Mae disgyblion ledled Rhondda Cynon Taf wedi derbyn eu canlyniadau Uwch Gyfrannol, Safon Uwch, Tystysgrif Her Sgiliau Uwch a chymwysterau galwedigaethol lefel 3 heddiw (dydd Iau 14 Awst). Mae llawer ohonyn nhw wedi cael lle mewn prifysgol i barhau â'u hastudiaethau addysgol.
Ymhlith y bobl a oedd yn llongyfarch y disgyblion llwyddiannus a staff ysgolion roedd y Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg, a Gaynor Davies, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant y Cyngor.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cynhwysiant a'r Gymraeg: "Ar ran y Cyngor, hoffwn i longyfarch y disgyblion i gyd wrth iddyn nhw ddathlu diwedd eu holl waith caled, a staff yr ysgolion sydd wedi gweithio'n ddiflino i gyflawni canlyniada Heddiw.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld yr hyn y bydd y bobl ifainc yma’n ei gyflawni yn eu camau nesaf, boed hynny yn y brifysgol neu ym myd gwaith."
Meddai Gaynor Davies, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Rydyn ni'n hynod o falch o'n disgyblion a'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni heddiw. Mae eu llwyddiannau'n dyst i’w gwaith caled a'u gwydnwch nhw, ond hefyd i gefnogaeth yr athrawon, staff yr ysgol a theuluoedd.
Os na wnaethoch chi gyflawni'r hyn roeddech chi wedi gobeithio amdano, nes os ydych chi'n ansicr ynghylch eich camau nesaf, gofalwch eich bod chi'n gofyn am gyngor ac arweiniad gan aelod o staff yr ysgol fel bod modd i chi sicrhau'r llwybr o’ch dewis chi ar gyfer y dyfodol."
Mae'r Cyngor yn cydnabod holl gyraeddiadau cadarnhaol ysgolion Rhondda Cynon Taf a'u disgyblion, gyda llawer yn cael eu derbyn i'r brifysgol, i golegau addysBellachch, i brentisiaethau ac i swyddi. Dyma ddechrau pennod newydd cyffrous yn eu bywydau.
Mae cymorth a chyngor parhaus ar gael i ddisgyblion sy’n ansicr ynghylch eu camau nesaf – a hynny gan staff yr ysgolion a Gyrfa Cymru.
Mae modd dod o hyd i gymorth pellach yma: Cefnogaeth i Fyfyrwyr CBAC
Wedi ei bostio ar 14/08/2025