Cafodd bywyd yr arweinydd gwaith glo "aruthrol a phenderfynol" Des Dutfield ei ddathlu a'i gofio mewn seremoni yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda.
Bu farw Mr Dutfield, oedd o Drebanog, yn 81 mlwydd oed yn 2021. Ef oedd llywydd olaf Undeb Cenedlaethol y Glowyr ardal De Cymru ac roedd yn cael ei edmygu am ei gefnogaeth chwyrn o weithwyr ac am amddiffyn y diwydiant cloddio glo.
Roedd yr achlysur yn arbennig iawn am iddo gael ei gynnal yn yr amgueddfa sydd bellach ar safle Glofa Lewis Merthyr. Cafodd plac ei ddadorchuddio yno er mwyn anrhydeddu Mr Dutfield.
Yng Nglofa Lewis Merthyr bu Mr Dutfield yn gweithio i ddechrau ac yno hefyd y cynhaliodd ei streic "aros i lawr" bythgofiadwy yn dilyn penderfyniad y Bwrdd Glo Cenedlaethol i gau'r lofa yn 1983.
Arweiniodd Mr Dutfield, oedd yn Ysgrifennydd Cyfrinfa Lewis Merthyr ar y pryd, y dynion wrth iddyn nhw wrthod gadael y pwll glo, gan aros dan y ddaear am bedwar diwrnod a hanner.
Er y streic, caeodd y lofa a symudodd y 450 o weithwyr Glofa Lewis Merthyr i lofeydd eraill. Symudodd Mr Dutfield i Abercynon cyn dechrau ar ei esgyniad drwy rengoedd Undeb Cenedlaethol y Glowyr.
Cafodd y dathliad ar 11 Hydref ei drefnu a'i ariannu gan Gyfeillion Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda gyda'r Maer, y Cynghorydd Dan Owen-Jones yn bresennol.
Cafodd yr achlysur ei agor a'i gyflwyno gan David Owen, cyn-löwr a chadeirydd Cymdeithas Cyfeillion Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. Y Cynghorydd Robert Bevan o Tylorstown, yntau hefyd yn gyn-löwr yng Nglofa Lewis Merthyr, oedd Arweinydd y Seremoni.
Cafodd hanes ddiddorol a chyfoethog cloddio glo a diwydiant Cwm Rhondda ei hadrodd gan sawl siaradwr gwadd, gan gynnwys y cyn-lowyr yng Nglofa Lewis Merthyr, Ivor England a Mike Richards, a'r hanesydd lleol, Mark Adams.
Cafodd y plac, er cof ac anrhydedd i Des Dutfield, 1940-2021, ei ddadorchuddio gan y Maer, y Cynghorydd Dan Owen-Jones.
Cafodd caneuon a cherddoriaeth eu canu drwy gydol y seremoni. Diolch i Gôr Meibion Morlais, Seindorf Lewis Merthyr, Ysgol Gynradd Gymuned y Maerdy, Ysgol Gynradd yr Hafod ac Ysgol Gynradd Porth am eu perfformiadau.
Roedd Baner De Cymru Undeb Cenedlaethol y Glowyr a Sian Williams, Llyfrgellydd Glowyr De Cymru yn bresennol hefyd.
Roedd Grŵp Hanes Glynrhedynog, Archifdy Maerdy, Cymdeithas Hanes Teuluoedd Morgannwg, Cymdeithas Hanes Cwm Rhondda a Chymdeithas Hanes Cwm Cynon yno i gefnogi'r achlysur hefyd.
Meddai'r Cynghorydd Dan Owen-Jones, Maer Rhondda Cynon Taf: "Roedd yn fraint cael bod yn rhan o ddathliad o fywyd y cawr o ddyn bythgofiadwy Des Dutfield.
"Mae Cyfeillion Parc Treftadaeth Cwm Rhondda wedi cynnal achlysur teimladwy sy'n addas iawn ar gyfer y gŵr arbennig o Gwm Rhondda. Dylid eu cymeradwyo am seremoni heddiw a'r plac sydd am fod yn deyrnged a dathliad o Des Dutfield.
"Rhannodd cyn-lowyr o Lofa Lewis Merthyr eu straeon gan ddod â hanesion yr 1980au yn fyw yn ystod achlysur oedd yn cael ei fwynhau gan genedlaethau'r dyfodol, y plant ysgol oedd â thadau cu neu hyd yn oed hen-dadau cu oedd yn rhan o'r hanes yma.
"Roedd yn achlysur arbennig ac addas iawn, rwy'n erfyn ar y rheiny nad oedd wedi gallu ymuno â ni heddiw i dreulio amser yn Nhaith Pyllau Glo Cymru yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda er mwyn iddyn nhw hefyd, gael mwynhau ein hanes cyfoethog a phwysig."
Dywedodd David Owen, Cadeirydd Cyfeillion Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda:
“Roedd hi'n fraint i ni, Gyfeillion Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, drefnu bod y Plac Glas yma er cof am Des Dutfield yn cael ei osod. Gweithiodd Des yn ddiflino i amddiffyn glowyr a’u diwydiant, yn ogystal â chymunedau'r meysydd glo, sy'n agos at ein calonnau ni i gyd”.
Mae modd i chi lawrlwytho'r rhaglen gan Gyfeillion Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yma.
Mae Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, cartref Taith Pyllau Glo Cymru, ar safle Glofa Lewis Merthyr. Mae'r simnai enfawr a thai injan Trevor a Bertie yno o hyd ac yn rhan o brofiad arobryn i ymwelwyr.
Mae cyn-lowyr yn arwain y Teithiau Aur Du, gan rannu eu straeon ac atgofion personol gydag ymwelwyr wrth iddyn nhw eu harwain ar daith dan y ddaear ac yn ôl mewn amser.
Yn addas ar gyfer pob oedran, mae'r atyniad yn unigryw am mai dyma'r unig un sydd â chyn-lowyr i'ch tywys. Mae modd i ymwelwyr hefyd fwynhau arddangosfa ac arddangosiadau digidol ac achlysuron tymhorol megis Rhialtwch Calan Gaeaf ac Ogof Siôn Corn – mae tocynnau ar gyfer y rhain ar werth nawr yma
Dysgwch ragor am Daith Pyllau Glo Cymru yn Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yma:
Lawrlwythwch raglen Des Dutfield.
Wedi ei bostio ar 17/10/2024