Skip to main content

Llwybrau cerdded mwy diogel i wella diogelwch ffyrdd wedi'u cwblhau yn Hirwaun

Hirwaun SRIC - Copy

Mae gwaith creu amgylchedd mwy diogel i gerddwyr yn Hirwaun bellach wedi'i gwblhau, gan gynnwys croesfannau newydd a gwell sydd bellach ar gael mewn tri lleoliad yn y pentref. Dyma ddiwedd gwaith buddsoddiad Llwybrau Diogel mewn Cymunedau pwysig dros gyfnod o ddwy flynedd.

Y llynedd (2023/24), defnyddiodd y Cyngor gam cyntaf y cyllid a ddyfarnwyd trwy grant Llywodraeth Cymru er mwyn cyflwyno ystod o fesurau lleihau cyflymder, cyfleusterau gwell a llwybrau troed newydd. Cafodd astudiaeth ddichonoldeb ei chynnal hefyd i groesfannau newydd i gerddwyr wedi'u rheoli, er mwyn gwella diogelwch mewn lleoliadau allweddol. Cafodd y rhain eu cyflawni yn ystod 2024/25 – gyda chyllid Llwybrau Diogel pellach gwerth £379,350 wedi'i ddyrannu ym mis Mai 2024 ar gyfer parhau â'r cynllun.

Cafodd y prosiect cyffredinol ei gwblhau'n ddiweddar gan Garfan Gofal y Strydoedd RhCT a'r is-gontractwr, Calibre Contracting Ltd, erbyn diwedd mis Mawrth 2025. Roedd y gwaith yn cynnwys:

  • Gwella'r groesfan bresennol i gerddwyr wrth gyffordd Heol Aberhonddu a Stryd Harris.
  • Estyniad i'r cyfyngiadau ‘dim aros ar unrhyw adeg’ ar Stryd Harris, drwy gyflwyno llinellau melyn dwbl, er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd wrth ddynesu at y groesfan newydd i gerddwyr.
  • Gweithredu dwy groesfan sebra newydd yn y ddau brif leoliad gwaith arall yn y cynllun, ar y Stryd Fawr a Ffordd y Rhigos.

Cafodd gwaith seilwaith ei gwblhau ar y Stryd Fawr/Rhes Davies rhwng mis Tachwedd a Nadolig 2024, ar Ffordd y Rhigos/Heol Aberhonddu rhwng mis Ionawr a chanol mis Chwefror 2025, ac ar Stryd Harris/Heol Aberhonddu yn ddiweddar – yn dilyn gwaith gan Wales and West Utilities yn y lleoliad yma.

Gosodwyd wyneb newydd ar y tair croesfan yn ystod yr wythnos o ddydd Llun 17 Mawrth, gyda'r golau croesi'n cael eu rhoi ar waith ar 25 Mawrth. Dyma'r tro cyntaf i'r tair croesfan gael eu defnyddio. Mae'r holl fesurau rheoli traffig bellach wedi'u symud gan y contractwr, sy'n arwydd o ddiwedd y cynllun.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Rwy'n falch bod y cyfleusterau newydd a gwell yma i gerddwyr wedi'u cyflawni yn Hirwaun, gan ddefnyddio cyllid gwerth tua £730,000 o raglen Llwybrau Diogel mewn Cymunedau dros ddwy flynedd. Mae'r gwaith ar y priffyrdd wedi ategu'r buddsoddiad mawr mewn adeilad ysgol newydd sbon ar gyfer Hirwaun dros y blynyddoedd diwethaf, a bydd yn creu amgylcheddau mwy diogel ar gyfer cerdded i'r ysgol ac oddi yno bob bore a phrynhawn.

“Bydd annog teuluoedd i gerdded bob dydd yn gwella iechyd a lles pobl, wrth hefyd gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, trwy leihau allyriadau, cwtogi amser teithiau a gwella tagfeydd ar y ffordd. Mae'r gwaith yn Hirwaun hefyd wedi targedu lleoliadau allweddol i hyrwyddo diogelwch y ffordd.

“Rydyn ni'n parhau i groesawu cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau allweddol fel y rhain. Yn 2024, cafodd y Cyngor gymorth i gyflawni cynlluniau Llwybrau Diogel yn y Ddraenen-wen a Phentre'r Eglwys – a oedd wedi'u cysylltu â buddsoddiadau lleol mewn cyfleusterau ysgol gwell. Rydyn ni hefyd wedi cyflwyno cais am gyllid pellach yn 2025/26, er mwyn cyd-fynd â'n Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd a Thrafnidiaeth sydd wedi'i chymeradwyo'n ddiweddar.

“Hoffwn i ddiolch i drigolion Hirwaun am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith dros y misoedd diwethaf. Mae'r tair croesfan newydd neu well bellach wedi'u gosod ac yn barod i'w defnyddio. Dylai defnyddwyr y ffyrdd a cherddwyr fod yn ofalus wrth ymgyfarwyddo â'r trefniadau lleol newydd.”

Wedi ei bostio ar 04/04/2025