Roedd staff Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn falch o groesawu Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, yn ystod Wythnos Genedlaethol Amgueddfeydd ym mis Hydref.
Yng nghwmni Cynghorwyr Rhondda Cynon Taf, Ros Davis a Gareth Caple, gwnaeth Mr Sargeant fwynhau taith gynhwysfawr o'r amgueddfa, gan gynnwys taith dan ddaear unigryw ar daith yr Aur Du. Wedi'i arwain gan Tony, un o'n tywyswyr sy'n gyn-lowr, aeth Mr Sargeant dan ddaear i ddysgu am fywyd glofaol - taith sydd bob tro yn llawn o ffeithiau hanesyddol ac atgofion personol y tywyswyr o fywyd dan ddaear.
Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda wedi'i lleoli ar hen safle Pwll Glo Lewis ac erbyn heddiw mae'n amgueddfa fyw sy'n ymrwymedig i arddangos y cyfnod pan oedd glo adnabyddus Cwm Rhondda yn pweru'r byd.
Yn ogystal â mynd dan ddaear, cafodd Mr Sargeant gyfle i weld yr arddangosfa ryngweithiol newydd sbon lle mae lluniau o'r archifau a dros 400 o arteffactau'n dod â'r hanes yn fyw.
Meddai:
"Roedd hi’n bleser ymweld ag Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda a chael gweld sut mae'r lleoliad yn hygyrch i bawb - nid yn unig trwy'r arddangosfeydd a'r daith fendigedig, ond trwy'r achlysuron sy'n cael eu cynnal yno trwy gydol y flwyddyn. Mae hi bob amser yn wych gweld yn uniongyrchol sut mae cyllid Llywodraeth Cymru o fudd i’n hamgueddfeydd a’u cymunedau, gan ganiatáu iddynt roi croeso gwell i unrhyw un sydd am ddod i’r achlysuron a’r arddangosfeydd cyffrous yma.
"Roedd y daith nid yn unig yn addysgiadol ond yn hynod ddiddorol - ac mae gan yr arddangosfa ryngweithiol llwyth o gwisiau, posau a lluniau gwreiddiol o'r archifau ar bynciau amrywiol o Ryfel Cartref Sbaen i Streic y Glowyr. Mae'n rhywbeth y mae modd ymweld ag ef sawl gwaith gan fod rhywbeth newydd i'w ddarganfod bob tro - rhywbeth sy'n allweddol i ddenu ymwelwyr i'r llawer o amgueddfeydd sydd gyda ni yma yng Nghymru."
Yn ystod Wythnos Amgueddfeydd, roedd y lleoliad yn un o blith 40 amgueddfa yng Nghymru a gymerodd ran yn Her Pasbort Llwybrau Hanes Cymru a ofynnodd i blant gasglu pasbort a'i stampio ac yna cymryd rhan mewn rhai gweithgareddau yn ystod eu hymweliad.
Trwy gydol y flwyddyn, mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn cynnal grwpiau ymchwil lle y mae croeso i bawb, gydag achlysuron fel Rhialtwch Calan Gaeaf ac Ogof Siôn Corn. Mae'r drysau ar agor drwy gydol y flwyddyn ar gyfer arddangosfeydd am ddim a Thaith Dan Ddaear yr Aur Du.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.parctreftadaethcwmrhondda.com.
Wedi ei bostio ar 06/11/2024