Mae'r 24 awr ddiwethaf wedi rhoi cyfle i ni gael darlun cliriach o'r effaith y mae Storm Bert wedi'i chael ar ein cymunedau. Cafwyd dros fis o law mewn cyfnod byr iawn ledled Rhondda Cynon Taf. Ar fore Sul, derbyniodd ein canolfan alwadau bron i 600 o alwadau gan drigolion yn rhoi gwybod am faterion oedd wedi codi.
Mae'r awgrymiadau cychwynnol a nododd fod 300 eiddo dan ddŵr bellach wedi'u diwygio, ac erbyn hyn mae'n bosibl bod 200 eiddo wedi'u heffeithio. Mae'r Cyngor yn gweithio i gadarnhau pa eiddo sydd wedi dioddef llifogydd mewnol, ac mae nifer o'n carfanau'n gweithio ar lawr gwlad i gefnogi trigolion a'r camau adfer.
Mae staff o’n carfan cydnerthedd y gymuned wrthi'n siarad â thrigolion er mwyn deall eu hanghenion fel bod modd i ni ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw ar unwaith ac yn y dyfodol agos. Bydd rhagor o gymorth i drigolion yn cael ei gyhoeddi'n fuan iawn, gan gynnwys manylion cymorth ariannol.
Rydyn ni wedi gosod sgipiau yn yr ardaloedd sydd wedi dioddef llifogydd, bydd y rhain yn rhoi cyfle i drigolion sydd wedi'u heffeithio i gael gwared ar eitemau sydd wedi'u difrodi. Bydd y Cyngor yn trefnu bod y rhain yn cael eu casglu yn ôl yr angen.
Mae ein Carfan Rheoli Perygl Llifogydd eisoes wrthi'n archwilio ardaloedd lle mae llifogydd wedi digwydd er mwyn deall yn well sut mae gwahanol ddigwyddiadau llifogydd wedi digwydd a pham.
Mae'r Cyngor wedi bod yn paratoi ers dydd Iau diwethaf, gan sicrhau bod yr holl adnoddau sydd ar gael yn cael eu darparu, gan ragweld y bydd Storm Bert yn dod yn ddigwyddiad tywydd mawr. Roedd hyn yn cynnwys glanhau ac archwilio draeniau a chwlferi, sicrhau bod ein holl offer monitro yn gweithio ac ymateb i adroddiadau gan drigolion. Bu criwiau hefyd yn gweithio i gefnogi trigolion, gyda llawer o swyddogion hefyd yn gweithio sifftiau dwbl neu'n canslo gwyliau blynyddol er mwyn helpu i gefnogi trigolion.
Ers Storm Dennis, mae'r Cyngor wedi cynnal llawer o waith i wella cwlferi a systemau draenio, ac er bod rhai o'r rhain wedi'u gorlwytho, rydyn ni wedi gweld bod y buddsoddiad sylweddol wedi diogelu sawl eiddo neu'n golygu bod yr effaith wedi'i lleihau.
Fodd bynnag, roedd llifogydd afonydd yn ffactor arwyddocaol yn ystod Storm Bert gyda lefelau afonydd mewn rhai ardaloedd yn codi'n uwch nag yn ystod Storm Dennis.
Mae swyddogion wrthi'n archwilio'r priffyrdd a seilwaith, ac mae gwaith brys ar y priffyrdd eisoes wedi dechrau, gan gynnwys ar yr A4059 yn Aberpennar. Dylai pobl sy'n teithio fod yn effro i'r ffaith ei bod hi'n bosibl y bydd angen gwneud gwaith brys ar fyr rybudd, felly mae'n bosibl y bydd rhywfaint o darfu. Cafodd Pont Droed y Bibell Gludo yn Abercynon, a gafodd ei hailadeiladu yn dilyn difrod yn ystod Storm Dennis, ei difrodi'n llwyr gan ymchwydd yr afon ac mae effaith hyn yn cael ei hasesu ar hyn o bryd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi rhoi gwybod y bydd angen cynnal gwaith pellach ar Ffordd Mynydd y Bwlch i Nant-y-moel, Pen-y-bont ar Ogwr, a hynny er mwyn diogelu’r tir uwchben y briffordd. Hefyd, bydd angen i beirianwyr asesu'r argloddiau cyn ailagor y ffordd. Felly, mae’r Awdurdod Lleol wedi nodi ei bod hi'n debygol y bydd y ffordd yn parhau i fod ar gau tan o leiaf yfory – dydd Mawrth, 26 Tachwedd.
Bydd Parc Coffa Ynysangaharad yn parhau i fod ar gau o leiaf heddiw ac yfory wrth i ni asesu'r difrod a chynnal gwaith clirio, byddwn ni'n rhannu diweddariad pellach mewn perthynas ag ailagor y parc. Mae Lido Ponty wedi’i ddifrodi, ac mae gwaith ar y gweill i lanhau ac atgyweirio’r cyfleuster.
Wedi ei bostio ar 25/11/2024