Mae gwaith lliniaru perygl llifogydd yn Heol y Blanhigfa, Abercynon, bellach wedi’i gwblhau, gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru.
Dechreuodd y gwaith ar ddiwedd mis Ionawr 2025, gan geisio mynd i’r afael â’r broblem o ddŵr yn rhedeg oddi ar ochr y mynydd ac yn gorlifo i'r briffordd yn ystod cyfnodau o law trwm gan effeithio ar eiddo.
Roedd y gwaith yn cynnwys atgyweirio ac uwchraddio'r sianel i fyny'r afon sy’n golygu bydd y dŵr yn llifo heb rwystr.
Roedd y gwaith hefyd yn cynnwys uwchraddio'r seilwaith draenio ac adeiladu cilfach cwlfer ychwanegol.
Cafodd y cynllun ei gwblhau i raddau helaeth erbyn diwedd mis Mawrth 2025 – gan ddefnyddio cyllid 2024/25 trwy raglen Grant Gwaith Graddfa Fach. Mae mân waith terfynol bellach wedi’i gwblhau.
Mae’r goleuadau traffig dros dro ger ardal y gwaith bellach wedi’u symud.
Wedi ei bostio ar 16/04/2025