Skip to main content

Carreg filltir bwysig wrth i bartner datblygu Rock Grounds gael ei benodi

Rock Grounds grid - Copy

Mae'r Cabinet wedi cytuno i fwrw ymlaen ymhellach â'r cynigion cyffrous i ailddatblygu adeiladau'r Rock Grounds yn Aberdâr. Mae'r Cyngor bellach wedi penodi partner swyddogol i ddylunio, datblygu ac adeiladu'r prosiect, a fydd yn sefydlu gwesty, bwyty, bar a sba o safon ar y safle yng nghanol y dref.

Cafodd y cynigion ar gyfer safle Rock Grounds eu rhannu am y tro cyntaf yn ystod haf 2023, pan drafododd y Cabinet gynlluniau i adnewyddu ac ailddatblygu'r ardal. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio’r adeiladau presennol, gwarchod adeilad hanesyddol y Rock Grounds a'i nodweddion, gan ddarparu nifer lefel briodol o leoedd parcio ar gyfer y cyhoedd, a chadw penddelw Keir Hardie. Bydd y cyfleusterau sy'n rhan o'r gwesty newydd ar gael i'r gymuned ac ymwelwyr eu defnyddio fel ei gilydd.

Darparodd y Cyngor diweddariad cynnydd ym mis Gorffennaf 2024, gan nodi, yn dilyn ymarfer caffael, bod trafodaeth yn mynd rhagddi gyda phartner datblygu posibl. Ychwanegodd y diweddariad bod staff y Cyngor a oedd wedi'u lleoli yn Rock Grounds wedi cael eu symud o'r safle yn barhaol er mwyn paratoi ar gyfer yr ailddatblygiad. 

Nododd yr adroddiad diweddaraf i'r Cabinet ddydd Llun 21 Medi,  fod y Cyngor bellach wedi llofnodi cytundeb datblygu gyda Final Frontier Space Holdings Ltd, sy'n cadarnhau ei benodiad swyddogol i arwain y prosiect. Cafodd cynllun arfaethedig y datblygwr ei ddadansoddi'n drylwyr a'i ganfod i fodloni'r holl ofynion o ran cyfleusterau, gwasanaethau ac ansawdd. Roedd yn rhannu gweledigaeth y Cyngor ar gyfer y safle, ac yn cydnabod yr angen i wneud cyfraniad economaidd i ganol y dref.

Mae carfan prosiect y Cyngor wedi cynnal trafodaethau cynhyrchiol gyda Final Frontier ynglŷn â bwrw ymlaen gyda'r cam dylunio. Diben rhaglen uchelgeisiol ond cyraeddadwy fel hyn yw cwblhau'r dyluniad, llunio cynllun cost, sicrhau caniatâd cynllunio, a sefydlu amserlenni prosiectau. Bydd Final Frontier yn ymgysylltu â'r Cyngor i sicrhau trwydded ar gyfer yr adeilad er mwyn galluogi gwaith arolygu ac archwilio.

Mae'r adroddiad yn ychwanegu y bydd carfan ddylunio broffesiynol yn cael ei phenodi i oruchwylio'r prosiect hyd at gyflwyno cais cynllunio ffurfiol - tra bydd bwrdd prosiect y Cyngor ei hun yn cyfarfod yn rheolaidd gyda'r garfan yma, ynghyd â'r datblygwyr, er mwyn sicrhau cynnydd da drwy gydol y cyfnod dylunio. Y dyddiad y cytunwyd arno ar gyfer cwblhau'r cam hwn yw mis Mawrth 2025, pan fydd adolygiad ffurfiol yn cael ei gynnal i asesu'r hyfywedd costau a'r rhaglen ar gyfer y cyfnod adeiladu.

Mae camau presennol y prosiect yn cael eu hariannu'n llawn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Bydd manylion ariannol mewn perthynas â'r datblygiad ei hun yn destun adroddiad yn y dyfodol, ac mae'n debygol y bydd angen cefnogaeth partneriaid cyllido allanol fel Llywodraeth y DU a/neu Lywodraeth Cymru.

Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant:  "Rwy'n falch iawn bod y Cyngor bellach wedi cadarnhau ei bartner datblygu ar gyfer prosiect cyffrous Rock Grounds, yn dilyn ymarfer caffael helaeth. Mae Final Frontier Space Holdings Ltd wedi'i benodi i arwain y datblygiad yma mewn partneriaeth â'r Cyngor – sy’n garreg filltir tuag at ddarparu gwesty angenrheidiol o safon ar gyfer Aberdâr a Chwm Cynon. Mae’n bwysig nodi hefyd y bydd y prosiect yn cynnwys cyfleusterau bwyty, bar a sba y gall trigolion lleol gael mynediad atynt.

"Mae'r datblygiad yn cydymffurfio'n llawn â'r themâu buddsoddi a amlinellir yn Strategaeth Canol Tref Aberdâr, a gytunwyd ym mis Rhagfyr 2023 er mwyn nodi gweledigaeth ar gyfer y dref yn y dyfodol, cyflwyno amcanion, a nodi meysydd buddsoddi. Thema allweddol y Strategaeth yw ailddefnyddio adeiladau presennol ar gyfer llety a bwytai o ansawdd uchel, er mwyn gwella profiad ymwelwyr ac arlwy twristiaeth Aberdâr. Roedd tua 85% o ymatebwyr yr ymgynghoriad yn cefnogi'r dull hwn o ymdrin â safleoedd amlwg lleol, fel y Rock Grounds.

"Mae'r cynnig hefyd yn cydymffurfio â'n Strategaeth Dwristiaeth ehangach ar gyfer y rhanbarth. Mae sawl atyniad lleol arbennig yng Ngwm Cynon - Zip World Tower, Parc Gwledig Cwm Dâr a Distyllfa Penderyn, i enwi ychydig. Rydyn ni'n rhagweld y bydd galw mawr ar gyfer y gwesty newydd. Nid yn unig y bydd yn annog pobl i ymweld â'n hatyniadau, ond bydd hefyd yn helpu i gynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol tref Aberdâr ac yn rhoi hwb i fasnachwyr lleol.

"Bydd y prosiect yn cynrychioli buddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer canol tref Aberdâr, gan ddod â chyfleusterau newydd i bobl leol a chyfleoedd cyflogaeth i drigolion. Bydd hefyd yn sicrhau bod modd parhau i ddefnyddio safle amlwg Rock Grounds, sydd wedi dod ar gael yn rhan o Strategaeth Llety Swyddfa'r Cyngor. Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet i ddatblygu'r prosiect, rwy'n edrych ymlaen at weld y cam dylunio’n cael ei ddatblygu dros y misoedd nesaf."

Wedi ei bostio ar 28/10/2024