Skip to main content

Sefydlu Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan y bydd parth atal ffliw adar (AIPZ) yn dod i rym o 00:01 ddydd Iau 30 Ionawr a bydd yn parhau yn ei le nes bod gostyngiad mewn lefelau risg yn nodi nad oes ei angen mwyach.

Mae'r parth hwn yn cyflwyno mesurau bioddiogelwch llym i bob ceidwad adar - gan gynnwys y rhai sy'n cadw adar anwes - i helpu i atal ffliw adar rhag lledaenu o adar gwyllt neu unrhyw ffynhonnell arall.

Nid yw'r AIPZ yn cynnwys gofyniad i gadw adar dan do. Fodd bynnag, mae hyn yn cael ei adolygu'n gyson.

Mwy o fanylion yma:

Datganiad Ysgrifenedig: Parth Atal Ffliw Adar Cymru Gyfan (29 Ionawr 2025)

Ffliw adar: cyfyngiadau cyfredol

Rhaid i geidwad hefyd barhau i gadw llygad am arwyddion o'r clefyd. Mae Ffliw Adar yn glefyd hysbysadwy, a dylai pobl roi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) drwy ffonio 0300 303 8268 ar unwaith os oes ganddynt unrhyw amheuon.

Bydd gwybodaeth am ofynion y Parth Atal Ffliw Adar, canllawiau a'r datblygiadau diweddaraf ar wefan Llywodraeth Cymru.

Wedi ei bostio ar 06/02/2025