Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth dros £8.5 miliwn ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth allweddol yn rhan o nifer o raglenni grant Llywodraeth Cymru yn 2025/26. Mae hyn yn cynnwys cyllid pwysig ar gyfer teithio llesol, ffyrdd cydnerth, diogelwch ar y ffyrdd, gwella cyfleusterau i gerddwyr ger ysgolion a ffyrdd heb eu mabwysiadu.
Mae dyraniadau penodol allweddol yn cynnwys cyflawni Cam 5 Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach, datblygu darpariaethau cerdded a beicio newydd rhwng Tonysguboriau a Llanharan, yn ogystal â Threorci a Threherbert, a datblygu cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau newydd ar gyfer Cwm-parc.
Mae modd i gynghorau yng Nghymru gyflwyno cais am raglenni cyllid amrywiol bob blwyddyn, gyda swyddogion yn cyflwyno cynlluniau wedi'u targedu yn Rhondda Cynon Taf i'w hystyried. Bydd unrhyw fuddsoddiad sydd wedi'i sicrhau yn cael ei gyflawni ochr yn ochr â Rhaglen Gyfalaf y Cyngor gwerth £29.647 miliwn ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol yn 2025/26, a gafodd ei chymeradwyo'n ddiweddar gan y Cabinet.
Mae dyraniadau cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf bellach wedi'u cyhoeddi'n ffurfiol, gan gadarnhau bod Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyflwyno ceisiadau llwyddiannus am gyllid gwerth £8.56 miliwn ar draws saith o'i grantiau.
Mae dadansoddiad o'r ceisiadau llwyddiannus yma i'w weld isod:
Cronfa Teithio Llesol (2025/26) - £6.048 miliwn
- Dyraniad Craidd (£1.05 miliwn) - Datblygu dau lwybr teithio llesol newydd, rhwng Tonysguboriau a Llanharan, a Threorci a Threherbert. Mae cynlluniau ychwanegol hefyd wedi cael eu cytuno mewn egwyddor, ac maen nhw'n parhau i gael eu datblygu ar y cam hwnnw.
- Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach, Cam 5 (£4.998 miliwn) - Cyllid llawn ar gyfer cyflawni'r rhan olaf yma o'r prif lwybr rhwng Glynrhedynog a Tylorstown.
Y Gronfa Ffyrdd Cydnerth (2025/26) – £1.5 miliwn
- Cyfanswm y dyraniad (£1.5 miliwn) - Mae'r gronfa yma'n helpu prosiectau trafnidiaeth i addasu i'r newid yn yr hinsawdd, gan gynnwys mynd i'r afael ag aflonyddwch a achosir gan dywydd difrifol ar ffyrdd prysur. Mae swyddogion yn datblygu rhaglen 2025/26 o gynlluniau i'w chyflwyno yn dilyn dyraniad cyllid y flwyddyn yma.
Cronfa Llwybrau Diogel mewn Cymunedau (2025/26) - £287,200
- Cynllun Llwybrau Diogel Cwm-parc (£287,200) - Datblygu a chyflawni'r cynllun newydd yma a fydd yn darparu ystod o fesurau lleihau cyflymder a chyfleusterau gwell i gerddwyr ger Ysgol Gynradd y Parc.
Cronfa Trafnidiaeth Leol (2025/26) – £100,000
- Porth Gogledd Cwm Cynon (£100,000) - Bwrw ymlaen â dyluniad manwl y cynllun trafnidiaeth mawr yma, tuag at ei gwblhau mewn blwyddyn ariannol yn y dyfodol.
Grant Refeniw Diogelwch ar y Ffyrdd (2025/26) – £100,200
- Mega Drive, Kerbcraft, Beiciau Cydbwysedd, Pass Plus, ac ati - Cynnal y cynlluniau poblogaidd yma mewn ysgolion a chymunedau lleol dros y flwyddyn nesaf, trwy Garfan Diogelwch y Ffyrdd benodol y Cyngor.
Menter 20mya Llywodraeth Cymru – £405,104
- Cyllid cyfalaf (£405,104) - Cefnogi'r gwaith adolygu parhaus, gyda chyllid ar gyfer trwyddedau a meddalwedd caffael, ac ymgysylltu ag ymgynghorwyr.
