Skip to main content

Pedwar Dosbarth Cynnal Dysgu newydd i gael eu sefydlu ym mis Medi

School classroom generic 1

Mae'r Cabinet wedi rhoi ei gymeradwyaeth derfynol ynghylch ehangu'r ddarpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu prif ffrwd ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd y cynigion yn cael eu rhoi ar waith o'r flwyddyn academaidd nesaf (2025/26) gan gynyddu cyfanswm nifer y dosbarthiadau yma o 48 i 52.

Roedd adroddiad a gafodd ei gyflwyno i’r Cabinet ddydd Mercher, 9 Ebrill, yn rhoi gwybod am ganlyniadau’r cyfnod gwrthwynebu a gynhaliwyd mewn perthynas â’r newidiadau sy'n cael eu cynnig; roedd hyn oll wedi cael cefnogaeth Aelodau'r Cabinet yn eu cyfarfod ym mis Ionawr 2025 o ran symud ymlaen i'r camau nesaf. Cafodd y cyfnod gwrthwynebu ei gynnal rhwng 11 Chwefror ac 14 Mawrth 2025 – yn ôl yr adroddiad ni chafodd unrhyw wrthwynebiad/sylwadau eu cyflwyno yn ystod y cyfnod yma.

Cafodd y cynigion eu llunio er mwyn ymateb i feysydd angen yn y Blynyddoedd Cynnar a'r cyfnod uwchradd, ac er mwyn anelu at gynyddu'r ddarpariaeth mewn rhai ysgolion i gyfyngu ar drefniadau pontio diangen ar gyfer disgyblion sy’n teithio o un safle i safle arall.

Mae 48 Dosbarth Cynnal Dysgu y Cyngor yn cynnig lleoliadau i ddisgyblion sy'n ei chael hi'n anodd dysgu mewn addysg brif ffrwd. Cafodd y Cabinet wybod ym mis Medi fod tua £5.8 miliwn yn cael ei wario bob blwyddyn ar weithredu'r dosbarthiadau, sydd yn rhoi cymorth i 420 disgybl. Mae'r nifer yma wedi cynyddu o 330 o ddisgyblion a 46 o ddosbarthiadau ers mis Hydref 2018; mae hyn yn tynnu sylw at y twf yn y galw.

Mae swyddogion hefyd wedi rhoi gwybod, er bod ystod ardderchog o Ddosbarthiadau Cynnal Dysgu ar gael, bod angen o hyd mewn rhai meysydd. Yn benodol, mae nifer y disgyblion yn y tri dosbarth Blynyddoedd Cynnar yn uwch na'r nifer optimaidd, ac mae diffyg ar hyd ystod blynyddoedd 7-11 yn y cyfnod uwchradd. Does dim Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion uwchradd ag Anawsterau Dysgu Cymhleth yng Nghwm Cynon felly rhaid i ddisgyblion deithio i Donyrefail, Glynrhedynog neu Dreorci.

Hefyd, mae chwe dosbarth ar gyfer disgyblion blynyddoedd 3-6 ag Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol/ASA, ond dim ond pum dosbarth ar gyfer disgyblion y dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 2. Roedd nifer y disgyblion yn y rhain naill ai wedi cyrraedd y nifer optimaidd, neu'n uwch na hynny, erbyn mis Medi 2024. O'r chwe dosbarth Blwyddyn 3-6, dim ond tri sydd â darpariaeth gyfatebol ar gyfer y dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 2 felly mae rhaid i nifer o ddisgyblion deithio o un safle i safle arall.

Fe wnaeth swyddogion, felly, ddwyn pum newid ymlaen ar gyfer diwygio darpariaeth bresennol y Cyngor, a hynny er mwyn mynd i'r afael â'r meysydd angen yma. Mae'r newidiadau yma at ddibenion:

  • Sefydlu Dosbarthiadau Cynnal Dysgu (Ymyrraeth) y Blynyddoedd Cynnar yn Ysgol Gynradd Cwmaman ac Ysgol Gynradd Pen-yr-englyn ar gyfer plant oedran cyn-ysgol.
  • Sefydlu Dosbarth Cynnal Dysgu yn y cyfnod cynradd ar gyfer disgyblion ag Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol/ASA, yn Ysgol Gynradd Hirwaun.
  • Sefydlu Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7-11 sydd ag Anawsterau Dysgu Cymhleth, yn Ysgol Gyfun Aberpennar.
  • Adleoli'r Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion sydd ag Anghenion Cyfathrebu Cymdeithasol/ASA o Ysgol Gynradd Pen-y-waun i Ysgol Gynradd Hirwaun er mwyn creu darpariaeth pob oed (dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 6) ar un safle. Dim ond tri disgybl presennol fyddai'n symud yn rhan o'r newid yma.

Yn dilyn cymeradwyaeth y Cabinet ym mis Medi 2024, cafodd ymgynghoriad ei gynnal rhwng 30 Medi ac 15 Tachwedd, 2024. Cafodd cyfanswm o 25 holiadur eu cwblhau, a daeth tri llythyr/e-bost ac un ddeiseb i law. Aeth swyddogion i gyfarfodydd gyda 70 cynrychiolydd o Gynghorau Ysgolion, a daeth 23 rhiant i nosweithiau agored gafodd eu cynnal i roi rhagor o wybodaeth. Yn dilyn trafodaeth Aelodau’r Cabinet ynglŷn â’r adborth ddaeth i law, fe benderfynon nhw, ym mis Ionawr, symud y cynigion ymlaen i'r camau nesaf.

Yn dilyn penderfyniad diweddaraf y Cabinet, a ddigwyddodd wedi i'r Aelodau drafod deilliannau'r cyfnod gwrthwynebu, bydd y cynigion yn cael eu rhoi ar waith. Bydd y newid, felly, yn dod i rym o ddechrau mis Medi 2025.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg: "Mae swyddogion yn adolygu ein darpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu yn barhaus, a hynny er mwyn sicrhau ei bod yn addas ar gyfer anghenion disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Er bod ein 48 dosbarth yn yr ysgolion prif ffrwd yn rhoi cymorth amrywiol a gwerthfawr, mae swyddogion wedi rhoi gwybod i'r Cabinet eu bod nhw wedi nodi angen mewn rhai meysydd. Fe wnaethon nhw baratoi pum cynnig i'w hystyried; canolbwynt y rhain oedd diwallu'r angen yng nghyfnodau'r Blynyddoedd Cynnar ac uwchradd, cyflwyno dull mwy cyson mewn cymunedau penodol a chyfyngu ar yr achosion o symud disgyblion o un safle ysgol i safle arall.

“Yn dilyn trafodaeth am yr holl adborth a dderbyniwyd drwy gydol y broses – gan gynnwys yr ymatebion i’r ymgynghoriad a oedd, yn gyffredinol, o blaid y cynigion, a'r ffaith na ddaeth unrhyw wrthwynebiad i law yn ystod y cyfnod statudol diweddar – rhoddodd y Cabinet ei gymeradwyaeth derfynol i'r cynigion ddydd Mercher. Bydd y pum newid, felly, yn dod i rym o ddechrau mis Medi 2025, gyda chyfanswm nifer y Dosbarthiadau Cynnal Dysgu yn cynyddu i 52."

Wedi ei bostio ar 11/04/2025