Skip to main content

Disgyblion bellach yn mwynhau cyfleusterau newydd sbon yn Ysgol Gyfun Bryn Celynnog

Bryn Collage resize 3

Aeth y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg, i Ysgol Gyfun Bryn Celynnog gydag Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, Lynne Neagle AS, ddydd Iau, 14 Tachwedd er mwyn agor cyfleusterau newydd yn ffurfiol a chwrdd â'r disgyblion a'r staff sy'n elwa arnyn nhw.

Cafodd ystafelloedd dosbarth newydd ar gyfer y chweched dosbarth eu hadeiladu, ynghyd â chyfleusterau modern ar gyfer disgyblion o bob grŵp oedran.  Mae'r rhain yn cynnwys mannau ar gyfer gwersi celf, mathemateg a rhifedd, a dwy ystafell TGCh newydd. Mae disgyblion yr ysgol hefyd yn mwynhau’r gampfa, ystafell ffitrwydd a stiwdio ddawns newydd, ynghyd ag ardal codi/gollwng newydd a gwell i fysiau, a chae rygbi glaswellt newydd gafodd ei gwblhau yn gynharach yn y flwyddyn.

Mae'r buddsoddiad yma wedi cael ei ddarparu ar y cyd gan Gyngor Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru drwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy – ac mae’n rhan o raglen buddsoddi mewn ysgolion ehangach gwerth £75.6 miliwn yn ardal ehangach Pontypridd.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: “Wrth i’r disgyblion ddangos eu cyfleusterau newydd i ni, rwy'n gallu gweld sut mae’r ychwanegiadau newydd i’r ysgol yn cael eu croesawu gan ddisgyblion a sut maen nhw’n cefnogi eu haddysg a’u huchelgeisiau.

"Rwy'n falch iawn o gael cwmni Ysgrifennydd y Cabinet heddiw er mwyn agor y cyfleusterau newydd yn Ysgol Gyfun Bryn Celynnog yn swyddogol. Rydyn ni wedi cydweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru dros nifer o flynyddoedd, ac rydyn ni'n ddiolchgar am ei chefnogaeth barhaus i wella a moderneiddio ein hysgolion ledled Rhondda Cynon Taf."

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS: “Mae’n fraint cael agor y cyfleusterau newydd gwych yma yn swyddogol a gweld yn uniongyrchol sut y byddan nhw'n galluogi disgyblion Ysgol Gyfun Bryn Celynnog i gyrraedd eu llawn botensial. Mae'r buddsoddiad yma yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wella cyfleoedd addysgol, gan sicrhau bod disgyblion yn cael yr amgylchedd gorau i ddysgu ynddo; ac i ddarparu cyfleusterau chwaraeon a llesiant y gall pawb yn y gymuned eu defnyddio.”
Wedi ei bostio ar 20/11/2024