Yn dilyn gosod isadeiledd draenio, bydd y prif waith o greu 52 o leoedd parcio yng Ngorsaf Reilffordd Treorci yn dechrau'n fuan - gyda cyn lleied o darfu ar drigolion lleol â phosibl, gan fod y cyfleuster yn cael ei adeiladu ar dir nad yw’n cael ei ddefnyddio.
Mae'r Cyngor yn cefnogi Trafnidiaeth Cymru i greu'r cyfleuster parcio a theithio newydd ar dir ger Clos Ystradfechan. Mae'r safle wedi'i leoli i'r de o gae pêl-droed Cae Mawr ac i'r de-ddwyrain o'r orsaf drenau - y tu hwnt i'r maes parcio bach presennol sydd i'w gweld yn y llun. Trafnidiaeth Cymru sydd yn berchen ar y safle yma, a chafodd ei ddefnyddio'n ddiweddar i gadw offer ar gyfer gwaith trydaneiddio rheilffyrdd.
Ym mis Gorffennaf 2024, dechreuodd y gwaith cychwynnol i sefydlu piblinell ddraenio wrth ymyl y cae pêl-droed, ynghyd â thanc gwanhau i'r gogledd o'r cae. Bydd dŵr glaw o'r maes parcio newydd yn cael ei gludo ar hyd y llwybr yma i'r afon, drwy'r rhandiroedd. Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith draenio yma bellach wedi'i gwblhau.
Bydd y gwaith yn mynd rhagddo tuag at ddechrau’r prif gam adeiladu ym mis Tachwedd 2024, a fydd yn sefydlu'r cyfleuster parcio newydd. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi nodi bod disgwyl i’r cam yma o waith gael ei gwblhau yng ngwanwyn 2025.
Ar y cyfan, bydd 52 o leoedd parcio'n cael eu creu - 43 lle cyffredinol, 6 lle ar gyfer gwefru cerbydau trydan a 3 lle i bobl anabl. Bydd y safle'n cynnwys draenio cynaliadwy trwy saith gardd law, pob un tua maint lle parcio.
Bydd angen i’r Contractwr, Centregreat Ltd, gau’r maes parcio bach sy'n gwasanaethu Gorsaf Reilffordd Treorci yn ystod y gwaith adeiladu. Dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd llawer o aflonyddwch pellach yn y gymuned leol.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi darparu cyllid ar gyfer cost adeiladu'r cynllun, a hynny drwy ei Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth 2024/25.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae'n bwysig iawn ein bod ni’n parhau i annog rhagor o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na gyrru ar gyfer mynd ar eu eu teithiau bob dydd - a bydd darparu cyfleusterau Parcio a Theithio newydd, fel yr un yma yn Nhreorci, yn gwneud hyn yn fwy hygyrch o lawer i drigolion. Bydd hyn yn lleihau tagfeydd ar ein ffyrdd, lleihau amseroedd teithio lleol, a diogelu'r amgylchedd.
"Bydd cynllun Parcio a Theithio Treorci yn gwella’r ddarpariaeth bresennol yn sylweddol - gan uwchraddio'r maes parcio bach sydd ar hyn o bryd yn gwasanaethu'r orsaf i gyfleuster sydd â 52 cilfach parcio ac isadeiledd draenio cynaliadwy. Rydyn ni’n cefnogi'r cynllun yma gyda buddsoddiad cyfalaf o tua £733,000, a hynny am ei fod yn brosiect pwysig i ategu darpariaeth Metro De Cymru – gan alluogi trigolion i fanteisio ar amlder cynyddol gwasanaethau rheilffordd ar reilffyrdd y Rhondda.
"Dechreuodd gwaith draenio cychwynnol i ategu'r prif gynllun ym mis Gorffennaf, ac mae'r gwaith yma bron â chael ei gwblhau bellach. Bydd hyn yn golygu bod modd dechrau adeiladu'r maes parcio o ddechrau'r mis nesaf. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru a chontractwr y prosiect i wneud cynnydd. Dydyn ni ddim yn rhagweld y bydd y gwaith yn tarfu’n ormodol ar drigolion lleol oherwydd lleoliad safle'r gwaith, sy'n wag ar hyn o bryd, ac a fydd yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned eto yn y dyfodol. Diolch i'r gymuned am eich cydweithrediad.”
Wedi ei bostio ar 28/10/2024