Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, mae’r Cabinet wedi bwrw ymlaen â chynigion i gynyddu lefel Treth y Cyngor sy'n cael ei godi ar berchnogion eiddo sydd wedi aros yn wag am fwy na blwyddyn – er budd cymunedau.
Cytunodd yr Aelodau hefyd y dylai'r Cyngor ddefnyddio pwerau ymyrryd ychwanegol yn y dyfodol mewn achosion penodol lle does dim gobaith realistig y byddai perchennog yn cymryd camau i ailddefnyddio ei eiddo gwag. Bydd y Cabinet nawr yn argymell bod y Cyngor Llawn yn mabwysiadu’r cynigion.
Ddydd Iau, 19 Medi, trafododd y Cabinet yr adborth a dderbyniwyd mewn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar a gynhaliwyd rhwng 29 Gorffennaf a 8 Medi, 2024. Roedd yr ymarfer yn canolbwyntio ar gynigion penodol sydd wedi’u cyflwyno yn rhan o strategaeth ehangach i leihau nifer yr eiddo gwag tymor hir.
Byddai lleihau nifer yr eiddo gwag yn Rhondda Cynon Taf yn cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy, yn gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol, yn gwella sut mae’r eiddo yn edrych, ac yn cael gwared ar y risg y bydden nhw'n denu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Ym mis Ebrill 2023, cyflwynodd y Cyngor bremiwm Treth y Cyngor o 50% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag rhwng blwyddyn a dwy flynedd, a 100% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na dwy flynedd. Cafodd premiwm o 100% ei gyflwyno ar gyfer ail gartrefi hefyd. Mae'r cynigion newydd yn ceisio cyflwyno mesurau hyd yn oed yn fwy, drwy gyflwyno'r premiymau canlynol o 1 Ebrill, 2025:
- Cynyddu premiwm Treth y Cyngor i 100% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am rhwng blwyddyn a thair blynedd (cyfanswm lefel Treth y Cyngor o 200%).
- Cynyddu premiwm Treth y Cyngor i 200% ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am fwy na thair blynedd (cyfanswm lefel Treth y Cyngor o 300%).
Byddai’r cynigion yn cadw’r eithriadau presennol rhag premiymau Treth y Cyngor – lle caiff eiddo ei farchnata’n rhesymol i’w osod neu i gael ei werthu (am hyd at flwyddyn), neu lle mae eiddo wedi’i eithrio rhag Treth y Cyngor (eiddo sy’n cael ei atgyweirio neu’n cael newidiadau strwythurol, tai gwag sy'n eiddo i elusen, neu pan fo perchennog eiddo wedi marw'n ddiweddar).
Rhoddodd adroddiad y Cabinet dydd Iau fanylion ar yr adborth o'r ymgynghoriad – roedd y broses yn cynnwys swyddogion yn anfon llythyr/e-bost at fwy na 3,000 o berchnogion eiddo gwag, ac yn darparu holiadur ar-lein. Derbyniwyd cyfanswm o 157 o ymatebion.
Nododd swyddogion fod yr adborth yn amrywio rhwng ymatebwyr a nododd eu bod nhw'n berchen ar eiddo gwag, o gymharu â’r rhai a ddisgrifiodd eu hunain fel ‘trigolion’ (aelodau o’r cyhoedd). Roedd cyfanswm o 53% o’r ymatebwyr yn berchnogion eiddo gwag, ac roedd 57% o’r ymatebion yn anghytuno â lefel newydd arfaethedig premiwm Treth y Cyngor. Serch hynny, roedd 66.2% o’r ymatebwyr a nododd eu bod yn ‘drigolion’ yn cytuno â’r cynigion.
Roedd y cynigion hefyd yn cynnwys defnydd y Cyngor o bwerau ymyrryd ychwanegol mewn achosion lle nad oes gobaith realistig y byddai perchennog yn cymryd camau i ailddefnyddio’i eiddo gwag. Er enghraifft, byddai modd gwneud hyn drwy ddefnyddio Gorchymyn Prynu Gorfodol, lle byddai'r Cyngor yn berchen ar yr eiddo ac yn gweithio gyda'r sector tai lleol er mwyn sicrhau ei fod yn ddefnyddiadwy.
