Skip to main content

DROS 50 o fusnesau bwyd yn derbyn sgôr PUM SEREN!

Mae DROS 50 o fusnesau bwyd yn Rhondda Cynon Taf wedi derbyn sgôr PUM SEREN ar gyfer eu 'Scores On The Doors' ym mis Mai a Mehefin 2024. 

Mae 'Scores On The Doors' neu i ddefnyddio'i enw swyddogol - y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn helpu trigolion i ddewis ble i fwyta neu ble i brynu bwyd drwy roi gwybodaeth glir iddyn nhw am safonau hylendid y busnesau. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnal y cynllun mewn partneriaeth â phob awdurdod lleol yng Nghymru.

Drwy’r Cynllun, mae busnes yn cael sgôr rhwng 5 a 0 sy’n cael ei harddangos yn ei eiddo ac ar-lein er mwyn i chi allu gwneud dewisiadau mwy gwybodus o ran ble i brynu a bwyta bwyd.

5 *****

 

da iawn

4 ****

 

da

3 ***

 

boddhaol ar y cyfan

2 **

 

angen gwella

1 *

 

angen gwella yn sylweddol

0

 

angen gwella ar frys

Dros gyfnod o DDAU fis, derbyniodd cyfanswm o 77 busnes y sgôr uchaf o BUM seren - gan gynnwys lleoliadau preifat fel ysgolion a meithrinfeydd.

 Cafodd 53 lle bwyd cyhoeddus sgôr o BUM seren yn yr un cyfnod:

  1. KFC, Aberdâr
  2. Miles Better Baking
  3. Y gegin yng Nghlwb Golff Aberpennar
  4. Delicious
  5. Caffi Marchnad Aberdâr
  6. The Jeffrey Arms
  7. Whitey's Welsh BBQ
  8. Ponty Mini Market
  9. The Salad Box Tonypandy Ltd

10. Istanbul Kebab

11. Fire & Slice Pizza

12. Clwb Gymnasteg All Stars

13. Rainbow Room Rhiwgar

14. Jin Ocean

15. King's Garden

16. The Little Chippy

17. Wong Sang

18. The Snack Box

19. Plaice on The Strand

 

20. Gwesty Glynrhedynog

21. Yummy Kitchen

22. Favorite

23. Wing Wah

24. Kim Thomas (Hufen Iâ)

25. Bwyty Tafarn y Rhoswenallt

26. Tafarn y Rhoswenallt

27. Traditional Fish & Chips

28. Jade Flower

29. Sion's Kitchen

30. Sugar Smiles

31. Big Sams

32. Cardiff Arms Fish Bar

33. Judges, Aberdâr

34. YT's Plaice

35. John Hughes Butchers Ltd

36. Village Kebab House

37. The Food Shack

38. Pro Platter

39. Gwasanaethau Arlwyo Paul Phillips

40. Clwb Rygbi Pontypridd

 

41. Nicola's Sweets n Treats

42. The Best Cafe

43. Canolfan Ymwelwyr Garwnant

44. Laal Mirchi Indian Takeaway

45. Waffle House Caffi Lido

46. Cwtch and Crumb Bakery

47. Lakeside Cafe

48. Walnut Tree Junction

49. Caffi Coch

50. Clwb Rygbi Pen-y-graig

51. Rhianwens Bakes

52. Spuds on the Run

53. Gwesty The Windsor

54. Hotel Chocolat, Tonysguboriau

 

Derbyniodd pob un o'r busnesau bwyd yma'r sgôr uchaf - PUMP, sy'n golygu bod eu safonau hylendid yn dda iawn ac yn cydymffurfio'n llawn â’r gyfraith. I gael y sgôr uchaf, mae'n rhaid i fusnesau wneud yn dda yn y tair elfen ganlynol -

  • Da iawn gyda pha mor hylan y mae’r bwyd yn cael ei drin – sut mae’n cael ei baratoi, ei goginio, ei ailgynhesu, ei oeri a’i storio
  • Mae’r busnes mewn cyflwr da iawn– gan gynnwys glendid, cynllun, goleuo, awyru, rheoli plâu, a chyfleusterau eraill
  • Mae’r busnes yn dda iawn wrth reoli diogelwch bwyd, gan ystyried y prosesau, yr hyfforddiant a’r systemau sydd ar waith i sicrhau y caiff hylendid da ei gynnal.

Mae sgoriau'n gipolwg ar y safonau hylendid bwyd a ganfuwyd adeg yr arolygiad. Mae'n gyfrifoldeb ar y busnes i gydymffurfio â’r gyfraith o ran hylendid bwyd ar bob adeg.

 

Meddai'r Cynghorydd Bob Harris – Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau;

"Mae pawb yn Rhondda Cynon Taf yn haeddu mwynhau eu bwyd, yn gwbl hyderus ei fod wedi'i baratoi mewn modd hylan - mae arddangos sgoriau hylendid bwyd yn orfodol yn helpu pawb i wneud hynny.

"Nid yn unig y mae'n fuddiol i gwsmeriaid, ond i fusnesau hefyd. Felly, rwy'n falch iawn o weld bod dros 50 busnes bwyd yn RhCT wedi derbyn sgôr 5 seren yn ystod arolygiadau diweddar fis Mai a Mehefin. Rydyn ni'n ffodus bod gyda ni fusnesau bwyd a bwytai hyfryd ac unigryw yn ein Bwrdeistref Sirol ac mae llawer yn rhagor sydd â sgôr 5 seren a heb gael eu nodi yma - dyma’r rhai o fis Mai a Mehefin yn unig! Mae modd i chi weld sgôr pob lleoliad ar-lein ar https://ratings.food.gov.uk/cy.”

Dydy'r cynllun sgorio hylendid bwyd ddim yn darparu gwybodaeth am y ffactorau canlynol:

  • ansawdd y bwyd, gwasanaeth i gwsmeriaid, sgiliau coginio, cyflwyniad, cysur, cydymffurfio â safonau bwyd a chyfraith alergenau.

I weld rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r arolygiadau diogelwch bwyd yn Rhondda Cynon Taf, ewch i - https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Business/LicencesandPermits/Foodbusinesslicenceandregulations/Foodsafetyinspection.aspx

Er mwyn chwilio am sgôr busnes bwyd lleol, ewch i -https://ratings.food.gov.uk/cy

Wedi ei bostio ar 03/10/2024