Ddydd Mawrth lansiodd y Cyngor y Grant Adfer yn dilyn Llifogydd Cymunedol gwerth £1,000 ar gyfer trigolion a busnesau sydd wedi dioddef llifogydd mewnol yn ystod Storm Bert. Ers hynny mae 192 o geisiadau wedi dod i law. Mae staff y Cyngor hefyd yn ymweld â thrigolion sydd wedi cael eu heffeithio i'w helpu i wneud cais a chael rhagor o gymorth.
Rydyn ni'n annog pobl i wirio eu bod nhw'n gymwys a gwneud cais yma: www.rctcbc.gov.uk/CymorthLlifogydd. Byddwn ni hefyd yn defnyddio'r manylion y mae trigolion yr effeithir arnyn nhw wedi'u rhoi i ni er mwyn gwneud taliad Llywodraeth Cymru.
Gofynnwn i bobl wneud cais fel bod gyda ni'r manylion banc cywir ar gyfer y rheiny yr effeithir arnyn nhw er mwyn prosesu taliadau mor gyflym â phosibl ac er mwyn i ni roi cymorth ychwanegol mewn perthynas ag eithriadau Treth y Cyngor a Threthi Busnes a threfnu casglu eitemau sydd wedi'u difrodi o eiddo heb sgipiau ar y stryd. Yn ogystal, mae'n bosibl bod achosion o lifogydd mewnol dydy pobl ddim wedi rhoi gwybod amdanyn nhw i ni. Mae'n bwysig bod gan y bobl yn yr eiddo hynny fodd i dderbyn yr ystod o gymorth.
Mae llawer iawn o falurion a deunydd wedi’u dyddodi gan Storm Bert, a ddaeth i lawr o’r bryniau a’r mynyddoedd o’n cwmpas.
Mae ein carfan Rheoli Perygl Llifogydd yn parhau i ymchwilio lle mae llifogydd wedi digwydd a hyd yn hyn wedi cadarnhau bod tua 249 o adeiladau sydd wedi llifogydd tu mewn. Fel Cyngor, rydyn ni'n gyfrifol am reoli perygl llifogydd o ddŵr wyneb trwy ein draeniau, cwteri a chyrsiau dŵr bach rydyn ni'n eu rheoli trwy gwlferi sy'n eiddo i'r Cyngor. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am amddiffynfeydd rhag llifogydd o afonydd a rhybuddion.
Fe gyfarfu Arweinydd y Cyngor â'r Swyddfa Dywydd heddiw i drafod y pryderon a fynegwyd mewn perthynas â'r rhybuddion tywydd a gafodd eu cyhoeddi cyn Storm Bert. Hoffai'r Cyngor gofnodi diolch i'r Swyddfa Dywydd am geisio cyfarfod mor gyflym â'r Cyngor mewn ymateb i'r llifogydd a gafwyd ar draws Rhondda Cynon Taf ddydd Sul.
Ddoe, fe gyfarfu Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Andrew Morgan â chynrychiolwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru i godi pryderon trigolion bod rhybuddion llifogydd wedi’u cyhoeddi’n rhy hwyr ddydd Sul.
Mae dyletswydd gyfreithiol arnon ni i ymchwilio i bob achos o lifogydd, boed hynny o ganlyniad i lifogydd o afon, cyrsiau dŵr preifat neu ddraeniau a chwlferi sy'n cael eu cynnal a chadw gan y Cyngor.
O ganlyniad i'r difrod a achoswyd i Barc Coffa Ynysangharad, fydd y parc DDIM ar agor cyn diwedd yr wythnos nesaf ar y cynharaf. Mae hyn gan fod angen gwneud atgyweiriadau hanfodol, gan gynnwys:
- Symud a glanhau llawer o faw a malurion a adawyd ym mhob rhan o’r parc, gan gynnwys ei lwybrau, ei adeiladau a’i ddodrefn.
- Glanhau ardal chwarae'r Lido ac ailosod offer a gafodd eu halogi gan ddŵr llifogydd.
- Gosod ffens ddiogelwch newydd yn lle'r hen ffens sy’n rhedeg ochr yn ochr â'r Afon Taf rhwng pont newydd Llys Cadwyn a hen Bont M&S.
Mae angen gwaith atgyweirio helaeth ar yr ardal chwaraeon aml-ddefnydd a'r ardal fowlio. Mae'n debygol y bydd hyn yn cymryd peth amser. Bydd yr ardal yma ar gau er mwyn i waith barhau pan fydd y parc yn ailagor.
Diolch i ymdrechion staff y Lido fore Sul yn defnyddio llifddorau a phympiau, dydy Lido Ponty ddim wedi dioddef yr un math o ddifrod â'r difrod a achoswyd yn ystod Storm Dennis. Mae'r pyllau'n cael eu draenio a'u glanhau, mae systemau hidlo'n cael eu profi, ac mae'r safle'n cael ei lanhau'n drylwyr. Ar hyn o bryd, rydyn ni'n dal yn obeithiol y bydd modd cynnal sesiwn nofio flynyddol Gŵyl San Steffan a bod modd i'r lleoliad ailagor.
Serch hynny, wrth i'r gwaith atgyweirio barhau, mae'r dyddiad rhyddhau tocynnau arfaethedig ar gyfer sesiynau nofio Gŵyl San Steffan a Dydd Calan wedi'i ohirio. Cadwch lygaid ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Lido Ponty am ragor o wybodaeth. Byddwn ni'n adolygu'r sefyllfa yn y dyddiau nesaf ac yn rhoi diweddariad pellach ar y posibilrwydd o ailagor y parc a'r Lido yr wythnos nesaf.
Mae'r gwaith o adeiladu Pont Droed y Bibell Gludo newydd wedi'i atal yn dilyn Storm Bert. Cafodd pibellau gwreiddiol y bont, ei phileri, a sgaffaldiau dros dro eu golchi i ffwrdd yn ystod y storm. Byddwn ni'n asesu'r prosiect a'r camau nesaf. Mae prif ran strwythur y bont newydd yn cael ei hadeiladu i ffwrdd o'r safle ac heb ei chodi i'w lle eto.
Rydyn ni'n ymgysylltu’n adeiladol â Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid i uwchraddio a gwella cwlferi ac asedau eraill ac atgyweirio difrod. Rydyn ni wedi gwario dros £100 miliwn ar welliannau o’r fath ers Storm Dennis ac rydyn ni'n falch bod y rhan fwyaf o’r seilwaith yma sydd newydd ei osod a’i wella wedi dal ac wedi diogelu nifer fawr o eiddo a fyddai fel arall wedi'u heffeithio gan lifogydd. Byddwn ni'n parhau ar gyflymder gyda rhagor o waith i gwlferi eraill ac rydyn ni eisoes wedi trafod y cyllid sydd ei angen ar gyfer hyn gyda Llywodraeth Cymru.
Er ei bod yn amhosibl atal llifogydd yn ystod glaw sylweddol, mae llawer yn rhagor rydyn ni am ei wneud i sicrhau bod modd i ni leihau’r perygl i’n cymunedau lle mae'r cyfle gyda ni i wneud hynny.
Wedi ei bostio ar 29/11/2024