Mae'r Cyngor wedi darparu diweddariad ynglŷn â gwaith gosod pont droed newydd yn Llwydcoed - gyda'r strwythur newydd wedi'i adeiladu ar y safle’n ddiweddar a'i osod yn ei le cyn ei agor yn swyddogol i'r cyhoedd ym mis Tachwedd.
Roedd y bont droed flaenorol yn darparu cyswllt allweddol ar gyfer cerddwyr a beicwyr rhwng cymuned Llwydcoed a Llwybr Taith Cynon, ond roedd y strwythur mewn cyflwr gwael ac roedd angen gosod un newydd. Dechreuodd cynllun arwyddocaol ym mis Gorffennaf, a bydd strwythur newydd sy'n fwy llydan ac yn fwy addas i'r gymuned yn cael ei osod.
Mae'r cynllun yn cael ei gyflwyno gan ddefnyddio cyllid pwysig a gafodd ei sicrhau gan y Cyngor o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25.
Ers i'r gwaith ddechrau ar y safle yn ystod yr haf, mae contractwr y Cyngor, Horan Construction Ltd, wedi cwblhau gwaith atgyweirio i wal yr afon ac wedi adeiladu'r ategweithiau - er mwyn paratoi ar gyfer derbyn y bont newydd.
Mae gweithgarwch diweddaraf y safle wedi cynnwys strwythur y bont newydd yn cael ei gludo i'r safle gwaith mewn sawl cydran. Cafodd yr elfennau yma'u hadeiladu ar y safle cyn i'r bont gael ei gosod yn ei lle dros yr afon. Mae gweithgarwch yr wythnosau diwethaf i'w weld yn y lluniau uchod.
Byddwch yn effro i’r ffaith bod y llwybr yn parhau i fod ar gau er bod y bont newydd yn ei lle. Mae'n hanfodol bwysig i sicrhau diogelwch ar gyfer gweddill y cynllun. Mae disgwyl i'r cynllun gael ei gwblhau fis nesaf. Mae'r gwaith sy'n weddill yn cynnwys castio waliau cynnal y ramp ar ddwy ochr y bont.
Dylai cerddwyr a beicwyr barhau i ddefnyddio'r llwybr amgen trwy ddilyn yr arwyddion clir. Mae'r llwybr amgen yn parhau i fod ar gael trwy Lon Las, Heol Cwmynysminton, Ffordd Llwydcoed a Llwybr Taith Cynon - neu'r llwybr yma i'r gwrthwyneb. Does dim modd cynnal mynediad dros y bont droed i gerbydau'r gwasanaethau brys.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae gosod pont newydd yn Llwydcoed yn cynrychioli un o fuddsoddiadau allweddol mewn teithio llesol eleni, gyda'r cyllid i gyd yn cael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Mae gweithgarwch diweddar y safle wedi cynnwys y contractwr yn derbyn cydrannau'r bont newydd, adeiladu'r strwythur a'i osod yn ei le dros yr afon. Dyma gerrig milltir allweddol tuag at gwblhau'r prosiect yn yr wythnosau nesaf.
"Mae'r dyraniad ehangach gwerth £6.2 miliwn o Gronfa Teithio Llesol 2024/25 yn ein galluogi i gyflawni sawl cynllun eleni, i wella isadeiledd lleol ac annog mwy o bobl i gerdded a beicio’n fwy aml ar eu teithiau bob dydd. Mae'r prosiectau eraill sy'n cael eu cwblhau’n rhan o raglen eleni'n cynnwys gwelliannau i Lwybr Taith Cynon yng Nghwm-bach, gwelliannau i Lwybr Taith Taf, cynlluniau yng nghanol trefi Pontypridd ac Aberdâr a gwaith cyflawni a chynllunio ar gyfer Llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach.
"Gyda chynllun Pont Glan yr Afon yn Llwydcoed bellach yn agosáu at ei gamau olaf, mae swyddogion yn atgoffa trigolion bod y bont yn parhau i fod ar gau - er bod y strwythur newydd bellach yn ei le. Mae hyn er mwyn sicrhau diogelwch, gan fod gan y contractwr nifer o weithgareddau i'w cwblhau ar y bont o hyd. Diolch i'r gymuned am eich amynedd parhaus wrth i ni weithio tuag at sefydlogi'r strwythur yma ar gyfer y dyfodol a chynnal y cyswllt lleol yma i Lwybr Taith Cynon.”
Wedi ei bostio ar 09/10/24