Skip to main content

Rhaglen atgyweirio fawr i bont yng Nghwm Cynon yn dechrau'n fuan

Afon Cynon Bridge - Copy

Bydd cynllun atgyweirio pwysig yn dechrau'r wythnos nesaf i Bont Afon Cynon yr A4059, sydd wedi'i lleoli ar y darn o ffordd rhwng cylchfannau Cwm-bach ac Asda yng Nghwm Cynon. Bydd gwaith cychwynnol o 28 Ebrill yn cynnwys gosod y safle ac ymchwiliadau, gyda'r prif atgyweiriadau wedyn yn mynd rhagddyn nhw drwy gydol y flwyddyn.

Nodwch, er bod hwn yn gynllun mawr, bydd yn cael ei gyflawni gyda'r holl fesurau rheoli traffig angenrheidiol yn ystod sifftiau gwaith dros nos – tra bydd angen cau nifer cyfyngedig o ffyrdd. Bydd y trefniadau yma'n helpu i leihau aflonyddwch yn sylweddol ar y rhan brysur yma o'r rhwydwaith ffyrdd.

Mae'r A4059 yn mynd ar hyd y strwythur dros yr Afon Cynon, ac mae angen cyfres o atgyweiriadau cynnal a chadw arno. Mae'r rhaglen waith wedi'i chynllunio tan y gaeaf 2025/26, ond efallai y bydd angen ailddechrau yn y gwanwyn/haf canlynol, yn dibynnu ar gyfyngiadau mynediad Cyfoeth Naturiol Cymru uwchben y brif afon.

Bydd y cynllun yn cynnwys gosod berynnau newydd ar draws y strwythur, cwblhau atgyweiriadau concrit i wynebau blaen yr ategweithiau a'r waliau balast, gosod uniadau symud newydd yn lle uniadau dec y bont, gosod rhan newydd o ganllaw sydd wedi'i difrodi, gosod cerrig bloc i amddiffyn rhag sgwrio, atgyweirio wal gerrig, gwaith paentio cynnal a chadw, ac atgyweirio'r llwybr troed o dan y bont.

Mae'r Cyngor wedi penodi Horan Construction Ltd i gyflawni'r cynllun, sy'n cael ei ariannu trwy Raglen Gyfalaf Priffyrdd barhaus y Cyngor.

O 28 Ebrill, bydd y contractwr yn sefydlu safle ar gyfer peiriannau/offer yn Ystad Ddiwydiannol Parc Aberaman, ac yn ymgymryd â gwaith clirio llystyfiant, mesurau lliniaru ecolegol ac arolygon. Bydd y mesurau cychwynnol yn cynnwys:

  • Goleuadau traffig dwyffordd ar Bont Afon Cynon rhwng 8pm-6am ddydd Llun 28 Ebrill am hyd at bum noson o waith. Bydd hyn yn galluogi tyllau prawf i ddod o hyd i wasanaethau allweddol ar hyd y bont.
  • Cau'r hawl tramwy cyhoeddus o dan y bont dros dro o 7 Mai. Bydd hyn yn parhau trwy gydol y cynllun atgyweirio ehangach, er mwyn sicrhau diogelwch y gweithlu a'r cyhoedd.

Yn dilyn y gwaith cychwynnol yma, bydd y prif gynllun atgyweirio yn dechrau ym mis Mai 2025. Mae'r rhaglen waith wedi'i hamlinellu isod, er ei bod yn destun newid yn seiliedig ar nifer o ffactorau, gan gynnwys amodau tywydd ac unrhyw faterion annisgwyl:

  • Ffurfio mynediad ramp dros dro o'r A4059 i'r afon, sy'n gofyn am oleuadau traffig dros dro gyda’r nos (i'w ddisgwyl yn y gwanwyn, 2025).
  • Codi'r bont i alluogi gwaith gosod berynnau newydd, sy'n gofyn am gau'r ffordd gyda’r nos. Ar ôl ei gwblhau, bydd angen cau’r ffordd eto dros nos i ostwng y bont (i'w ddisgwyl yn y hydref, 2025).
  • Bydd ailosod uniadau ymestyn y bont yn gofyn am gau'r ffordd yn llawn gyda’r nos (i'w ddisgwyl yn y hydref, 2025).
  • Bydd cael gwared ar sgaffaldiau ar y bont yn gofyn am gau'r ffordd yn llawn gyda’r nos (i'w ddisgwyl yn y gaeaf, 2025/26).

Bydd y Cyngor yn cyfathrebu'r holl drefniadau yn ymwneud â'r holl waith allweddol yma, gan gynnwys y mesurau rheoli traffig angenrheidiol, unwaith y byddan nhw wedi'u cwblhau.

Meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf : "Bydd y cynllun gwaith mawr yma i Bont Afon Cynon yr A4059 yn cynnwys atgyweirio a diogelu'r strwythur ar gyfer y dyfodol. Mae’r ffordd rhwng cylchfannau Asda a Chwm-bach yn mynd ar hyd y bont ar y prif lwybr drwy Gwm Cynon. Dim ond nifer fach o weithgareddau fydd yn gofyn am fesurau rheoli traffig – a bydd pob un o'r rhain yn cael eu trefnu gyda’r nos i leihau aflonyddwch yn sylweddol. Er bod disgwyl i'r cynllun cyffredinol bara tan y gaeaf (2025/26), mae posibilrwydd y bydd angen ailddechrau elfennau o'r gwaith yn yr haf y flwyddyn nesaf, yn dibynnu ar gyfyngiadau mynediad CNC.

“Mae ein Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd yn parhau i ariannu rhaglen waith fawr i atgyweirio a chynnal a chadw strwythurau mawr sy'n ategu ein rhwydwaith priffyrdd, gan neilltuo £9.95 miliwn yn 2025/26. Fel ar Bont yr Afon Cynon, maen nhw'n aml yn canolbwyntio ar seilwaith mawr ac mae rhaid iddyn nhw ymdopi â ffactorau allweddol eraill sy'n cynyddu cymhlethdod y gwaith – gan gynnwys yr angen i gynnal llif traffig ar lwybrau prysur, presenoldeb afonydd gerllaw, a chyfyngiadau mynediad.

"Diolch i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad dros y misoedd i ddod, wrth i ni gyflawni'r cynllun yma. Bydd y gwaith cychwynnol yn dechrau o 28 Ebrill, gan gynnwys tyllau prawf sy'n gofyn am oleuadau traffig dros dro gyda’r nos, a chau hawl tramwy cyhoeddus o dan y bont o 7 Mai . Wrth i'r cynllun symud ymlaen i'w brif gam o fis Mai, bydd y Cyngor yn cyfathrebu'r holl waith sy'n gofyn am fesurau rheoli traffig, tra'n gweithio'n agos gyda'i gontractwr i leihau aflonyddwch.”

Wedi ei bostio ar 25/04/2025