Mae'r Cyngor wedi derbyn y newyddion diweddaraf gan y contractwr, Alun Griffiths, ar gynnydd y gwaith atgyweirio sylweddol ar Ffordd Mynydd y Rhigos. Mae cam olaf y gwaith wedi bod yn hynod heriol, gyda'r angen i symud a chludo 700 tunnell arall o graig o'r safle, a oedd yn annisgwyl yn y rhaglen waith gychwynnol.
Er gwaethaf yr ymdrechion gorau i ddod â’r dyddiad cwblhau targed ymlaen, mae’r rhagamcan diweddaraf yn nodi y bydd y gwaith yn parhau tan ddydd Gwener, Tachwedd 22. Bydd hyn yn sicrhau bod y cynllun mawr hwn yn cael ei gwblhau'n ddiogel ac yn ei gyfanrwydd.
Cafodd y ffordd fynydd rhwng Treherbert a Rhigos ei chau o Orffennaf 22 fel mesur cwbl angenrheidiol i sicrhau diogelwch drwy gydol y cynllun adfer mawr. Mae'r gwaith yma'n hanfodol er mwyn unioni difrod o dân gwyllt blaenorol tua phen Treherbert - gan achosi difrod mawr ar draws rhan sylweddol o ochr y mynydd, ei rwydi a'i ffensys.
Mae'r cynllun atgyweirio yn hanfodol i ddiogelu'r llwybr allweddol hwn at y dyfodol. Yn gyffredinol, mae’r gwaith wedi gwneud cynnydd sylweddol ers yr haf mewn amgylchedd heriol iawn – ac mae bellach yn cyrraedd ei gamau olaf gyda chyfres o weithiau cywrain. Er bod dau gam cyntaf y gwaith wedi'u cwblhau yn unol â'r rhaglen, mae'r trydydd cam a'r cam olaf wedi datblygu i fod yn waith llawer mwy na'r disgwyl.
Heb i'r gwaith hwn gael ei gwblhau yn drwyadl a chyflawn, gallai wyneb y graig ddirywio ymhellach. Yn y sefyllfa hon, mae’n bosibl y byddai angen cau’r ffordd ar frys dros gyfnod llawer hwy o amser. Mae'r diweddariad cynnydd llawn gan y contractwr wedi'i gynnwys ar waelod yr erthygl hon - gan gynnwys yr hyn sydd wedi'i gyflawni ers y diweddariad diwethaf ym mis Hydref, a'r cynlluniau i wacháu'r safle o'r wythnos nesaf ymlaen gan symud y peiriannau trwm oddi yno.
Cau Ffordd Mynydd y Rhigos – Cwestiynau Cyffredin
Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf : “O’r cychwyn cyntaf, mae’r Cyngor wedi bod yn glir iawn bod gwaith adfer Ffordd Mynydd y Rhigos yn brosiect cymhleth, sy’n ymdrin â seilwaith enfawr mewn amgylchedd heriol ar ochr y mynydd – sydd wedi gofyn am waith contractwyr arbenigol. Ar gyfer prosiectau mor gymhleth a hirfaith, mae'n anodd iawn rhagweld amserlenni cwblhau yn gywir o'r cychwyn, oherwydd nifer y newidynnau posibl.
“Ar ddechrau’r prosiect, roeddem ni wedi gobeithio y gallai’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd mis Hydref, yn seiliedig ar yr holl wybodaeth oedd ar gael.
"Mae'r amserlen cwblhau amcangyfrifedig newydd, sef 22 Tachwedd, yn ganlyniad i sawl ffactor - mae'r rhain yn cynnwys amodau drilio cymhleth iawn oherwydd natur y ddaeareg, maint y deunydd rhydd ar wyneb y graig, a'r mynediad cyfyngedig i'r safle. Mae cynnal sefydlogrwydd wyneb y graig yn ystod gwaith drilio yn gofyn am ddull gweithredu cyson, gan sicrhau bod y risg o gwymp creigiau'n cael ei reoli'n ddiogel a bod gweithlu'r contractwr yn cael ei gadw'n ddiogel bob amser.
“Hoffem ni ddiolch i gymunedau lleol am eu hamynedd a’u cydweithrediad parhaus, ac rydym ni'n llwyr ddeall yr aflonyddwch a achoswyd gan y cau. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni gwblhau'r prosiect yma'n llawn i sicrhau bod y ffordd fynydd ar gael ac yn ddiogel i'r dyfodol, a dyma beth rydyn ni i gyd ei eisiau."
Diweddariad ynghylch cynnydd – wythnos yn dechrau Dydd Llun 4 Tachwedd
Mae'r holl rwydi creigiau gyda gorchudd plastig wedi'u difrodi gan dân hanesyddol o fewn parthau un i dri bellach wedi'u symud o'r llethrau. Disodlwyd y rhain gan fesurau gwell, sy'n cynnwys naill ai rhwydi cwympiadau creigiau goddefol neu weithredol a gwanhau cwympiadau creigiau. Mae'r holl offer newydd yn ddur galfanedig, sy'n gallu gwrthsefyll tân ac nad yw'n meddu ar yr un tân â'r hen rwyll wedi'i gorchuddio â phlastig.
Mae gosod y gwanhawyr creigiau ym mharth un a dau wedi'i gwblhau i raddau helaeth, ynghyd â strwythur y gwanhawr ym mharth tri - lle mae'r gwaith gosod rhwyll tua 80% wedi'i gwblhau. Mae gwrthgloddiau a gwaith cloddio ym mharthau dau a thri hefyd bellach wedi'u cwblhau. Mae gosod sylfeini rhwystr y creigiau wedi'i orffen gyda'r angorau tua hanner o'r gwaith wedi'i gwblhau - bydd gweddill y rhain a'r strwythur rhwystr yn cael eu gosod yn fuan.
Mae'r gwaith cyffredinol bron wedi'i gwblhau. Bydd gwaith profi a chomisiynu angor terfynol yn dilyn cwblhau gosod rhwystr GBE. Bwriedir dechrau ar y gwaith o wacáu'r safle o'r wythnos nesaf, a bydd llawer o'r peiriannau a'r offer mawr yn cael eu symud fesul cam tan y dyddiad cwblhau newydd.
Wedi ei bostio ar 05/11/2024