Mae'r Cyngor wedi dechrau ymgynghoriad ar y cynigion i ddatgomisiynu cartrefi gofal Ferndale House a Cae Glas. Bydd y broses yn golygu ymgysylltu'n uniongyrchol â phreswylwyr y cartrefi gofal, eu teuluoedd a'r staff, wrth hefyd gynnig cyfleoedd i aelodau’r cyhoedd gael gwybod rhagor a dweud eu dweud.
Ym mis Medi, cytunodd y Cabinet gydag argymhellion swyddogion i ymgynghori ar y cynigion hynny sydd wedi'u creu i fynd i'r afael â'r newid yn y galw am ofal preswyl, a'r ffaith bod gwlâu dros ben yng nghartrefi gofal y Cyngor. Yn ôl adroddiadau, mae disgwyliadau pobl hŷn yn newid, gyda rhagor o breswylwyr am gadw'u hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain, neu fyw mewn preswylfeydd sy'n cynnig cymorth wedi'i dargedu i ddiwallu eu hanghenion, mewn cyfleuster fflatiau â chymorth ychwanegol. Yn y cyd-destun yma, mae'r galw am gyfleusterau gofal cartref hefyd wedi newid, gyda gofyn cael rhagor o nyrsio arbenigol neu ofal dementia ar gyfer y dyfodol.
Mae ymgynghoriad ar waith ar hyn o bryd ynghylch y cynigion.
Y cynnig ar gyfer Ferndale House yw datgomisiynu'r gofal cartref fel y mae nawr, yn barhaol. Mae hyn yn cael ei wneud gan gydnabod nad yw safonau modern yn bosib yno o ran darparu preswylfa â chymorth o lefel ac ansawdd uchel. Mae hyn yn ei dro wedi arwain at niferoedd isel o breswylwyr dros gyfnod hir. O ganlyniad i hyn oll dyw’r cartref gofal ddim yn gynaliadwy o safbwynt ariannol mwyach. Byddai'r cartref gofal yn cau unwaith y byddai preswylfa addas wedi'i chanfod ar gyfer ei breswylwyr – sef preswylfa o'u dewis nhw sy'n diwallu eu hanghenion yn unol ag asesiadau.
Yn cydredeg â hyn, mae preswylfa newydd wedi'i chynllunio ar gyfer Cwm Rhondda Fach. Mae diwallu anghenion poblogaeth y dyfodol yn un o'r prif ystyriaethau ynghlwm â'r breswylfa yma, sy'n golygu y bydd cyfleusterau gofal cartref modern ar gael ynddi, yn benodol ar gyfer rhoi gofal yn ymwneud â dementia. Mae'r gwaith ar baratoi'r sylfeini wedi dechrau ar safle'r Ffatri 'Chubb' gynt yng Nglynrhedynog. Byddai pob un o breswylwyr Ferndale House yn cael cynnig symud yn ôl i'r cyfleuster modern wedi iddo agor, yn ddibynnol ar eu hanghenion a'u dymuniadau hwy yn unol ag asesiad ar y pwynt hwnnw.
Y cynnig o ran Cae Glas yw datgomisiynu'r cartref gofal sy'n bodoli eisoes yn Y Ddraenen-wen, sydd heb gyrraedd ei lawn gapasiti ers peth amser ac sydd heb fod yn gynaliadwy yn ariannol. Byddai'r cartref yn cau unwaith y byddai preswylfa addas a fyddai'n diwallu anghenion y preswylwyr yn unol ag asesiad, wedi'i chanfod.
Prif wybodaeth ynghylch yr ymgynghoriad.
Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau heddiw, a bydd yn cael ei gynnal am fwy nag wyth wythnos i gyd – o Ddydd Mawrth, 1 Hydref tan Ddydd Sadwrn, 30 Tachwedd.
Bydd yr ymgynghorwyr annibynnol Practice Solutions Ltd yn arwain y broses ar gyfer y bobl fydd yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y cynigion datgomisiynu, ac yn adrodd arni hefyd. Fe fyddan nhw'n gofalu bod sesiynau penodol, wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal â phreswylwyr, eu teuluoedd a staff, yn y cartrefi gofal. Fe fyddan nhw’n gofalu hefyd bod y sesiynau wedi'u hwyluso mewn modd sensitif, i sicrhau bod pobl yn cael cymorth ac yn cael dweud eu dweud.
