Skip to main content

Disgyblion bellach yn mwynhau cyfleusterau newydd sbon yn Ysgol Llanilltud Faerdref

Untitled design (8) RESIZE 3

Aeth y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg, i Ysgol Llanilltud Faerdref gydag Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, Lynne Neagle AS, ddydd Iau, 14 Tachwedd, er mwyn agor yr ysgol newydd sbon yn ffurfiol a chwrdd â’r disgyblion a’r staff sy’n ffynnu yn y cyfleusterau newydd.

Yn rhan o'r prosiect mae adeilad ysgol newydd wedi cael ei ddarparu, gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n cymryd lle'r adeiladau hŷn oedd yno o'r blaen, ac mae ardaloedd allanol y safle ehangach wedi cael eu datblygu.

Cafodd y prosiect ei ariannu trwy’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, sef ffrwd gyllido refeniw Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref oedd yr ysgol gyntaf yng Nghymru i gael ei darparu yn rhan o'r rhaglen yma, a hynny pan agorwyd yr ysgol newydd sbon i'r disgyblion ar 24 Ebrill 2024.

Yn rhan o’r buddsoddiad mae adeilad unllawr newydd wedi cael ei ddarparu, sy'n gweithredu’n adeilad Carbon Sero Net ac sydd â lle i hyd at 240 o ddisgyblion yn ogystal â 30 o ddisgyblion yn y dosbarth meithrin. Mae'n darparu amgylchedd dysgu bywiog a modern ar gyfer staff a disgyblion, a bydd rhai cyfleusterau hefyd ar gael i'r gymuned ehangach eu defnyddio.

Yn allanol, mae'r datblygiad yn cynnwys Ardal Gemau Aml-ddefnydd â dau gwrt, cae chwarae newydd a maes parcio.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg:  “Roedd yn wych gweld y disgyblion a’r staff yn mwynhau’r cyfleusterau newydd a gweld cymaint y maen nhw'n elwa arnyn nhw. Roedd clywed cyffro'r bobl ifanc wrth iddyn nhw ein tywys o amgylch eu cyfleusterau newydd yn wych. Hoffai'r Cyngor ddiolch i Lywodraeth Cymru am y cyllid i helpu i wneud hyn yn bosibl.

"Mae ein hanes cryf o ran darparu cyfleusterau ysgol newydd ledled y Fwrdeistref Sirol, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, wedi parhau dros y misoedd diwethaf.  Cafodd ysgolion newydd sbon eu cwblhau yng Nghilfynydd, y Ddraenen-wen a Rhydfelen, a hynny’n rhan o fuddsoddiad gwerth £79.9 miliwn yn ardal ehangach Pontypridd - wrth i Ysgol Bro Taf, Ysgol Afon Wen ac Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf agor cyn dechrau blwyddyn academaidd 2024/25 yn ogystal â buddsoddiad sylweddol yn Ysgol Gyfun Bryn Celynnog yn ardal Beddau."

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS: “Rwy’n falch o agor yr amgylcheddau dysgu cynaliadwy newydd yma yn Ysgol Llanilltud Faerdref a gweld sut y bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn cyfoethogi’r profiad addysgol ar gyfer ein disgyblion. Roedd yn wych clywed gan staff a disgyblion yr ysgol am y ffyrdd y maen nhw a'r gymuned ehangach yn elwa ar y cyfleusterau yma o’r radd flaenaf."
Wedi ei bostio ar 15/11/2024