At ei gilydd, roedd 59.8% o’r holl ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn cytuno â’r elfen yma. Cododd hyn i 76.9% ar gyfer yr ymatebwyr hynny a nododd eu bod nhw'n ‘drigolion’.
Meddai'r Cynghorydd Mark Norris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Datblygu a Ffyniant: “Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau bod eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir yn cael eu defnyddio eto. Dywedodd swyddogion wrth y Cabinet ym mis Gorffennaf ein bod ni wedi bod yn llwyddiannus gyda 922 o eiddo ers 2017. Er bod hyn yn cynrychioli cynnydd da iawn hyd yn hyn, mae nifer yr eiddo gwag yn y Fwrdeistref Sirol yn dal yn uchel.
“Mae’r cynnydd a wnaed hyd yma wedi’i gyflawni’n bennaf drwy ymyraethau y cytunwyd arnyn nhw yn Strategaeth Tai Gwag RhCT. Un o’r camau gweithredu yma oedd cyflwyno premiymau Treth y Cyngor ar gyfer perchnogion eiddo, i’w hannog i gymryd camau a fydd yn sicrhau bod eu heiddo yn cael eu defnyddio eto. Mae’r pwerau yma wedi bod ar gael i gynghorau Cymru ers 2017 ac fe’u cynyddwyd yn 2023 – pan gafodd ein premiymau Treth y Cyngor presennol, sy'n amrywio o 50% i 100%, eu cyflwyno.
“Er mwyn mynd i’r afael â’r mwy na 1,500 o eiddo sydd wedi bod yn wag am amser maith, mae swyddogion wedi cyflwyno cynigion hyd yn oed yn fwy llym a byddai’r rhain yn dod i rym o fis Ebrill 2025. Byddai'r rhain i bob pwrpas yn dyblu lefel safonol Treth y Cyngor ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag ers rhwng blwyddyn a thair blynedd, a'i threblu ar gyfer y rhai sy'n parhau i fod yn wag am fwy na thair blynedd.
“Er bod cymysgedd o ymatebion yn yr adborth cyffredinol i’r ymgynghoriad, efallai nad oes syndod bod y mwyafrif o’r rhai a oedd yn anghytuno â’r cynigion wedi nodi eu bod nhw'n berchen ar eiddo gwag – ac felly’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y premiymau Treth y Cyngor arfaethedig. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr a nododd eu bod nhw'n aelodau o'r cyhoedd o blaid y cynigion.
“Mae'r Cabinet wedi ystyried ystod eang o ffactorau wrth benderfynu ar y mater – gan gynnwys pwysigrwydd cefnogi angen lleol am dai, ac atal malltod ar ein cymunedau. Cytunodd yr Aelodau i fwrw ymlaen â'r cynigion, gan gynnwys defnyddio pwerau ymyrryd ychwanegol mewn achosion lle does dim gobaith realistig y bydd eiddo yn cael ei ddefnyddio unwaith eto. Bydd y penderfyniad yma nawr yn cael ei argymell i aelodau etholedig pan fyddan nhw'n trafod y mater mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn yn y dyfodol.”
Yn ogystal â'i Strategaeth Tai Gwag, mae'r Cyngor hefyd wedi arddangos ei ymrwymiad i leihau nifer yr eiddo gwag dros y blynyddoedd diwethaf ar lefel ranbarthol drwy arwain Cynllun Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd. Rydyn ni hefyd wedi cynorthwyo â chynlluniau Troi Tai'n Gartrefi a Homestep Plus, wedi cynnal Fforwm Landlordiaid Rhondda Cynon Taf ac wedi gweithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig er mwyn ailddefnyddio lleoliadau masnachu canol trefi."
Wedi ei bostio ar 23/09/24