Yn ei gyfarfod ar Dydd Llun, Medi 23, cymeradwyodd y Cabinet Strategaeth Dai ddrafft newydd RhCT (2024-2030), gan gychwyn cyfnod ymgynghori cyhoeddus ffurfiol.
Mae Strategaeth Dai ddrafft RhCT yn nodi sut, dros y 6 blynedd nesaf, y bydd y Cyngor yn gweithio gyda rhanddeiliaid i lunio a darparu tai diogel, fforddiadwy o ansawdd, a gwasanaethau tai. Gyda gostyngiad yn yr adnoddau sydd ar gael yn y sector cyhoeddus, mae’r Strategaeth yn dibynnu ar ddawn greadigol, arloesedd a gweithio mewn partneriaeth, gan ganolbwyntio ar fewnfuddsoddi gyda chyfeiriad strategol cadarn.
Gweledigaeth y Cyngor ar gyfer y strategaeth yw sicrhau bod ‘y farchnad dai yn RhCT yn cynnig mynediad i’n trigolion i gartrefi fforddiadwy o ansawdd da, yn y lle cywir ar yr amser cywir.’
Gwnaeth y Strategaeth Dai blaenorol, ‘Adeiladu ar Sylfeini Cadarn’, welliannau i dai a gwasanaethau tai ar draws RhCT, megis darparu dros 1,000 o gartrefi fforddiadwy a dod â dros 1,500 o eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.
Fodd bynnag, mae llawer o heriau o'n blaenau o hyd y mae'r Strategaeth yn ceisio mynd i'r afael â hwy. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau tai, yn enwedig y gwasanaethau digartrefedd. Mae yna hefyd ffactorau ehangach sydd wedi cyfrannu at bwysau tai, fel cyfraddau llog uwch sydd wedi arwain at lawer o landlordiaid yn gadael y sector rhentu preifat, a nifer cynyddol o bobl hŷn a phobl sy’n byw gyda salwch cyfyngus hirdymor sydd angen addasiadau i'w cartrefi iddynt fyw'n annibynnol.
Cefnogir y strategaeth newydd gan bedwar amcan a fydd yn llywio ei chyflawniad, sef:
• Galluogi marchnad dai weithredol sy'n diwallu anghenion ein cymunedau.
• Hyrwyddo cymunedau cynaliadwy a chreu cartrefi sy'n ddiogel, yn gynnes ac yn iach trwy wella cyflwr tai a buddsoddi mewn adfywio cymunedol.
• Galluogi mynediad i bob math o dai addas a fforddiadwy sy'n diwallu anghenion trigolion.• Creu cymunedau llewyrchus drwy sicrhau bod trigolion yn gallu cael gafael ar gyngor a chymorth ar faterion tai sy'n diwallu eu hanghenion.
Bydd ymgynghoriad chwe wythnos nawr yn cael ei gynnal a bydd yn cynnwys arolwg ar-lein a gweithdai wedi'u targedu. Bydd yr adborth o hyn yn llywio fersiwn derfynol y strategaeth. Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd strategaeth ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno i'r Cabinet i'w chymeradwyo'n derfynol.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Norris, Aelod o’r Cabinet dros faterion Ffyniant a Datblygiad: “Rwy’n falch o weld y Strategaeth Dai newydd yn cael ei chymeradwyo. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i'n trigolion i ddarparu tai fforddiadwy o safon.
“Nid yw’n gyfrinach fod y DU yng ngafael argyfwng tai, gyda Rhondda Cynon Taf yn wynebu materion tebyg i weddill y Wlad.
“Rydym wedi cael llawer o lwyddiannau yn y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig wrth helpu i droi eiddo gwag yn gartrefi y mae pobl yn eu coleddu, ond rydym yn gwbl ymwybodol bod nifer o bwysau o fewn y farchnad dai.
“Gyda chefnogaeth partneriaid bydd y strategaeth newydd hon yn parhau i adeiladu ar lwyddiant y strategaeth dai blaenorol.”
Wedi ei bostio ar 25/09/2024