Skip to main content

Ffordd Mynydd y Rhigos i ailagor erbyn nos Wener yma

Rhigos 1 - Copy

Mae'r gwaith atgyweirio mawr ar ochr y mynydd ar Ffordd Mynydd y Rhigos bron wedi gorffen. Mae modd i'r Cyngor gadarnhau bod disgwyl i'r gwaith sylweddol gael ei gwblhau, ac i'r ffordd ailagor, ddydd Gwener, 22 Tachwedd. Serch hynny, mae hyn yn dibynnu ar y tywydd – efallai bydd eira a rhew yn effeithio ar y gwaith ac yn achosi oedi.

Yn gynharach y mis yma, rhoddodd y Cyngor y newyddion diweddaraf ynglŷn â chynnydd cam olaf y gwaith, sydd wedi bod yn hynod heriol. Rhoddodd amserlen wedi'i diweddaru a fyddai'n sicrhau bod y cynllun atgyweirio cymhleth yma'n cael ei gwblhau'n ddiogel. Mae'r cynllun yn parhau yn unol â'r amserlen cwblhau wedi'i chytuno.

Mae modd i'r Cyngor gadarnhau bod disgwyl i'r ffordd ailagor erbyn nos Wener, 22 Tachwedd. Mae hyn yn dibynnu ar y tywydd – mae amodau tywydd gaeafol yn y rhanbarth ehangach ar hyn o bryd. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i drigolion am y trefniadau ddydd Gwener, unwaith y byddan nhw wedi'u cadarnhau.

Mae'r ffordd rhwng Treherbert a Rhigos wedi bod ar gau ers 22 Gorffennaf, sy'n gwbl angenrheidiol er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd yn ystod cyfnod y gwaith. Roedd y gwaith yma'n hanfodol yn dilyn tân gwyllt blaenorol tua phen Treherbert – a wnaeth achosi difrod mawr ar draws rhan sylweddol o ochr y mynydd, ei rwydi a'i ffensys.

Cau Ffordd Mynydd y Rhigos – Cwestiynau Cyffredin

Heb i'r gwaith yma gael ei gwblhau yn drwyadl a chyflawn, gallai wyneb y graig fod wedi dirywio ymhellach. Yn y sefyllfa yma, mae’n bosibl y byddai fod wedi angen cau’r ffordd ar frys dros gyfnod llawer hwy o amser.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Roedd cyhoeddiad blaenorol y Cyngor yn nodi y byddai Ffordd Mynydd y Rhigos yn ailagor ar 22 Tachwedd yn dilyn y gwaith atgyweirio ar ochr y mynydd. Mae modd inni gadarnhau mai dyma'r sefyllfa o hyd. Bydd ein contractwr yn cwblhau camau olaf ei waith, ac yn gadael y safle dros y dyddiau nesaf – gyda'r bwriad o ailagor y ffordd erbyn nos Wener. Does dim angen y goleuadau traffig a oedd yn eu lle yn flaenorol mwyach.

“Dros fisoedd yr haf a’r hydref, mae gweithlu’r contractwyr wedi gwneud ymdrechion sylweddol mewn amgylchedd heriol iawn – ac er bod cam olaf y gwaith wedi cymryd mwy o amser na’r disgwyl, mae’r cynnydd cyffredinol wedi bod yn sylweddol ac yn gyflawniad mawr. Bydd y cynllun yn unioni'r difrod wedi'i achosi gan y tân blaenorol, ac yn sicrhau bod y llwybr cymudo yma rhwng Treherbert a Rhigos yn parhau i fod ar gael i gymunedau yn y dyfodol.

“Hoffen ni ddiolch i drigolion a defnyddwyr y ffyrdd am eu hamynedd parhaus yn ystod cyfnod cau'r ffordd. Rydyn ni'n llwyr effro i'r aflonyddwch mae’r gwaith yma wedi’i achosi, fodd bynnag, roedd y cynllun yn gwbl angenrheidiol er mwyn diogelu’r ffordd at y dyfodol ac osgoi ei chau mewn argyfwng dros gyfnod hirach fyth.”

Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i drigolion pan fydd Ffordd Mynydd y Rhigos yn ailagor ddydd Gwener – cadwch lygad ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ('@CyngorRhCT' ar X, 'Rhondda Cynon Taf' ar Facebook).

Wedi ei bostio ar 19/11/2024