Skip to main content

Dathlu Llwyddiannau Plant sy'n Derbyn Gofal

2

Cynhaliwyd achlysur Dathlu Plant sy’n Derbyn Gofal 2024 ddydd Mercher, 18 Medi yng Nghlwb Rygbi Pontypridd. Trefnwyd yr achlysur gan yr Ysgol Rithwir i Blant sy’n Derbyn Gofal a chefnogwyd yr achlysur gan ein Gwasanaethau i Blant a’r garfan Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant. Daeth yr achlysur â dros 100 o bobl ifainc, cynhalwyr ac aelodau o staff ynghyd i gydnabod a dathlu llwyddiannau rhyfeddol pobl ifainc sy'n derbyn gofal. Roedd yn achlysur calonogol yn llawn llawenydd, cydnabyddiaeth ac ysbrydoliaeth.

Yn ystod y noson, ymunodd nifer o westeion â ni gan gynnwys y Cynghorydd Christina Leyshon, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfranogiad Pobl Ifainc a’r Hinsawdd, ac Aelod o'r Bwrdd Rhianta Corfforaethol; y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg, ac Is-gadeirydd y Bwrdd Rhianta Corfforaethol; Annabel Lloyd, Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant; a Gaynor Davies, Cyfarwyddwr Addysg.

Meddai’r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o’r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Chadeirydd y Bwrdd Rhianta Corfforaethol: “Mae’r dathliad yma'n gyfle gwych i gydnabod cyflawniadau’r bobl ifainc ysbrydoledig a fynychodd ac a dderbyniodd wobrau.

“Mae eu cryfder, eu cydnerthedd a’u penderfyniad yn wirioneddol glodwiw. Mae pob plentyn yn haeddu pencampwr, ac mae’n fraint cael cefnogi a hyrwyddo eu llwyddiannau.”

Enwebwyd cyfanswm o 32 o bobl ifainc ar gyfer gwobrau cyflawniad ar draws pedwar categori, gyda phob un yn cael tystysgrif a thaleb i gydnabod eu hymdrechion:

  • Addysg: Cyflwynwyd gan Gaynor Davies, Cyfarwyddwr Addysg, a ganmolodd yr 14 plentyn a enwebwyd am eu cyflawniadau academaidd rhagorol.
  • Cydnerthedd: Cyflwynwyd gan y Cyng. Rhys Lewis, Aelod o’r Cabinet ar faterion Addysg, Cynhwysiant, a’r Gymraeg, a dynnodd sylw at bwysigrwydd cydnerthedd a rôl rhieni corfforaethol wrth gefnogi pobl ifainc. Cafodd 9 unigolyn eu cydnabod yn y categori yma.
  • Helpu Cyfoedion, Lles ac Ymdrech: Cyflwynwyd gan y Cyng. Christina Leyshon, Aelod o’r Cabinet ar faterion y Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfranogiad Pobl Ifainc a’r Hinsawdd, a ganmolodd y 4 plentyn a enwebwyd am eu cyfraniadau ysbrydoledig at ymdrechion gwrth-fwlio, cefnogaeth i gyfoedion a rhannu caredigrwydd.
  • Chwaraeon: Cyflwynwyd gan Annabel Lloyd, Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Blant, a ddathlodd ddewrder, cydnerthedd, a sgiliau’r 5 plentyn a enwebwyd.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o’r Cabinet ar faterion Addysg, Cynhwysiant, a’r Gymraeg, ac Is-Gadeirydd y Bwrdd Rhianta Corfforaethol: “Hoffwn yn gyntaf gydnabod y cynhalwyr a’n staff am gynnal achlysuron fel hyn, gan annog ein pobl ifainc i wneud eu gorau mewn bywyd ac i ffynnu.

“Rwy' bob tro'n edrych ymlaen at ddod i’r achlysuron yma a chwrdd â’r holl bobl ifainc anhygoel. Maen nhw'n aml yn uchafbwynt y flwyddyn yn ein calendrau.

“Fel rhieni corfforaethol, mae dyletswydd arnon ni i bob plentyn yn ein gofal - dyletswydd rwy'n ei chymryd o ddifrif gan fod pob plentyn yn haeddu pencampwr a llais i fod yn eiriolwr drostyn nhw. Mae’n anrhydedd i fi allu mynychu achlysur Dathlu Plant sy'n Derbyn Gofal a chyflwyno gwobrau i’r bobl ifainc.”

Roedd yr achlysur hefyd yn cynnwys perfformiad gan fand YEPS 'The Unknown,' ac fe wnaeth pawb fwynhau pizza  a disgo distaw, a ddarparodd awyrgylch hwyliog a hamddenol i bawb.

Rhoddwyd diolch arbennig i garfan yr Ysgol Rithwir a drefnodd yr achlysur, aelodau'r bwrdd rhianta corfforaethol, Gwasanaethau i Blant a'r garfan Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant am eu cefnogaeth. Soniwyd yn arbennig am Abi-Leigh, person ifanc â phrofiad o dderbyn gofal a chwaraeodd ran arwyddocaol wrth sefydlu a threfnu’r achlysur a chyflwynwyd taleb iddi i gydnabod ei hymdrechion. Diolch yn fawr i Glwb Rygbi Pontypridd am ddarparu'r lleoliad a'r lletygarwch.

Roedd Achlysur Dathlu Plant sy’n Derbyn Gofal 2024 yn arwydd o ymroddiad a gwaith caled pawb a gymerodd ran, gan dynnu sylw at botensial a chyflawniadau anhygoel pobl ifainc sy'n derbyn gofal. Rydyn ni'n hynod falch o'n holl blant a phobl ifainc sy'n derbyn gofal. Mae eu cyflawniadau, boed yn fawr neu'n fach, yn adlewyrchiad o'u hymdrech a'u dyfalbarhad.

Wedi ei bostio ar 30/09/24