Bydd cam cyntaf cynllun sylweddol i drwsio isadeiledd draeniau yn cael ei gynnal mewn sawl stryd yn Aberpennar dros yr wythnosau nesaf.
Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar drwsio rhannau o bibellau sy'n bodoli eisoes ac ailadeiladu tyllau archwilio - yn Stryd y Buddugwr, Stryd y Clogwyn, Stryd Eva, Stryd y Ffrwd a'r Stryd Fawr.
Bydd cam yma'r gwaith yn dechrau o ddydd Llun 11 Tachwedd ac yn cael ei gwblhau fis nesaf.
Bydd rhywfaint o darfu yn lleol wrth gyflawni'r cynllun - gan gynnwys culhau lonydd i ddefnyddwyr y ffordd o amgylch rhai ardaloedd gwaith er mwyn sicrhau diogelwch i'r cyhoedd. Bydd goleuadau traffig dwyffordd yn cael eu defnyddio ar ran o’r Stryd Fawr.
Bydd rhai rhannau o'r droedffordd hefyd ar gau dros dro, ond bydd llwybr amgen byr ac addas i gerddwyr ar gael lle bo hynny'n bosibl, a bydd arwyddion clir i’w gweld.
Bydd y gwaith yn cael ei gynnal gan Garfan Gofal y Strydoedd RhCT, a dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd angen cau ffyrdd na defnyddio mesurau rheoli traffig ychwanegol.
Bydd ail gam y gwaith yn dechrau yn y flwyddyn newydd, gan ganolbwyntio ar ardaloedd cyfagos eraill o'r rhwydwaith sydd heb gael sylw yn ystod cam un. Bydd y Cyngor yn rhannu manylion pellach maes o law.
Mae'r cynllun wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, gyda'r ddau gam gwaith yn cynrychioli buddsoddiad cyfunol gwerth dros hanner miliwn o bunnoedd.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad.
Wedi ei bostio ar 06/11/24