Dyma atgoffa cariadon ledled Rhondda Cynon Taf bod modd i chi fwrw golwg ar sgôr hylendid bwyd unrhyw fwyty yn RhCT cyn cadw lle ar gyfer Dydd Gŵyl Sain Folant.
Mae DROS 150 o fusnesau bwyd yn RhCT wedi derbyn sgôr hylendid bwyd PUM SEREN ers mis Hydref 2024, mae gormod o ddewis i drigolion RhCT!
Mae 'Scores On The Doors' neu i ddefnyddio'i enw swyddogol - y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn helpu trigolion i ddewis ble i fwyta neu ble i brynu bwyd drwy roi gwybodaeth glir iddyn nhw am safonau hylendid y busnesau. Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnal y cynllun mewn partneriaeth â phob awdurdod lleol yng Nghymru.
Drwy’r Cynllun, mae busnes yn cael sgôr rhwng 5 a 0 sy’n cael ei harddangos yn ei eiddo ac ar-lein er mwyn i chi allu gwneud dewisiadau mwy gwybodus o ran ble i brynu a bwyta bwyd.
5 *****
|
da iawn
|
4 ****
|
da
|
3 ***
|
boddhaol ar y cyfan
|
2 **
|
angen gwella
|
1 *
|
angen gwella yn sylweddol
|
0
|
angen gwella ar frys
|
Dros gyfnod o dri mis, derbyniodd cyfanswm o 157 o fusnesau y sgôr uchaf o BUM seren - gan gynnwys lleoliadau preifat fel ysgolion a meithrinfeydd.
Cafodd 87 lle bwyd cyhoeddus sgôr o BUM seren yn yr un cyfnod:
- Harish Stores
|
- Nisa Lleol
|
- Micro Acres Wales
|
- Legion House
|
- Greggs
|
- Clwb Cymdeithasol a Lles Glowyr Cwmdâr
|
- Gatto Lounge
|
- YT's Plaice
|
- Spar
|
- Carini's Restaurant
|
- Cafe Penuel
|
- Fagins Ale & Chop House
|
- Penny Farthings
|
- Mervin Store
|
- Iceland Frozen Foods Plc
|
- Vape Zone
|
- Cafe 50
|
- Bwyty McDonalds
|
- Asda Stores Ltd
|
- Clwb a Sefydliad Cwm Cynon
|
- One Stop Stores Ltd
|
- Aldi Stores Ltd
|
- Manjeera Indian Street Food
|
- Mark's Mobile Butcher
|
- Yummy Yummy
|
- Bwyty 'The Windmill'
|
- Gareth Rees Newsagents
|
- Cotswold Health Products
|
- Pick & Shovel
|
- Villa Value
|
|
31. Llewellyn Valley Caterers
|
32. The Square Pizza Co
|
33. Penygraig Family Butchers
|
34. Coed Cafe
|
35. Clwb Pontypridd a'r Cylch
|
36. Penrhiw-ceiber Convenience Store
|
37. Clwb a Sefydliad Gweithwyr Trallwn
|
38. Jacs
|
39. Swyddfa Bost Tretomas a Siop Sidhu
|
40. Asda Living
|
41. Badmans Cafe
|
42. Siop Goffi Bradley's
|
43. Club Ice
|
44. Llysh Bocs
|
45. Taco Bell
|
46. Pizza Chic
|
47. Smoked Up Ltd
|
48. Caffi Cwtsh
|
49. Cafe Bella
|
50. Shan's Cafe
|
51. Ivey Patisserie Ltd
|
52. Morgan's Fish Bar
|
53. Pentre Comrades Club Ltd
|
54. Yr Ieuan Ap Iago
|
55. Spar
|
56. Greggs
|
57. The Bertie
|
58. Co-operative Group Ltd
|
59. Co-operative Group Ltd
|
|
60. The Hyde Out
|
61. Clwb Rygbi Treherbert
|
62. Gwesty Greenfield
|
63. Josie’s Artisan Patisserie and Deli
|
64. The Role Up Play Village
|
65. Splash
|
66. Dylan's Savory and Sweets
|
67. KFC
|
