Skip to main content

Cau'r Bont Wen cyn bo hir er mwyn cynnal gwaith hanfodol a gwaith archwilio

White Bridge completed - Copy

Dyma roi gwybod i drigolion y bydd Pont Heol Berw (y Bont Wen) ym Mhontypridd ar gau dros dro rhwng 18 a 22 Awst, ac yna rhwng 26 a 29 Awst yn dilyn penwythnos Gŵyl y Banc. Bydd hyn yn galluogi contractwr y cynllun adfer mawr diweddar i gynnal gwaith cywiro, ac yna cynnal archwiliad arferol o'r strwythur.

Cafodd y strwythur rhestredig ei ddifrodi gan Storm Dennis, ac mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos iawn gyda Cadw i ddatblygu a chyflawni cynllun adfer cymhleth. Cafodd rhan helaeth y gwaith yma'i gwblhau ym mis Gorffennaf 2024. Roedd yn cynnwys cannoedd o atgyweiriadau gwaith dur a choncrit strwythurol unigol, gosod wyneb sy’n dal dŵr ar ddec y bont, a gosod system draenio'r briffordd newydd.

Mae'r Cyngor bellach wedi cyhoeddi bod angen cau'r bont dros dro ddwywaith, i gerbydau a cherddwyr, a hynny er mwyn cynnal gwaith pwysig ar y safle.

Bydd y bont yn cau am y tro cyntaf rhwng dydd Llun 18 Awst a dydd Gwener 22 Awst, er mwyn rhoi cyfle i’r contractwr sydd wedi’i benodi gan y Cyngor i gyflawni’r cynllun adfer gynnal gwaith cywiro ar y cyrbiau a wyneb y bont ar ochr Heol Berw. Bydd angen cau lôn ar Heol Berw hefyd a bydd goleuadau traffig dros dro yn cael eu gosod ar gyfer y cyfnod yma (18 i 22 Awst). Fydd dim cost ychwanegol i'r Cyngor ar gyfer y gwaith yma.

Bydd y bont ar gau eto ar ôl penwythnos Gŵyl y Banc, rhwng dydd Mawrth 26 Awst a dydd Gwener 29 Awst. Bydd hyn er mwyn cynnal archwiliad llawn o'r bont yn rhan o'r gwaith cynnal a'i chadw arferol.

Sylwch, gallai'r dyddiadau sydd wedi'u nodi ar gyfer y ddau gyfnod cau newid.

Bydd y llwybr amgen ar gyfer defnyddwyr y ffordd (o ochr ddeheuol y ffordd sydd ar gau) yn mynd ar hyd Y Rhodfa, Stryd y Gorllewin, cylchfan Stryd y Bont, Stryd y Bont a Heol Berw, a hynny ar y ddau achlysur. Os ydych chi’n teithio i’r cyfeiriad arall, ewch ar hyd Heol Berw, Stryd y Bont, Heol y Gorllewin, Stryd Ganol, Heol Tresimwn a'r Rhodfa. Mae'r llwybrau yma wedi'u nodi ar y map canlynol.

Fydd dim mynediad dros y bont i'r gwasanaethau brys a cherddwyr pan fydd ar gau. Diolch i ddefnyddwyr y ffordd a'r gymuned leol am eich cydweithrediad wrth i ni gwblhau'r gwaith hanfodol yma.

Wedi ei bostio ar 13/08/2025