Skip to main content

Teithio integredig rhwng Caerdydd a Maerdy gydag un tocyn

TfW_Porth Interchange opening -12 - Copy

Gall defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus i Gwm Rhondda Fach ac oddi yno ddefnyddio ‘tocyn cysylltu’ newydd sy'n cynnwys eu taith ar drên rhwng Caerdydd ac ardal Porth, a'u taith ar fws rhwng Porth a Maerdy. Mae'n dilyn agoriad diweddar Cyfnewidfa Fysiau Porth, a'r bwriad yw gwneud teithiau lleol yn fwy cyfleus.

Mae Stagecoach South Wales a Thrafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi ‘Tocyn Cysylltu Cwm Rhondda Fach’ yn ddiweddar, ac mae ar gael i'w brynu ar y bws, y trên neu mewn gorsaf drenau leol. Mae'r tocyn yn galluogi cymudwyr i ddefnyddio unrhyw wasanaeth dilys Stagecoach i deithio rhwng Porth a Chwm Rhondda Fach, a dal trên Trafnidiaeth Cymru ar linell Caerdydd, i'r de o ardal Porth.

Mae'r tocyn newydd ar gael fel tocyn dwyffordd neu docyn wythnos – cafodd y manylion llawn, gan gynnwys prisoedd, eu cynnwys mewn cyhoeddiad diweddar gan Stagecoach.

Agorodd Cyfnewidfa Fysiau Porth ar ddiwedd mis Ionawr 2025, a dechreuodd Stagecoach weithredu gwasanaethau o'r adeilad o 2 Chwefror. Mae'r prosiect gwerth miliynau o bunnoedd yn cynnwys saith cilfach fysiau, swyddfa docynnau newydd, safle tacsis newydd a sgriniau gwybodaeth mewn adeilad modern o'r radd flaenaf.

Cafodd y cyfleuster ei ariannu trwy Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, Cronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: “Un o brif fanteision Cyfnewidfa Fysiau Porth yw dod â gwasanaethau at ei gilydd o dan un to, gan helpu i fynd i'r afael â rhwystrau sy'n atal pobl rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn rhan o'u teithiau pob dydd – megis gorfod prynu mwy nag un tocyn, amseroedd aros rhwng gwasanaethau a cherdded i nifer o safleoedd gwahanol.

“Diolch i Stagecoach a Thrafnidiaeth Cymru, mae ‘Tocyn Cysylltu Cwm Rhondda Fach’ newydd yn galluogi cymudwyr i brynu un tocyn ar gyfer eu taith ar drên i'r de o ardal Porth a'u taith ar fws tua'r gogledd i Gwm Rhondda Fach. Mae modd iddyn nhw ddewis rhwng gwasanaethau trenau a bysiau yn hawdd yn y gyfnewidfa newydd – ac mae Porth mewn lleoliad da ar gyfer hyn.

“Mae'r cyfleuster newydd yn brosiect canolog yn Strategaeth Adfywio Porth y Cyngor, ac mae'n barod i fanteisio ar y trenau mwy aml sydd i'w darparu trwy Fetro De Cymru. Mae symleiddio trefniadau teithio, a'u gwneud nhw'n fwy cyfleus, yn allweddol o ran annog rhagor o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus – ac mae'r tocyn cysylltu newydd yn enghraifft wych o hyn.”

Wedi ei bostio ar 11/02/2025