68. The Pipeworks Bar
|
69. Peking City
|
70. Sweet Treats
|
71. Butchery Bocs
|
72. Authentic Curries & World Foods
|
73. Only Crumbs
|
74. Lunar Coffi & Co
|
75. Penaluna's Famous Fish and Chips
|
76. Penaluna's Road Chip
|
77. Aldi Foods Ltd
|
78. Billa's
|
79. Par 70
|
80. Clwb Chwaraeon Cymunedol Cwm Welfare
|
81. Pepe's Piri Piri
|
82. Happy Wok
|
83. Excellent Fortune Chinese Takeaway
|
84. Talbot Arms
|
85. Clwb Masonaidd Aberdâr
|
86. Evergreen Valley
|
87. Fosters Family Stores
|
|
Derbyniodd pob un o'r busnesau bwyd yma'r sgôr uchaf - PUMP, sy'n golygu bod eu safonau hylendid yn dda iawn ac yn cydymffurfio'n llawn â’r gyfraith. I gael y sgôr uchaf, mae'n rhaid i fusnesau wneud yn dda yn y tair elfen ganlynol -
- Da iawn gyda pha mor hylan y mae’r bwyd yn cael ei drin – sut mae’n cael ei baratoi, ei goginio, ei ailgynhesu, ei oeri a’i storio
- Mae’r busnes mewn cyflwr da iawn– gan gynnwys glendid, cynllun, goleuo, awyru, rheoli plâu, a chyfleusterau eraill
- Mae’r busnes yn dda iawn wrth reoli diogelwch bwyd, gan ystyried y prosesau, yr hyfforddiant a’r systemau sydd ar waith i sicrhau y caiff hylendid da ei gynnal.
Mae sgoriau'n gipolwg ar y safonau hylendid bwyd a ganfuwyd adeg yr arolygiad. Mae'n gyfrifoldeb ar y busnes i gydymffurfio â’r gyfraith o ran hylendid bwyd ar bob adeg.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris – Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau;
"Mae pawb yn Rhondda Cynon Taf yn haeddu mwynhau eu bwyd, yn gwbl hyderus ei fod wedi'i baratoi mewn modd hylan - mae arddangos sgoriau hylendid bwyd yn orfodol yn helpu pawb i wneud hynny.
"Nid yn unig y mae'n fuddiol i gwsmeriaid, ond i fusnesau hefyd. Felly, rwy'n falch iawn i weld bod dros 150 o fusnesau bwyd yn RhCT wedi derbyn sgôr 5 seren yn ystod arolygiadau diweddar. Rydyn ni'n ffodus bod gyda ni fusnesau bwyd a bwytai hyfryd ac unigryw yn ein Bwrdeistref Sirol ac mae llawer yn rhagor sydd â sgôr 5 seren a heb gael eu nodi yma - dyma’r rhai o'r tri mis diwethaf yn unig! Mae modd i chi weld sgôr pob lleoliad ar-lein ar https://ratings.food.gov.uk/cy.”
Dydy'r cynllun sgorio hylendid bwyd ddim yn darparu gwybodaeth am y ffactorau canlynol:
- ansawdd y bwyd, gwasanaeth i gwsmeriaid, sgiliau coginio, sut mae’r bwyd yn cael ei gyflwyno, cysur, materion cydymffurfio â safonau bwyd a chyfraith alergenau.
I weld rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r arolygiadau diogelwch bwyd yn Rhondda Cynon Taf, ewch i - https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Business/LicencesandPermits/Foodbusinesslicenceandregulations/Foodsafetyinspection.aspx
Er mwyn chwilio am sgôr busnes bwyd lleol ewch i - https://ratings.food.gov.uk/cy
Wedi ei bostio ar 14/02/2025