Skip to main content

Gwaith dros nos ar yr A4058 ger Llwyncelyn at ddibenion atgyweirio wal

A4058 works, Clifton Row

Dyma rybuddio trigolion a defnyddwyr y ffyrdd y bydd y Cyngor yn cynnal gwaith dros nos ar yr adran yma (llun) o'r A4058 ger Llwyncelyn. Nod hyn yw helpu'r Cyngor i ddeall sut i atgyweirio'r wal sy'n cynnal Rhes Clifton yn y dyfodol.

Bydd gwaith ymchwil yn mynd rhagddo ar y tir o amgylch y wal sy'n cynnal Rhes Clifton o ddydd Llun 4 Tachwedd am oddeutu wythnos.

Bydd y gwaith yn cael ei gyflawni yn ystod sawl sifft gwaith dros nos (7.30pm i 6am), er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl ar ddefnyddwyr y ffyrdd.

Bydd angen cau un lôn a byddwn ni'n defnyddio goleuadau traffig dros dro i reoli'r sefyllfa. Bydd y lôn yn ailagor ar ddiwedd pob sifft (erbyn 6am).

Mae'r Cyngor wedi penodi cwmni Jackson Geo Services Cyf i wneud y gwaith ymchwil, sy'n amodol ar y tywydd.

Bydd y gwaith yn cynnwys drilio dau ddyfrdwll i mewn i'r wal er mwyn dysgu rhagor am gyflwr y ddaear, ynghyd â chreiddiau concrit i nodi trwch adeiladwaith y wal.

Bydd ffosydd prawf hefyd yn cael eu cloddio ar waelod y wal er mwyn bwrw golwg ar y sylfeini a gweld a oes unrhyw isadeiledd gwasanaeth arall.

Bydd y gwaith yma'n galluogi'r Cyngor i lunio cynllun manwl er mwyn mynd i'r afael â rhan ddiffygiol o'r wal sy'n cael ei chynnal gan sachau tywod ar hyn o bryd.

Bydd y llwybr troed yn cael ei gau dros dro yn dilyn y gwaith, er diogelwch.

Diolch ymlaen llaw i'r gymuned leol am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 29/10/2024