Mae'r cynllun sylweddol parhaus i ailadeiladu wal gynnal y briffordd ar Stryd Margaret yn ardal Pont-y-gwaith yn agosáu at gael ei gwblhau, bydd y ffordd sydd wedi cau yn ailagor nos Wener yn dilyn gwaith gosod wyneb newydd ar y ffordd.
Dechreuodd y Cyngor y cynllun pwysig yma yng nghanol mis Awst 2024 er mwyn atgyweirio problem hirdymor oedd wedi'i achosi gan ddifrod yn dilyn storm. Mae'r cynllun wedi mynd rhagddo’n dda drwy gydol yr haf a'r hydref, ac mae rhan fawr o'r strwythur, sydd oddeutu 40 metr o hyd, bellach wedi’i ailadeiladu.
Roedd rhaid cau'r ffordd ar Stryd Margaret er mwyn sicrhau bod modd cynnal y gwaith yn ddiogel, a hynny gan fod peiriannau mawr a thechnegau adeiladu arbenigol yn cael eu defnyddio. Mae bws gwennol hefyd wedi bod yn gweithredu rhwng Aberllechau ac ardal Pont-y-gwaith ynghyd â threfniadau bws dros dro eraill.
Bydd gwaith gosod wyneb newydd ar y ffordd yn cael ei gynnal gan gontractwr y Cyngor ar ddiwedd yr wythnos yma. Bydd hyn yn golygu bod modd agor y ffordd nos Wener, 22 Tachwedd gan ddibynnu ar y tywydd.
Bydd yr holl fesurau rheoli traffig dros dro oedd ar waith cyn i'r cynllun ddechrau yn dod i ben hefyd. Bydd pob gwasanaeth bws lleol yn dychwelyd i'w trefn gweithredu arferol a bydd y gwasanaeth bws gwennol yn dod i ben yn dilyn hyn.
Mae'r cynllun wedi'i gyflawni yn rhan o Raglen Priffyrdd a Thrafnidiaeth 2024/25 y Cyngor, sydd wedi’i ariannu gan gyllid ar gyfer Strwythurau’r Priffyrdd.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Rwy'n falch bod y cynllun sylweddol yma yn ardal Pont-y-gwaith bellach yn agosáu at gael ei gwblhau, rydyn ni’n rhagweld y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau ar 22 Tachwedd. Mae wedi gwella cyfanrwydd strwythurol wal gynnal y briffordd gan ddarparu datrysiad hirdymor i'r broblem a wynebwyd o ganlyniad i'w chyflwr. Cafodd goleuadau traffig dros dro eu gosod a’u defnyddio am gyfnod sylweddol cyn dechrau ar y gwaith, a hynny i sicrhau diogelwch.
"Mae'r Cyngor yn parhau i wneud cynnydd yn rhan o raglen gynhwysfawr ar gyfer gwaith atgyweirio a chynnal a chadw strwythurau’r priffyrdd yn 2024/25, mae £6.58 miliwn wedi'i ddyrannu i Raglen Gyfalaf y Priffyrdd a Thrafnidiaeth eleni. Cafodd cyllid ychwanegol gwerth £2.25 miliwn ei gytuno ym mis Medi 2024 yn rhan o fuddsoddiad untro ehangach ym meysydd blaenoriaeth y Cyngor. Bydd y cyllid ychwanegol yma yn golygu bod modd cynnal pum cynllun pellach ar bontydd neu wal gynnal - mae’r cynlluniau yma wedi’u lleoli yn ardal Porth, Stanleytown, Glyn-taf, Ynys-hir a Threhafod - yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
"Hoffwn i ddiolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd yn ardal Pont-y-gwaith a'r cymunedau cyfagos am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith atgyweirio. Rydyn ni'n effro iawn i’r ffaith bod cau'r ffordd wedi tarfu ar bobl yn yr ardal leol. Bydd y ffordd yn ailagor ar ôl i’r cynllun, sydd bellach wedi cyrraedd y camau olaf, gael ei gwblhau."
Wedi ei bostio ar 19/11/24