Ffyrdd heb eu Mabwysiadu– £120,000
- Dyraniad craidd (£120,000) - Darparu cyllid ychwanegol yn y maes yma, ar ben dyraniad rhaglen gyfalaf y Cyngor ar gyfer pedwar cynllun newydd yn 2025/26.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Bydd y cyllid allanol pwysig yma gwerth £8.56 miliwn yn ategu Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd y Cyngor gwerth £29.647 miliwn ar gyfer 2025/26, gan ddarparu cyllid allweddol sy'n cyd-fynd â meysydd blaenoriaeth Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn bwysig nodi nad yw hyn yn cynnwys cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer lliniaru llifogydd, a fydd yn cael cymorth ar draws nifer o raglenni cyllid grant pellach.
“Mae teithio llesol yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac i'r Cyngor – er mwyn creu llwybrau cerdded a beicio newydd yn ein cymunedau, wrth wella darpariaeth bresennol. Mae annog pobl i gerdded neu feicio bob dydd yn cynnig nifer o fanteision, o wella iechyd a lles i amddiffyn yr amgylchedd. Rydw i wrth fy modd y bydd y cyllid sydd newydd gael ei sicrhau yn ein galluogi ni i gyflawni'r pumed cam, a'r cam olaf, o Lwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach rhwng Glynrhedynog a Tylorstown, wrth hefyd ddatblygu dau lwybr newydd rhwng Tonysguboriau a Llanharan, a Threorci a Threherbert.
“Rydyn ni wedi sicrhau cyllid Ffyrdd Cydnerth dros nifer o flynyddoedd, sy'n ategu cyllid lliniaru llifogydd ehangach Llywodraeth Cymru i dargedu ardaloedd allweddol o'n rhwydwaith priffyrdd sydd wedi dioddef llifogydd yn y gorffennol. Mae swyddogion wrthi'n llunio rhestr o gynlluniau i'w cyflwyno eleni gan ddefnyddio'r cyllid newydd gwerth £1.5 miliwn.
“Mae Llwybrau Diogel mewn Cymunedau yn fath arall o gyllid rydyn ni wedi manteisio arno dros nifer o flynyddoedd – er mwyn gwella cyfleusterau i gerddwyr a chreu amgylcheddau mwy diogel yn ein cymunedau, gyda chanolbwynt penodol ar y strydoedd ger ysgolion lleol. Rydyn ni wedi cwblhau cynllun yn Hirwaun yn ddiweddar, yn dilyn cynllun arall yn y Ddraenen-wen yn yr haf y llynedd, a gafodd eu hariannu gan Lywodraeth Cymru yn rhan o grant 2024/25. Bydd y cyllid sydd wedi'i sicrhau ar gyfer y flwyddyn i ddod yn ein galluogi ni i ddatblygu a chyflawni cynllun newydd ar gyfer cymuned Cwm-parc.
“Clustnododd Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd newydd y Cyngor gyllid pwysig i barhau â'n menter Ffyrdd heb eu Mabwysiadu gyda phedwar cynllun newydd yn Hirwaun, Trehopcyn, Cwm-bach ac Abercynon. Bydd hyn yn ein galluogi ni i wella ffyrdd preifat nad ydyn nhw wedi cael eu cynnal a'u cadw i safon addas, a'u mabwysiadu nhw er mwyn i'r Cyngor eu cynnal a'u cadw yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £120,000 ychwanegol ar gyfer y maes yma, a fydd yn ein galluogi ni i gyflwyno cynllun pellach yn rhan o raglen 2025/26.
“Yn olaf, mae dyluniad cynllun trafnidiaeth Porth Gogledd Cwm Cynon y dyfodol i’w gyflawni gyda chymorth Cronfa Trafnidiaeth Leol 2025/26, ac mae cyllid allweddol hefyd wedi'i sicrhau i gefnogi gwaith pwysig ein Carfan Diogelwch y Ffyrdd yn y gymuned dros y flwyddyn nesaf, a gwaith adolygu parhaus menter 20mya.”
Wedi ei bostio ar 15/04/2025