Mae adeilad newydd sbon a mannau awyr agored wedi'u hagor yn Ysgol Gynradd Gymuned Glenbói ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd, a hynny er mwyn gwella ei lleoliad gofal plant a gwella'r cyfleusterau chwarae awyr agored i ddisgyblion.
Mae'r prosiect cyffrous yn Aberpennar wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth ariannol sylweddol a gafodd ei sicrhau gan Lywodraeth Cymru trwy ei Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar. Yn rhan o'r prosiect, mae adeilad hŷn wedi'i ddymchwel ac mae adeilad newydd sy'n cynnwys cyfleusterau rhagorol wedi'i adeiladu yn ei le. Mae'r cyfleusterau yma'n cynnwys man chwarae modern a bywiog, swyddfa, cegin i staff, man paratoi bwyd, ac ardal chwarae awyr agored bwrpasol gyda chanopi.
Bydd y prosiect yn cynyddu capasiti lleoedd gofal plant cofrestredig Arolygiaeth Gofal Cymru a gaiff eu cynnig ar y safle. Mae'r lleoliad yn darparu'n bennaf ar gyfer plant sy'n manteisio ar y rhaglen Dechrau'n Deg, ond bydd modd iddo hefyd ddarparu lleoedd a gaiff eu hariannu gan y Cynnig Gofal Plant – yn ogystal â gofal ar ôl ysgol a gofal yn ystod gwyliau’r ysgol.
Mae'r adeilad newydd wedi'i adeiladu tafliad carreg o'r hen adeilad, sydd wedi galluogi'r gofod gwag o'r hen adeilad i gael ei ddatblygu at ddefnydd yr ysgol. Mae'r ardal yma hefyd wedi'i hadnewyddu ac mae bellach yn cynnwys Ardal Gemau Aml-ddefnydd a fydd yn gwella'r cyfleoedd chwarae awyr agored i ddisgyblion.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a'r Gymraeg: "Mae'r cyfleusterau gwych yma'n Ysgol Gynradd Gymuned Glenbói yn ganlyniad i fuddsoddiad sylweddol a gafodd ei gwblhau mewn pryd ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd. Rydyn ni'n parhau i groesawu cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i wella cyfleusterau addysg ledled y Fwrdeistref Sirol, gan ddarparu prosiectau'r 21ain Ganrif mewn mwy o'n cymunedau.
"Mae dwy brif elfen i'r prosiect yn Ysgol Glenbói. Yr elfen gyntaf yw adeilad newydd sy'n cynnig cyfleusterau gofal plant llawer gwell o gymharu â'r hen gyfleuster – roedd yr hen adeilad angen ei adnewyddu. Yr ail elfen yw gofod ysgol gynradd wedi'i adnewyddu sy'n cynnwys Ardal Gemau Aml-ddefnydd. Mae'r buddsoddiad wedi gwella'r lleoliad gofal plant sy'n gweithredu o'r ysgol yn sylweddol – tra bod dwy elfen y prosiect hefyd wedi cynyddu'r gofod awyr agored sydd ar gael ar y safle, gan hyrwyddo cyfleoedd dysgu a chwarae awyr agored drwy'r flwyddyn.
"Mae'r Cyngor wedi cyflawni'r prosiect yma ochr yn ochr â chynllun ar wahân yn Ysgol Gynradd Gymraeg Castellau fis Medi eleni. Yn rhan o'r gwaith ym mhentref Beddau, mae dwy ystafell ddosbarth wedi'u hadnewyddu ar gyfer y grwpiau oedran Meithrin a Derbyn. Dyma'r cam cyntaf tuag at weithredu cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg o'r ysgol yn ddiweddarach y tymor yma. Mae'r prosiectau yma'n dangos ein hymrwymiad parhaus i sicrhau a chyflawni buddsoddiad mewn cyfleusterau gofal plant ar gyfer ein cymunedau – wedi'u targedu i gynyddu mynediad teuluoedd at ddarpariaethau Dechrau'n Deg a'r Cynnig Gofal Plant."
Wedi ei bostio ar 09/09/2024