Aeth Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden, y Cynghorydd Ann Crimmings, ar ymweliad safle yn ddiweddar er mwyn dathlu cwblhau dau gam cyntaf cynllun Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i greu’r llwybr cerdded a beicio sy'n ymestyn 10km rhwng Maerdy a Tylorstown. Mae'r cynllun wedi'i rannu'n bum cam.
Cafodd Cam Un ei gwblhau ar ddiwedd 2023, gan greu rhan fwyaf ogleddol y llwybr - o leoliad i'r gogledd o Ystad Ddiwydiannol Maerdy i bwynt ger Cofeb Porth Maerdy. Cafodd Cam Dau ei gwblhau yn gynharach eleni, roedd hyn yn cynnwys gwaith ar y llwybr i gyfeiriad y de, yn dilyn yr hen reilffordd.
Cwrddodd y Cynghorydd Crimmings â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Teithio Llesol, ynghyd â swyddogion y Cyngor a Chynghorydd ward Glynrhedynog a'r Maerdy.
Yn ystod yr ymweliad, bu’r grŵp yn trafod y cynnydd parhaus o ran Cam Pedwar ar y safle – yn ogystal â’r gobeithion ar gyfer y dyfodol o ran y gwaith ar Gamau Tri a Phump, er mwyn cysylltu rhagor o gymunedau gyda'i gilydd.
Yn ogystal â hynny, cyfeiriodd Rheolwr Treftadaeth y Cyngor at y meinciau treftadaeth sydd wedi’u gosod ar hyd y llwybr, a'u harwyddocâd i’r gymuned leol.
Mae un er cof am Frank Owen, gwirfoddolwr yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, ac wedi’i lleoli ger ei gofeb. Mae mainc arall yn nodi diwedd y diwydiant glo yng Nghwm Rhondda - wedi'i hysbrydoli gan eiriau cân Max Boyce, ‘Rhondda Grey’.
Mae’r drydedd fainc yn anrhydeddu merched arloesol Maerdy a ffurfiodd y Grŵp Cymorth i Fenywod cyntaf yn Ne Cymru yn ystod streic y glowyr rhwng 1984 a 1985, ac yn olaf mae'r fainc ar gyfer 'Bwystfil y Maerdy' yn coffáu enw'r locomotif mwyaf pwerus i gael ei adeiladu yn y DU, a weithiodd yng Nglofa'r Maerdy, a rhywogaeth newydd o neidr filtroed a ddarganfuwyd yn y Maerdy ac sydd dim ond yn byw yn yr ardal yma.
Wedi ei bostio ar 24/10/2024