Skip to main content

Rhagolygon Disglair o ran Dyfodol Carbon Isel wrth i Fferm Solar Coed-elái dorri tir

Untitled design (20)

Aeth y Cynghorydd Tina Leyshon a'r Cynghorydd Mark Norris o Gyngor Rhondda Cynon Taf i gwrdd â chynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Vital Energi ddydd Mawrth, 11 Chwefror i ddathlu dechrau ar waith Fferm Solar newydd Coed-elái.

Bydd y prosiect yn cynnwys gosod 9,408 o baneli solar ffotofoltäig (PV) fydd yn darparu arbedion carbon gydol oes o tua 7,355 o dunelli. Bydd y fferm solar yn cynhyrchu digon o drydan glân i bweru oddeutu 8,000 o gartrefi yn yr ardal leol.

Bydd cytundeb prynu pŵer arloesol yn arwain at Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn derbyn trydan o'r fferm solar, gan sicrhau effaith gadarnhaol sylweddol ar ei ôl troed carbon.

Mae'r prosiect, sy'n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Vital Energi, yn hanfodol o ran targedau sero net y Cyngor erbyn 2030, a bydd yn helpu Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar ei daith o ddatgarboneiddio trwy gyflenwi 1MW o drydan carbon isel ar hyd rhwydwaith gwifrau preifat.

Meddai'r Cynghorydd Tina Leyshon, Aelod o'r Cabinet ar faterion y Gwasanaethau Corfforaethol, Cyfranogiad Ieuenctid a Newid yn yr Hinsawdd:  "Mae'n wych gweld cynnydd y prosiect yma wrth i ni ddechrau ar y daith o adeiladu Fferm Solar Coed-elái. Mae'r prosiect uchelgeisiol yma'n rhoi cyfle unigryw i gynhyrchu ynni gwyrdd ar raddfa sylweddol, a chyflenwi ynni'n uniongyrchol i'r Grid Cenedlaethol gan fod yn gymorth o ran diogelu ynni ein cymuned a'r DU."

“Trwy gyflenwi trydan carbon isel i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, rydyn ni'n helpu i leihau ei ôl troed carbon, gan wneud y prosiect hyd yn oed yn fwy buddiol a chyflenwi ein GIG lleol yn uniongyrchol."

“Yn ogystal â hynny, gan nad yw'r domen lo wedi'i hadfer, sydd ar y safle, yn addas ar gyfer amaethyddiaeth, mae'r prosiect yma'n dangos sut y gall tir gael ei ailbwrpasu ar gyfer ynni glân wrth fod yn gymorth i fioamrywiaeth ar yr un pryd. Bydd hawliau pori anifeiliaid yn parhau, gan ddangos bod prosiectau ynni solar yn gallu bodoli ochr yn ochr â ffermio i wella bioamrywiaeth.”

Meddai Mark Williams, Cyfarwyddwr Partneriaethau Vital Energi: "Wrth i ni drosglwyddo o fod yn gymdeithas tanwydd ffosil i un carbon-isel, gall safleoedd, fel yr hen domen lo yma, gael eu hailbwrpasu, gan barhau i gyfrannu at isadeiledd ynni y DU, ond mewn modd cynaliadwy.  Mae'r prosiect yma hefyd yn gyfle gwych i fuddsoddi'n lleol drwy ymgysylltu ag is-gontractwyr lleol, gan ychwanegu at ein gweithwyr a phrentisiaid yng Nghymru, a phartneru hefyd gydag ystod o achosion lleol fel y gallwn ni, yn ogystal â gwireddu prosiect pwysig, adael gwaddol sy'n parhau, llawn effaith.”

Meddai Linda Prosser, Cyfarwyddwr Gweithredol Strategaeth a Thrawsnewid ac Arweinydd Gweithredol Datgarboneiddio ledled ardal Cwm Taf Morgannwg: "Rydyn ni'n falch iawn y bydd yr ysbyty cyfan yn cael ei bweru gan ynni solar ar ddiwrnodau heulog iawn yn yr haf. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ein hymrwymiadau datgarboneiddio a ‘Chwm Taf Morgannwg Gwyrdd', ac ar sut y gallwn ni gyflenwi gofal iechyd mewn modd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Serch hynny, dyw'r cynllun yma ddim yn ddiwedd ar y stori yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac fe fyddwn ni'n cyflenwi rhagor o gynnyrch adnewyddadwy a thechnolegau carbon isel yn y dyfodol i ddatgarboneiddio pethau hyd yn oed rhagor o ran gofynion ynni'r ysbyty.

"Yn ogystal â hynny, rydyn ni'n falch o fod yn gweithio gyda'n partneriaid yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf, ac rydyn ni o'r farn bod y cynllun yma'n enghraifft wych o gydweithio a gweithio mewn partneriaeth, cadarnhaol, rhwng Bwrdd Iechyd ac Awdurdod Lleol."

Wedi'i gyflenwi mewn partneriaeth â Vital Energi, mae'r prosiect fferm solar yn atgyfnerthu ymrwymiad Rhondda Cynon Taf i greu atebion ynni cynaliadwy.

Yn ogystal â'r fferm solar, bydd Vital Energi yn gosod yr isadeiledd ynni ategol, gan gynnwys isbwerdai, gwrthdröwyr, rhwydwaith gwifrau preifat i’r ysbyty a ffens ddiogelwch 2 fetr o uchder a ThCC er mwyn sicrhau diogelwch y fferm solar.  

Er mwyn gwella'r safle hyd yn oed yn fwy, mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos gyda Vital Energi ar welliannau bioamrywiaeth. Ymhlith y gwelliannau sydd wedi'u cynllunio mae blychau bywyd gwyllt a choridorau cynefin i fod yn gymorth i fywyd gwyllt. Bydd yn fodd o sicrhau bod y fferm ynni solar yn rhoi budd o ran ynni ac ecoleg.

Gyda'r gwaith adeiladu nawr wedi dechrau, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn falch o fod yn arwain y ffordd i ddyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer y gymuned, ac yn ehangach na hynny.

Wedi ei bostio ar 17/02/2025