Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gwneud defnyddio cerbydau trydan yn haws. Yn rhan o'i nod i ddod yn Awdurdod Lleol Carbon Niwtral erbyn 2030, mae'r Cyngor wedi gosod mannau gwefru chwim newydd ar gyfer cerbydau trydan yn nhri o'i feysydd parcio canol y dref, a hynny'n rhan o'r rownd ddiweddaraf o fuddsoddi yn y maes yma.
Mae'r Cyngor wedi cefnogi'r gwaith o osod 76 o fannau gwefru cerbydau trydan mewn 65 lleoliad yn y gymuned ers i'r rhai cyntaf gael eu gosod fis Mai 2022 – gan weithio'n agos gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Rhagor o wybodaeth am fuddsoddiad y Cyngor mewn mannau gwefru cerbydau trydan ledled Rhondda Cynon Taf, yma.
Nawr, ar ben hynny, mae modd i chi ddefnyddio'r mannau gwefru chwim 50kW DC ym Maes Parcio Llyfrgell Aberdâr, Maes Parcio Isaf Tonypandy, a Maes Parcio Iard Nwyddau Pontypridd. Yn sgil hyn, gall gyrwyr wefru'n sylweddol mewn oddeutu awr — sy'n berffaith wrth gael tamaid i'w fwyta, siopa neu gwrdd â ffrind yn y dref.
Mae'r Cyngor yn agosáu at ei nod o ofalu bod 90% o'i drigolion o fewn milltir i fan gwefru erbyn diwedd y degawd.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar Faterion yr Hinsawdd:
“Rydyn ni wedi gwneud gwaith llwyddiannus, a hynny gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru a'n partneriaid. Mae'r mannau gwefru chwim newydd yma'n gam mawr arall tuag at wneud defnyddio cerbydau trydan bob dydd yn fwy ymarferol a chyfleus ar gyfer pawb yn ein cymunedau.
“Mae modd i yrwyr cerbydau trydan nawr ymweld â chanol trefi Aberdâr, Pontypridd a Thonypandy i fynd i siopa neu gael pryd o fwyd wrth i'w ceir neu faniau trydan wefru'n chwim.”
Mae'r seilwaith gwefru cerbydau trydan ledled Rhondda Cynon Taf yn ehangu o hyd, gyda mannau gwefru yn cael eu gosod drwy gydol y flwyddyn. Er mwyn dod o hyd i'ch man gwefru agosaf a chael y newyddion diweddaraf, ewch i dudalen Gwefru Cerbydau Trydan y Cyngor. Beth am fwrw golwg hefyd ar y Zap-Map i gael gwybod pa leoliadau sydd ar gael, yn fyw, ledled y rhwydwaith?
Wedi ei bostio ar 15/08/2025