Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y cynllun parhaus i ail-adeiladu Pont Droed y Bibell Gludo ger Abercynon. Mae'r gwaith yn parhau i symud ymlaen yn ôl y rhaglen, ac mae'n achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosibl yn lleol.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ganol mis Mai 2024 ar ôl i ganiatâd cynllunio gael ei roi ym mis Ebrill 2024. Mae'r bont wedi'i lleoli rhwng Abercynon a Mynwent y Crynwyr, ar ffin y fwrdeistref sirol rhwng Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful, gan groesi'r Afon Taf rhwng Maes Alexandra a'r Dramffordd.
Roedd y strwythur wedi'i ddifrodi yn sylweddol yn ystod Storm Dennis, a chafodd bwrdd y bont a'r parapedau eu tynnu oddi yno'n dilyn hyn am resymau diogelwch. Mae’r bont newydd wedi’i dylunio i fod yn lletach ac yn fwy gwydn i stormydd, gyda bwrdd y bont newydd yn cael ei adeiladu gyda dur yn hytrach na phren, yn yr un modd â'r bont wreiddiol. Bydd yr ategweithiau a'r pileri yn cael eu cynnal a'u cadw.
Diweddariad ar gynnydd y cynllun – Medi 2024
Yn ystod gweithgarwch cynnar y contractwr Balfour Beatty, sefydlwyd swyddfeydd a chyfleusterau lles y safle, ac adeiladwyd trac mynediad i’r bont droed ar ochr ogleddol yr afon. Yn dilyn hyn, cwblhawyd gwaith gosod seilbyst i gynnal ategwaith gogleddol y bont. Cwblhawyd y gwaith cloddio ac atgyfnerthu'r ategwaith gogleddol a deheuol, a'r pileri ar yr ochr ogleddol - ynghyd â cham cyntaf y gwaith o arllwys concrit.
Mae gwaith diweddar wedi cynnwys adeiladu platfform sefydlog a gwastad i gynnal craen mawr oddi ar Ochr y Dramffordd, a fydd yn ofynnol ar gyfer gweithrediadau codi yn y dyfodol. Roedd angen symud tua 1,500 tunnell o ddeunydd i safle'r gwaith, a chodi sgaffaldiau ynghlwm wrth bileri'r bont bresennol.
Bydd craen yn cael ei godi ar y safle cyn bo hir, gan alluogi deunyddiau i gael eu codi i'r afon i wneud gwaith i atgyweirio niwed sgwrio i wyneb y graig sy'n cynnal y droedffordd ar ochr ddeheuol yr afon. Bydd hefyd yn galluogi codi pibell ganolog y bont o'r strwythur mewn adrannau.
Bydd y ddwy bibell arall ar y bont yn aros yn eu lle, yn unol â’r caniatâd cynllunio. Mae tynnu'r bibell ganolog yn hanfodol er mwyn sicrhau bod modd gwneud cysylltiad addas â'r pileri presennol ar gyfer y strwythur newydd. Yna bydd topiau'r pileri'n cael eu haddasu i wneud lle ar gyfer cynnal y bont a'r cysylltiadau, a bydd gwaith i adeiladu'r ategwaith gogleddol a deheuol yn cael ei gwblhau.
Bydd y bont newydd yn cael ei chodi i'w lle yn ddiweddarach eleni, ar ôl iddi gael ei hadeiladu i ffwrdd o'r safle. Yna bydd y llwyfan craen dros dro yn cael ei symud, tra bydd gwaith yn mynd yn ei flaen i ailadeiladu ac ail-wynebu llwybrau troed. Mae’r prosiect cyffredinol ar y trywydd iawn i gael ei gwblhau yn gynnar yn 2025, yn dilyn y rhaglen wreiddiol.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Mae cynnydd pwysig wedi’i wneud ar ailosod Pont Droed y Bibell Gludo ers dechrau’r gwaith ym mis Mai. Mae ein contractwr wedi manteisio ar fisoedd yr haf i sicrhau bod y prosiect yn mynd rhagddo yn unol â’r amserlen – i adfer y cyswllt dros yr afon rhwng Abercynon a Mynwent y Crynwyr yn ystod y Flwyddyn Newydd.
“Rydyn ni'n parhau i groesawu cyllid hanfodol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau atgyweirio Storm Dennis, drwy raglen gyllido bwrpasol ar gyfer Rhondda Cynon Taf gwerth £3.61 miliwn yn 2024/25. Cwblhawyd y cynlluniau mawr i adnewyddu Pont Droed Castle Inn yn Nhrefforest, ac i atgyweirio’r Bont Wen ym Mhontypridd, o fewn rhaglen eleni – sydd wedi dilyn cymorth gwerth miliynau o bunnoedd ym mhob blwyddyn ers y storm ddigynsail yn 2020.
“Mae Pont Droed y Bibell Gludo newydd wedi’i dylunio i fod yn fwy gwydn i ddigwyddiadau llifogydd yn y dyfodol. Mae ein holl gynlluniau atgyweirio yn ystyried y bygythiad a ddaw yn y dyfodol yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Y prif weithgaredd nesaf ar y safle yw gosod craen mawr a fydd yn galluogi deunyddiau i gael eu codi i’r bont ac oddi yno – ac, yn ddiweddarach yn y prosiect, bydd yn codi’r bont newydd i’w lle.
“Bu ychydig iawn o amhariad lleol trwy gydol y gwaith hyd yn hyn, a disgwylir i hyn barhau oherwydd bod y bont wedi'i lleoli i ffwrdd o eiddo preswyl. Bydd dim angen unrhyw reolaeth traffig sylweddol a bydd mwyafrif y llwybrau troed yn parhau ar agor. Hoffwn ddiolch i’r gymuned am eu cydweithrediad parhaus wrth i’r cynllun yma symud ymlaen tuag at ei gwblhau yn gynnar yn 2025.”
Wedi ei bostio ar 23/09/24