Skip to main content

Cabinet yn trafod Cynllun Ariannol Tymor Canolig wedi'i ddiweddaru

Mae'r Cabinet wedi derbyn diweddariad ar Gynllun Ariannol Tymor Canolig tair blynedd y Cyngor, sy'n nodi'r cyd-destun ar gyfer gwaith tuag at bennu cyllideb y flwyddyn nesaf. Mae swyddogion yn nodi y bydd rhaid parhau i wneud penderfyniadau anodd yn ystod y cyfnod yma sy'n adlewyrchu'r heriau ariannol ar draws y sector cyhoeddus.

Bob blwyddyn, yn rhan o'i broses rheoli arian gadarn, mae'r Cyngor yn adrodd ar ei waith modelu cyllideb a chynllunio ariannol ar gyfer y cyfnod i ddod - cyn y gwaith manwl ar strategaeth y gyllideb i'w wneud yn yr hydref. Rhoddodd swyddogion wybod i'r Cabinet y sefyllfa ar gyfer y flwyddyn yma ddydd Llun, 23 Medi.

Mae’r sector cyhoeddus wedi wynebu cyfnod parhaus o ostyngiadau mewn termau real yn ei gyllid ers blynyddoedd lawer, ac mae swyddogion yn nodi bod y sefyllfa a ragwelir yn parhau i fod yn heriol yn y tymor canolig. Mae hyn oherwydd nifer o ffactorau gan gynnwys pwysau costau byw parhaus - gan olygu mwy o alw a chostau ar draws gwasanaethau'r Cyngor, yn enwedig gofal cymdeithasol. Mae’n debygol iawn y bydd pob Cyngor yng Nghymru yn wynebu bwlch yn y gyllideb ar gyfer 2025/26.

Bydd cyllideb Llywodraeth y DU ym mis Hydref a'r casgliad o Adolygiad o Wariant aml-flwyddyn a ddisgwylir yng ngwanwyn 2025 yn ffactorau allweddol wrth bennu lefel y cyllid a ddarperir i wledydd datganoledig, ac wedi hynny setliad Llywodraeth Cymru i gynghorau lleol. Mae adroddiad dydd Llun yn amlinellu'r gwaith modelu ariannol a gwblhawyd gan swyddogion, a'r bwlch posibl yn y gyllideb.

Mewn sefyllfa wedi’i modelu o setliad arian gwastad gan Lywodraeth Cymru, rhagwelir cyfanswm y bwlch yn y gyllideb yw £35.7 miliwn ar gyfer 2025/26. Mae hyn wedyn yn codi i £91.8 miliwn dros gyfnod tair blynedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Mae hyn yn cynnwys cynnydd tybiedig o 4% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer pob blwyddyn, a pharhau i flaenoriaethu cyllid ysgolion. Bydd cyllideb y Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf yn destun ymgynghoriad cyhoeddus dros y misoedd nesaf.

Bydd y Cyngor yn parhau â'i strategaeth lwyddiannus i nodi a chyflawni mesurau i leihau'r gyllideb yn ystod y flwyddyn, a fydd yn gwireddu arbedion cynnar. Cynhelir adolygiadau brys a manwl pellach ar draws yr holl wasanaethau i nodi'r opsiynau i gau'r bwlch a ragwelir yn y gyllideb. Yn gyfochrog â’r gwaith yma, byddwn ni'n canolbwyntio'n barhaus ar Ddigideiddio, Masnacheiddio, Ymyrraeth Gynnar ac Atal, Annibyniaeth, a Bod yn Sefydliad Effeithlon ac Effeithiol.

Yn rhan o'r broses yma, bydd y Cyngor yn parhau i asesu sut mae modd defnyddio ei gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd i gefnogi buddsoddiad mewn gwasanaethau yn ddarbodus. Fodd bynnag, natur cronfeydd yw bod modd eu defnyddio unwaith yn unig - dydyn nhw ddim yn strategaeth gynaliadwy i leihau'r gyllideb sylfaenol. Er enghraifft, os bydd y bwlch cyllidebol o £35.7 miliwn a fodelwyd ar gyfer 2025/26 yn cael ei lenwi drwy ddefnyddio cronfeydd wrth gefn yn unig, byddai’r un bwlch hwnnw o £35.7 miliwn yn parhau yn ystod 2026/27 – ar ben y bwlch newydd yn y gyllideb a wynebwyd y flwyddyn honno.

