio i ddechrau ar y broses ffurfiol. Mae hi wedi bod yn broses araf o ran cwblhau ein cais, er enghraifft llunio cynlluniau a chwblhau datganiadau effaith ar dreftadaeth - ond rydyn ni'n falch iawn bod caniatâd bellach wedi'i roi. Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a'r Adran Gynllunio wedi bod yn gefnogol iawn drwy gydol y broses.
"Fe wnaethon ni gyflwyno syniad bwrdd stori i'r arlunydd, ac rydyn ni wedi ceisio cynnwys cynifer o agweddau â phosibl. Fe wnaethon ni edrych ar y rôl hanesyddol a phwysig mae personél o Gymru wedi'i gyflawni o ran amddiffyn ein gwlad. Rhan o hyn yw'r rôl wnaeth dinasyddion ei gyflawni yn ystod y rhyfel, er enghraifft yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd dros 11,000 o bobl yn gweithio mewn ffatrioedd arfau yn y Cymoedd, tra bo glo yn cael ei ddarparu gan lowyr o Gymru. Roedden ni hefyd wedi cydnabod gwasanaeth y Bevin Boys, gan ddarlunio'r faciwîs o'r dinasoedd a'r Blits, Byddin Tir y Menywod, y Sefydliadau Amddiffyn Dinesig a.y.b.
"Rydyn ni wedi ceisio cynnwys cynifer o agweddau ar yr ymdrech gartref yn ystod y Rhyfel, gan goffáu'r rheiny a oedd yn gweithio ym mhob math o wasanaeth - y Llynges Frenhinol, y Fyddin, yr Awyrlu Brenhinol a'r Llynges Fasnach. Mae'n adrodd yr hanes, o ffarwelio â'r milwyr hyd at gyn-filwr oedrannus yn coffáu ei gyd-filwyr mewn modd tebyg i'r hyn rydyn ni'n ei wneud bob blwyddyn ym mhob cwr o'r wlad ar Ddydd y Cofio.
"Mae'r cyhoedd wedi bod â diddordeb mawr yn y prosiect. Rydyn ni wedi cynnal cyfarfod ymgynghori cyhoeddus yn y llyfrgell er mwyn dangos ein syniad a rhoi cyfle i bobl siarad â ni. Mae Cangen Aberdâr Cymdeithas Cymrodyr y Cymry Brenhinol wedi codi arian a byddwn ni'n gweithio'n rhagweithiol i godi gweddill yr arian sydd ei hangen ar gyfer y prosiect. Yn yr un modd â'r Ardd Goffa, bydd yr holl arian sy'n cael ei godi o ganlyniad i haelioni pobl Cwm Cynon a'i gyn-filwyr."
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr Lluoedd Arfog y Cyngor: "Rwy'n falch iawn fod caniatâd cynllunio bellach wedi'i roi ar gyfer y prosiect cyffrous yma, fydd yn llenwi'r bwlch ar wal Llyfrgell Aberdâr gyda murlun ffantastig ar thema'r Lluoedd Arfog. Mae'r Ardd Goffa wedi creu lle i fyfyrio ger y llyfrgell, a bydd y murlun yn sicrhau bod cefndir addas ar ei chyfer - gan wella'r amgylchedd gyhoeddus rydyn ni'n falch iawn ohoni ymhellach.
"Mae Cangen Aberdâr Cymdeithas Cymrodyr y Cymry Brenhinol yn gweithio'n ddiflino i gynnal a chadw'r Ardd Goffa, a hoffen i ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion parhaus. Mae'n addas hefyd bod y murlun newydd wedi derbyn caniatâd cynllunio yn ystod y cyfnod yma o'r flwyddyn, wrth i ni gyrraedd y cyfnod Cofio. Bydd y murlun ei hun yn cael ei greu'r flwyddyn nesaf, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y prosiect yn mynd rhagddo, gyda chefnogaeth lwyr y Cyngor."
Mae Cymdeithas Cymrodyr y Cymry Brenhinol yn gangen o gyn-filwyr sy'n croesawu personél milwrol o bob cangen o'r lluoedd. Maen nhw'n cwrdd ar ddydd Iau cyntaf bob mis am 7.30pm, yng Nghlwb Cwm Cynon, 30 Sgwâr Fictoria, Aberdâr, CF44 7LB.
I ddysgu rhagor am Ardd Goffa Lluoedd Cyfunol Cwm Cynon, ewch i'r dudalen Facebook yma, neu ewch i www.cvmemorial.org
Am wybodaeth am Gyfamod Lluoedd Arfog Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys y Gwasanaeth Cyngor i Gyn-filwyr a dolenni at grwpiau cymunedol ac elusennau, ewch i'r dudalen ganlynol ar wefan y Cyngor.
Wedi ei bostio ar 07/11/2024