Mae modd i’r cyhoedd gymryd rhan o 1 Hydref ar dudalen bwrpasol ar wefan y Cyngor. Ar y dudalen yma mae gwybodaeth allweddol ynghylch y cynigion ac arni hefyd mae adran deunyddiau 'Hawdd eu Darllen' a Chwestiynau Cyffredin, ynghyd ag arolwg ar-lein. Bydd swyddogion hefyd yn ymgysylltu â phrif randdeiliaid i roi gwybod iddyn nhw am yr ymgynghoriad ac i'w hannog i gyfrannu.
Mae sesiynau 'galw-heibio' lleol yn cael eu trefnu hefyd, fel bod modd i’r cyhoedd drafod y cynigion â'r swyddogion. Bydd dwy sesiwn – un yn lleol i gymuned Glynrhedynog ac un yn lleol i gymuned y Ddraenen-Wen. Y bwriad ar hyn o bryd yw eu cynnal tua chanol mis Tachwedd 2024 – bydd y manylion llawn yn cael eu rhannu unwaith y daw penderfyniad terfynol.
Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae'r cynigion yma'n ymateb i'r newid yn nisgwyliadau pobl hŷn o ran gofal preswyl – mae'r gwlâu dros ben sydd ar gael mewn cartrefi gofal yn Rhondda Cynon Taf yn dystiolaeth amlwg o’r newid yma. Mae mwy na thraean o wlâu cartrefi gofal y Cyngor yn wag ar hyn o bryd, a gyda'r sector cyhoeddus yn wynebu heriau ariannol sylweddol does dim modd gadael y sefyllfa fel y mae, na gadael iddi ddirywio ymhellach. Byddai'r cynigion sydd wedi'u hargymell ar gyfer Ferndale House a Cae Glas yn golygu datgomisiynu dau gartref gofal ac ynddyn nhw gapasiti dros ben.
“Â'r galw am gyfleusterau byw'n annibynnol â chymorth, a gofal cymhleth, yn cynyddu, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i foderneiddio'r cyfleusterau y mae'n eu cynnig. Mae tai â gofal ychwanegol ym Maesyffynnon yn Aberaman a Chwrt Yr Orsaf ym Mhontypridd yn hynod boblogaidd ers iddyn nhw gael eu hagor yn y blynyddoedd diweddar, ac mae trydydd cynllun yn cael ei adeiladu yn Y Porth. Yn sgil buddsoddiad pellach gwerth miliynau o bunnoedd y mae'r Cabinet wedi cytuno arno, bydd rhagor o breswylfeydd â gofal ar gael yng Nglynrhedynog ac Aberpennar.
“Bydd yr ymgynghoriad annibynnol sydd ar waith nawr yn golygu ymgysylltu'n llawn a phreswylwyr a'u teuluoedd, a staff yng nghartrefi gofal Ferndale House a Cae Glas. Mae ystyried newid fel hyn i wasanaethau yn broses anodd a sensitif iawn, ac rwy'n siŵr y bydd gan bawb y mae hyn yn effeithio arnyn nhw lawer o gwestiynau ynghylch yr hyn sy'n cael ei gynnig a'r hyn y bydd yn ei olygu i breswylwyr a staff. Dros y ddeufis nesaf, bydd swyddogion yn gwrando ar y safbwyntiau a'r farn fydd yn cael eu cyflwyno ac yn eu cofnodi – gan ddarparu cymorth eirioli ar gyfer y preswylwyr hynny y mae angen cymorth arnyn nhw i gymryd rhan.
“Ochr yn ochr â'r gweithgaredd fewnol yma, mae'r cyhoedd yn cael eu hannog i ddweud eu dweud drwy gyrchu rhagor o wybodaeth ac arolwg ar-lein. Bydd sesiynau galw heibio cyhoeddus yn cael eu cynnal hefyd yng Nglynrhedynog a'r Ddraenen-Wen; mae'r rhain yn cael eu trefnu ar hyn o bryd. Yn dilyn yr ymgynghoriad bydd yr adborth yn ei gyfanrwydd yn cael ei gasglu ynghyd a'i adrodd i Aelodau'r Cabinet er mwyn iddo fod yn sail i'w penderfyniadau terfynol ynghylch y cynigion.”
Drwy leihau'r niferoedd uchel o wlâu nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio yng nghartrefi gofal y Cyngor, gallai'r hyn sy'n cael ei gynnig gynhyrchu arbedion refeniw o oddeutu £2 filiwn mewn blwyddyn lawn, gan barhau i ddiwallu'r anghenion a’r galw hynny ar sail asesiadau, sy'n parhau.
Wedi ei bostio ar 01/10/24