Dywedodd Y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Mae Aelodau o'r Cabinet wedi derbyn diweddariad manwl gan swyddogion ar sefyllfa ariannol ragamcanol y Cyngor, yng nghyd-destun y Cynllun Ariannol Canolig tair blynedd. Ymgymerir â'r broses yma bob blwyddyn gan swyddogion yn rhan o'n dull cyfrifol o bennu cyllideb y flwyddyn nesaf – gan gynnwys modelu ariannol nid yn unig ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, ond hefyd y cyfnod ehangach sydd i ddod.

“Mae’n amlwg bod y sector cyhoeddus yn parhau i wynebu heriau anodd iawn ar hyn o bryd, gyda phob cyngor yng Nghymru eto’n debygol o wynebu bwlch cyllidebol sylweddol ar gyfer 2025/26. Mae hyn oherwydd llawer o ffactorau, gan gynnwys effaith barhaus y pandemig a phwysau costau byw parhaus. Daw hyn ar ôl dwy flynedd ariannol lle bu rhaid i'r Cyngor lenwi'r bylchau mwyaf yn y gyllideb y mae wedi'u hwynebu erioed - £38 miliwn yn 2023/24 a £36 miliwn yn 2024/25.

“Mae ein dull ariannol darbodus wedi ein galluogi i gyflwyno buddsoddiad ychwanegol yn gyson ar gyfer gwasanaethau allweddol, hyd yn oed yn y cyfnod anodd yma. Rydyn ni wedi darparu gwelliannau gwirioneddol i ardaloedd sy'n cael eu gwerthfawrogi gan drigolion - fel ysgolion, trefi, ffyrdd, parciau a mannau chwarae. Rydyn ni wedi darparu £181 miliwn mewn buddsoddiad ychwanegol ar gyfer blaenoriaethau o’r fath ers 2015, heb gynnwys rhaglen bellach gwerth £6.95 miliwn ar gyfer 2024/25 y cytunwyd arni’n ddiweddar gan y Cabinet. Fodd bynnag, er bod y cyllid untro yma wedi bod yn gadarnhaol, rydyn ni'n cydnabod bod angen mynd i’r afael â’r diffygion a ragwelir yn y gyllideb sylfaen refeniw o hyd.

“Mae adroddiad dydd Llun yn nodi sawl enghraifft o’r bylchau cyllidebol posibl y gallai’r Cyngor eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod, yn seiliedig ar senarios amrywiol. Mae’n anodd rhagweld yr union ffigur oherwydd nifer o newidynnau posibl – er enghraifft, mae pob amrywiad o 1% yn ein setliad gan Lywodraeth Cymru yn cyfateb i £4.9 miliwn o gyllid y Cyngor. Fodd bynnag, mae swyddogion wedi modelu bwlch cyllidebol posibl o £35.7 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf, a £91.8 miliwn dros y tair blynedd nesaf.

“Er ei bod yn debygol y bydd penderfyniadau anodd o’u blaenau, gall trigolion fod yn sicr bod swyddogion yn parhau i edrych ar bob un o feysydd busnes y Cyngor, i weld sut mae modd i ni fod yn fwy effeithlon wrth warchod gwasanaethau allweddol. Mae hyn yn anodd iawn i’w gyflawni ar ôl blynyddoedd o galedi, ond rydyn ni wedi ymrwymo i ddarparu ein gwasanaethau mewn ffyrdd callach a dod hyd yn oed yn fwy effeithlon wrth wneud hynny. Mae uwch swyddogion eisoes wedi cychwyn ar y broses yma yng nghyd-destun cyllideb 2025/26. Byddwn ni hefyd yn parhau i flaenoriaethu meysydd allweddol megis gofal cymdeithasol ac addysg, sydd wedi'u cynnwys ym modelu ariannol swyddogion.

“Bydd trigolion yn gallu dweud eu dweud ar gyllideb y flwyddyn nesaf yn ymgynghoriad blynyddol y Cyngor. Cyn bo hir byddwn ni'n rhoi’r manylion llawn am sut i gymryd rhan yng ngham cyntaf y broses yma, a fydd yn cael ei chynnal yn ystod yr hydref.”

Wedi ei bostio ar 27/09/2024