Mynychodd dros 180 o ddisgyblion ym Mlwyddyn 12 o ledled Rhondda Cynon Taf Academi Seren ym Mhrifysgol De Cymru, Trefforest. Mae Academi Seren wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn ceisio cefnogi dyheadau ac uchelgeisiau disgyblion, gan helpu i ehangu eu gorwelion, datblygu brwdfrydedd am y maes astudio maen nhw wedi'i ddewis, a chyrraedd eu potensial academaidd. Y weledigaeth yw i ddisgyblion Seren, ni waeth be fo eu cefndir, feddu ar yr uchelgais, y gallu a'r chwilfrydedd i gyflawni eu potensial a rhagori yn eu nodau addysgol yn y dyfodol ar y lefel uchaf.
Mynychodd disgyblion 2024 weithdai gan Brifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Caerwysg a derbynion nhw sgwrs gan feddygon dan hyfforddiant gan drafod cyfleoedd ym meysydd Ffiseg, Mathemateg a'r Dyniaethau. Fe wnaethon nhw hefyd ofyn cwestiynau i banel o gyn-ddisgyblion Academi Seren, sydd bellach ar eu ffordd i Brifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt ac sydd wedi elwa ar fod yn rhan o Academi Seren. Roedd modd iddyn nhw gael blas ar fywyd yn y brifysgol a chael cinio ym Mhrifysgol De Cymru. Mae rhagor o brofiadau prifysgol wedi'u cynllunio ar gyfer disgyblion ledled Rhondda Cynon Taf dros y flwyddyn academaidd sydd i ddod.
Mae disgyblion Academi Seren yn cael eu nodi gan ysgolion trwy ddefnyddio meini prawf Academi Seren. Rhaid iddyn nhw fod wedi derbyn 6 x A* neu ragor yn eu harholiadau TGAU.
Roedd yr ysgolion canlynol yn bresennol:
Ysgol Gymunedol Aberdâr
Ysgol Gyfun Bryn Celynnog
Ysgol Gyfun Aberpennar
Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru
Ysgol Gymuned Tonyrefail
Ysgol Gyfun Treorci
Ysgol Gyfun y Pant
Ysgol Gyfun Cwm Rhondda
Ysgol Garth Olwg
Ysgol Llanhari
Ysgol Gyfun Rhydywaun
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: "Mae Academi Seren wedi taflu goleuni ar gamau nesaf taith academaidd disgyblion a'r maes astudio maen nhw wedi'i ddewis. Hoffwn i ddiolch i Lywodraeth Cymru am y cyfle yma, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld y disgyblion yn mynychu ymweliadau pellach â phrifysgolion drwy gydol y flwyddyn sydd i ddod."
Wedi ei bostio ar 29/10/2024