Skip to main content

Deuddeg mlynedd o Apêl Siôn Corn yn Rhondda Cynon Taf

Santa-Appeal-Banner resize 1

Dewch â llawenydd i blentyn y Nadolig yma trwy roi rhodd i'n Hapêl Siôn Corn flynyddol!

Dyma ddeuddegfed flwyddyn Apêl Siôn Corn, ac mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau miloedd o blant ar Ddydd Nadolig.  Mae hyn yn bosibl o ganlyniad i gefnogaeth aruthrol pobl ledled Rhondda Cynon Taf a thu hwnt!

Bob blwyddyn mae trigolion, busnesau, elusennau a sefydliadau gwych yn rhoddi miloedd o anrhegion i blant a phobl ifainc na fydden nhw, o bosibl, wedi cael anrheg i'w hagor ar Ddydd Nadolig fel arall.

Diolch i'ch haelioni, mae pob plentyn a pherson ifanc sy'n cael ei nodi gan weithwyr cymdeithasol Cyngor Rhondda Cynon Taf yn derbyn o leiaf un anrheg ar Ddydd Nadolig. Bydd pob anrheg wedi'i dewis yn ofalus gennych chi, gan gynnwys tocynnau rhodd, os ydych chi'n dymuno, ar gyfer y plant hŷn ar restr Siôn Corn!

Mae cefnogi Apêl Siôn Corn 2024 yn hawdd - y cyfan y mae angen i chi ei wneud yw e-bostio: ApelSionCorn@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 425025 a rhoi gwybod i weithwyr Siôn Corn sawl plentyn hoffech chi brynu anrheg/tocyn rhodd ar ei gyfer.

Yna, fe gewch chi enw ac oedran plentyn.  Bydd enw'r plentyn rydych chi'n ei dderbyn yn enw amgen, er mwyn diogelu hunaniaeth y plentyn, ond bydd yr enw yn cynrychioli plentyn go iawn yn Rhondda Cynon Taf.

Mae ein Llinell Apêl Siôn Corn yn agor ar Dydd Mawrth, Tachwedd 5. Bydd y llinellau ar agor rhwng 9.30am a 4.30pm o ddydd Mawrth i ddydd Gwener. Y dyddiad olaf i gysylltu â ni er mwyn rhoi anrheg yw Dydd Gwener, Rhagfyr 6, ac mae angen i ni dderbyn yr holl anrhegion erbyn Dydd Llun, Rhagfyr 9.

Unwaith y byddwch chi'n derbyn enw ac oedran eich plentyn neu berson ifanc, byddwch chi'n derbyn manylion eich man gollwng anrhegion agosaf. Rhaid i'r holl anrhegion fod mewn bagiau anrheg agored, ac yn eu man casglu erbyn Dydd Llun, Rhagfyr 9.

Bydd gweithwyr Siôn Corn yn casglu'ch anrhegion o'r holl fannau casglu a sicrhau eu bod nhw yng nghartrefi'r plant ar Ddydd Nadolig. 

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Ers deuddeg mlynedd, mae ein Hapêl Siôn Corn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i gynifer o blant a phobl ifainc ar Ddydd Nadolig. Unwaith eto, rydw i'n falch iawn bod modd i ni helpu’r plant a’r bobl ifainc hynny na fyddai, o bosibl, yn agor anrheg fel arall.

“Dyma ddiolch o waelod calod i bawb sydd wedi rhoi anrheg/tocyn rhodd yn y gorffennol ac i bawb sy'n bwriadu gwneud eleni. Rydych chi'n gwneud rhywbeth arbennig iawn.

"Mae Apêl Siôn Corn bellach yn draddodiad Nadoligaidd sydd wedi'i hen sefydlu ac mae miloedd o anrhegion wedi cael eu rhoddi a'u dosbarthu ledled Rhondda Cynon Taf dros y blynyddoedd. Mae haelioni'n cymunedau lleol wedi bod yn aruthrol.

"Unwaith yn rhagor, rydyn ni'n gofyn i chi'n cefnogi ni a rhoi beth bynnag y gallwch chi wrth i ni helpu eraill yn ystod yr adeg arbennig yma o'r flwyddyn. Gyda'n gilydd gallwn ni i gyd ddangos ein bod ni'n meddwl am eraill y Nadolig yma.

“O ganlyniad i'ch haelioni, bydd gan bob plentyn neu berson ifanc anrheg i'w hagor ar Ddydd Nadolig.”

#ApêlSiônCorn2024

Wedi ei bostio ar 05/11/24