Mae'r Cyngor wedi darparu'r adroddiad cynnydd diweddaraf ar gyfer y gwaith atgyweirio ar ochr Ffordd Mynydd y Rhigos ger Treherbert - ac mae'r cynllun yn parhau i wneud cynnydd yn unol â'r amserlenni a osodwyd ar ddechrau'r gwaith.
Cafodd ffordd y mynydd rhwng Treherbert a Rhigos ei chau o 22 Gorffennaf, ac roedd hyn yn gwbl angenrheidiol i sicrhau diogelwch yn ystod cynllun adfer mawr, cymhleth. Mae angen cwblhau’r gwaith er mwyn unioni difrod a gafodd ei achosi'n flaenorol gan danau gwyllt mawr i ardal sylweddol o ochr y mynydd, rhwydi a ffensys.
Mae'r gwaith hanfodol yma'n cael ei gyflawni cyn gynted â phosibl dros gyfnod yr haf a'r hydref eleni, er mwyn sicrhau bod y ffordd yn gallu parhau i gael ei defnyddio dyfodol. Roedd perygl hirdymor y gallai wyneb y graig fod wedi dirywio pe bai'r gwaith wedi cael ei adael yn hirach, a byddai angen cau’r ffordd dros gyfnod llawer hirach na hyd y gwaith presennol pe bai argyfwng wedi codi.
Cau Ffordd Mynydd y Rhigos – Cwestiynau Cyffredin
Mae'r Cyngor wedi esbonio bod dim modd cadw'r ffordd ar agor tra bod y gwaith yn mynd rhagddo, er mwyn sicrhau diogelwch. Mae peirianwaith trwm ac offer ar gyfer mynediad arbenigol yn cael eu defnyddio i gyrraedd pen uchaf wyneb y graig, fel sydd i'w gweld yn y delweddau diweddaraf y safle, ac ar yr un pryd mae perygl y gallai tameidiau o'r graig ddisgyn ar y ffordd.
Mae cyfuniad o ddatrysiadau geodechnegol arbenigol yn sail i'r cynllun gorffenedig, sydd wedi'i gytuno arno, ar gyfer mynd i'r afael â'r difrod i ochr y bryn. Ymysg y rhain, mae'r system gwanhadur (attentuator), gwahanfur ar gyfer creigiau sy'n disgyn a systemau rhwydi gweithredol (sy'n rhwystro creigiau rhag disgyn) ac anweithredol (sy'n fodd o gasglu creigiau sy'n disgyn).
Roedd y diweddariad cynnydd blaenorol ar 19 Awst yn nodi tirnodau allweddol yn ystod camau cynnar y gwaith - o sefydlu’r safle i osod angorau creigiau, cael gwared ar lystyfiant, profi’r bolltau craig, a dechrau drilio’r prif folltau craig.
Diweddariad ynghylch cynnydd – wythnos yn dechrau Dydd Llun 9 Medi
Mae gwaith drilio bolltau craig lefel isel wedi mynd rhagddo ym mhob rhan o’r safle, gan ddod i ben yn y lleoliad lle cafodd y rhwystrau concrid a'r goleuadau traffig eu gosod yn flaenorol fel mesur dros dro oherwydd y risg o gwymp creigiau. Roedd y broses yma'n araf, ond mae hi wedi'i chwblhau erbyn hyn.
Un o'r prif weithgareddau ar y safle ar hyn o bryd yw gosod gwanwyr creigiau mawr. Mae hyn yn ei hanfod yn golygu gosod system ffensio dechnegol fawr i ddal y graig, sy'n cychwyn o frig wyneb y graig ac yn parhau i lawr i'r gwaelod, ger y ffordd.
Mae sylfeini concrit yn cael eu gosod ar hyn o bryd i gefnogi'r system. Mae hyn yn cynnwys gosod pyst mawr ar y graig a'r ddaear ar oddefiannau penodol, yn ogystal â rhwyllau dur tra hydwyth. Dyma ddatrysiad parhaol i reoli cwymp creigiau yn y dyfodol, a byddan nhw’n cael eu gosod yn yr wythnosau nesaf. Mae'r system newydd yma’n well na’r system flaenorol a oedd ar waith.
Mae gweithgarwch diweddar arall wedi cynnwys tynnu darnau mawr o graig o ochr y bryn, sydd wedi'i gwblhau mewn modd rheoledig gan y contractwr. Amcangyfrifwyd bod un graig o'r fath yn pwyso tair tunnell.
Mae'r contractwr yn parhau i gyflawni cymaint o waith â phosibl ar y safle, gyda nifer o feysydd gwaith wedi'u rhaglennu ar yr un pryd, ond rhaid iddo roi ystyriaeth briodol i anghenion hygyrchedd er mwyn sicrhau bod y gwaith sy'n cael ei wneud ar uchder yn cael ei wneud yn ddiogel bob amser.
Fodd bynnag, mae llawer o waith i'w wneud yn rhan o'r rhaglen, ac mae llawer o'r gwaith hwn yn dibynnu ar dywydd braf. Bydd y Cyngor yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i drigolion am gynnydd y gwaith dros yr wythnosau nesaf.
Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf : “Mae'r contractwr rydyn ni wedi'i benodi wedi manteisio ar fisoedd yr haf, ac rydyn ni dros hanner ffordd trwy'r gwaith mawr yma. Ar y cyfan, mae cynnydd cadarnhaol wedi’i wneud ac rydyn ni ar y trywydd iawn o hyd i gwblhau’r cynllun, ac ailagor ffordd y mynydd i fodurwyr, o fewn yr amserlenni sydd wedi'u gosod.
“Fodd bynnag, mae llawer o’r gwaith sydd i ddod yn dibynnu’n fawr ar y tywydd, a nawr ein bod ni ym misoedd yr hydref mae'r tebygrwydd o gael glaw a gwynt yn uwch– yn enwedig ar ein ffyrdd mynyddig. Er enghraifft, bu'n rhaid aildrefnu rhywfaint o waith cynlluniedig yn ddiweddar gan nad oedd hi’n ddiogel i staff weithio ar uchder o'r fath yn ystod gwyntoedd cryfion. Bydd ein contractwr yn parhau i edrych i’r dyfodol a chynllunio’r holl weithgarwch mawr y safle ar gyfer yr adegau pan fydd y tywydd gorau yn cael ei ragweld.
“Rydyn ni o hyd yn ddiolchgar i ddefnyddwyr y ffyrdd am eu hamynedd a’u cydweithrediad tra bod y cynllun hanfodol yma'n dechrau ar ei wythnosau olaf, wrth i ni sicrhau bod ffordd y mynydd ar gael yn y dyfodol. Rydyn ni'n effro i'r anghyfleustra y mae cau’r ffordd yn ei achosi – ond mae gyda ni gyfrifoldeb i atgyweirio ochr y mynydd a does dim modd gwneud hynny’n ddiogel gyda modurwyr yn defnyddio’r ffordd islaw.”
Wedi ei bostio ar 12/09/2024