Skip to main content

Cytuno ar raglen waith y cyllid arfaethedig gwerth £6 miliwn ar gyfer priffyrdd

Highways Capital Programme - Copy

Mae'r Cabinet wedi cytuno ar raglen gyfalaf atodol arfaethedig a fyddai'n buddsoddi £6m arall ar gyfer Priffyrdd a Phrosiectau Strategol yn 2024/25, ar ben rhaglen gyfalaf fawr y Cyngor sydd eisoes yn cael ei chyflwyno eleni.

Yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Iau, 19 Medi, cytunwyd ar fuddsoddiad gwerth £6.95m ar gyfer meysydd blaenoriaeth y Cyngor, a fydd nawr yn cael ei ystyried yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 25 Medi. Mae cyfanswm o £6 miliwn o'r cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer Gwasanaethau'r Priffyrdd a Thrafnidiaeth - Ffyrdd a Llwybrau Troed (£2.5m), Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan (£1m), Strwythurau (£2.25m), a'r Rhaglen Gwneud Defnydd Gwell (£250,000).

O ganlyniad, amlinellodd eitem ar wahân ar agenda cyfarfod dydd Iau sut y byddai modd dyrannu'r cyllid ychwanegol, drwy gynnig rhaglen gyfalaf atodol. Mae hyn ar ben y Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd, Trafnidiaeth a Phrosiectau Strategol gwerth £30.894 miliwn y cytunwyd arni ym mis Mawrth 2024 ar gyfer y flwyddyn ariannol yma, sydd wrthi’n cael ei chyflwyno hyd at 31 Mawrth 2025.

Gan ddefnyddio cyllid ychwanegol ar gyfer Ffyrdd a Llwybrau Troed, mae'r rhaglen yn nodi 31 cynllun newydd ar gyfer gosod wyneb newydd a 15 cynllun gwella llwybrau troed. Mae'r rhestr lawn o gynlluniau wedi'i chynnwys fel Atodiad i adroddiad y Cabinet.

Byddai'r dyraniad ar gyfer Strwythurau yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu tri chynllun pont – sef adnewyddu berynnau Pont Rheola yn ardal Porth, cryfhau Pont Rheilffordd Llanwynno yn Stanleytown, a chynnal atgyweiriadau concrit i Bont Glan y Llyn yng Nglyn-taf. Byddai'r cyllid hefyd yn galluogi gwaith paratoi manylach, gwaith dichonoldeb ac ymchwiliadau safle ar draws gwahanol gynlluniau pont eraill.

Byddai'r cyllid ar gyfer Strwythurau hefyd yn datblygu dau gynllun adnewyddu neu atgyweirio wal - Wal gynnal Maes Gynor yn Ynys-hir a wal yr afon ar Stryd y Nant/yr A4058 yn ardal Porth/Trehafod. Yn yr un modd, byddai'r gwaith paratoi manylach, gwaith dichonoldeb ac ymchwiliadau safle yn cael eu cyflawni ar gyfer gwahanol gynlluniau pont eraill.

Mae Rhaglen Gwneud Defnydd Gwell y Cyngor yn nodi gwelliannau isel eu cost a gwerthfawr ar gyfer rhannau o'r rhwydwaith ffyrdd - i wella llif traffig, lleihau tagfeydd, a gwella diogelwch ar y ffordd. Byddai'r cyllid newydd yn helpu i ymgymryd â chynlluniau dichonoldeb, rhagarweiniol a manwl lle bo'n briodol.

Yn olaf, byddai'r dyraniad ar gyfer Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan yn cefnogi'r cynllun i symud ymlaen drwy ei gamau dylunio a chynllunio yn y dyfodol.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae rhaglen gyfalaf eleni ar gyfer Priffyrdd a Thrafnidiaeth eisoes wrthi’n darparu cyllid gwerth £30.894m ar draws ein rhwydwaith - o adnewyddu ffyrdd a llwybrau troed i gynnal a chadw a gwella pontydd, waliau, cwlferi, goleuadau stryd, goleuadau traffig a draeniau, a datblygu prosiectau strategol mwy.

"Byddai'r arian ychwanegol a ystyriwyd ddydd Iau ar ben ein rhaglen gyfalaf flynyddol - gan ddarparu cyllid pellach gwerth £6m ar gyfer y gwasanaeth eleni. Rwy'n falch bod y Cabinet wedi cytuno ar fanylion rhaglen atodol, sy'n amlinellu sut y bydd y buddsoddiad yma’n cael ei dargedu'n benodol - a gallai hon gael ei chymeradwyo'n llawn yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ar 25 Medi.

"Rydyn ni eisoes wrthi’n darparu buddsoddiad cyfunol gwerth £7.5m ar gyfer adnewyddu ffyrdd a llwybrau troed eleni, a byddai'r cyllid ychwanegol gwerth £2.5m yn ychwanegu 46 o gynlluniau at y rhaglen eleni. Mae hyn yn parhau â'n dull ariannu carlam sydd wedi gwella lefel y buddsoddiadau yn ein ffyrdd dros y degawd diwethaf, gan leihau'r nifer y mae angen eu hatgyweirio yn sylweddol.

"Bob blwyddyn rydyn ni’n buddsoddi'n helaeth i ddiogelu'r strwythurau sy'n cynnal ein rhwydwaith ffyrdd at y dyfodol – ac mae rhaglen gyfalaf eleni yn cynnwys cyllideb o £6.58m, yn ogystal â chyllid gwerth £3.61m gan Lywodraeth Cymru iar gyfer gwaith atgyweirio difrod Storm Dennis. Byddai'r cyllid arfaethedig gwerth £2.25 miliwn yn datblygu pum cynllun pont neu wal gynnal sydd wedi'u henwi yn ardaloedd Porth, Stanleytown, Glyn-taf, Ynys-hir a Threhafod.

"Mae gwaith pwysig hefyd yn mynd rhagddo y tu ôl i'r llenni i ddatblygu Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan tuag at ei gyflawni yn ystod blwyddyn ariannol yn y dyfodol. Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd bod y cynllun mawr wedi'i ailddylunio i wreiddio trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol - a byddai'r cyllid newydd gwerth £1m yn cyfrannu at gamau dylunio a chynllunio allweddol y prosiect."

Wedi ei bostio ar 24/09/24