Dyma roi gwybod i drigolion a defnyddwyr y ffordd y bydd goleuadau traffig ar yr A4119 yn ardal Tonypandy yn cael eu disodli a'u huwchraddio yn fuan.
Bydd y gwaith gwella yn digwydd lle mae'r A4119 yn cwrdd â Pharc Gellifaelog (yn y llun) a Heol Gelli gerllaw – sy'n gweithredu fel un gyffordd groesgam.
Bydd y gwaith i ddisodli’r ddwy set o oleuadau traffig yn dechrau ddydd Gwener, 22 Awst, a bydd yn para tua wythnos – gan fanteisio ar wyliau haf yr ysgol a tharfu cyn lleied â phosibl ar y gymuned.
Bydd y cynllun yn gosod goleuadau traffig LED newydd sy'n fwy effeithlon o ran ynni, yn ogystal ag offer monitro newydd ac wedi'i uwchraddio.
Bydd goleuadau traffig pedair ffordd dros dro yn cael eu defnyddio i efelychu'r goleuadau traffig parhaol, tra byddan nhw'n cael eu disodli. Felly, does dim disgwyl y bydd y gwaith yn tarfu’n sylweddol ar ddefnyddwyr y ffordd.
Mae'r Cyngor wedi penodi Centregreat Ltd i gynnal y gwaith ar y safle, sy'n cael ei ariannu gan y Rhaglen Gyfalaf barhaus ar gyfer y Priffyrdd a Thrafnidiaeth.
Diolch ymlaen llaw i'r gymuned am eich cydweithrediad tra bod y gwaith hanfodol yma'n cael ei gwblhau.
Wedi ei bostio ar 18/08/2025