Skip to main content

Newid allweddol i drefniadau chweched dosbarth yng Nghwm Cynon yn symud i'r cam nesaf

Mae'r Cabinet wedi cytuno i symud i gam nesaf y broses ymgynghori ar y cynnig i symud y chweched dosbarth o Ysgol Gyfun Aberpennar i Ysgol Gymunedol Aberdâr. Bydd yn mynd i'r afael â phryderon a godwyd ynghylch hyfywedd y chweched dosbarth, yr arlwy gyfyngedig o bynciau, y gostyngiad parhaus yn nifer y myfyrwyr, ac effaith hyn oll ar brofiad cyffredinol y myfyrwyr. Hefyd, mae tua 75% o ddisgyblion presennol y chweched dosbarth yn Aberpennar eisoes yn teithio i ysgolion yn Aberdâr ar gyfer rhan o'u hastudiaethau.

Ddydd Mercher, 19 Chwefror, rhoddodd y Cabinet ystyriaeth i adborth yr ymgynghoriad ar gynnig a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2024 – i drosglwyddo addysg chweched dosbarth yn Aberpennar yn y dyfodol i Ysgol Gymunedol Aberdâr. Ysgogwyd hyn gan bryderon gan Gyfadran y Gwasanaeth Addysg a Chynhwysiant a chais gan y corff llywodraethu i'r Cyngor adolygu arlwy presennol y Chweched Dosbarth.

Canfu’r adolygiad dilynol fod niferoedd bach o ddisgyblion yn y chweched dosbarth yn cyfyngu ar ddewisiadau pynciau ar gyfer myfyrwyr yn yr ysgol, a oedd yn effeithio ar hyfywedd ariannol y ddarpariaeth. Oherwydd y niferoedd bach yn y Chweched Dosbarth, mae'r ysgol yn ailgyfeirio adnoddau gwerthfawr sydd i fod ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7-11 i gynnal ei chweched dosbarth bach – sydd angen £125,000 ychwanegol uwchlaw dyraniad ôl-16 yr ysgol.

Mae Ysgol Gyfun Aberpennar yn rhan o Gonsortiwm Ôl-16 Cwm Cynon, ac mae wedi ffurfio partneriaeth gefnogol gydag Ysgol Gymunedol Aberdâr ac Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru. Mae'r bartneriaeth hon yn arwain at fyfyrwyr o Aberpennar yn mynychu nifer o ysgolion i gael eu haddysg ôl-16 oed. Mae tua 75% o fyfyrwyr y chweched dosbarth yn Aberpennar eisoes yn cael o leiaf peth o'u haddysg mewn ysgolion eraill yng Nghwm Cynon.

Ymgynghorodd y Cyngor â thrigolion o 2 Rhagfyr, 2024, hyd at 17 Ionawr, 2025 - o dan drefniadau Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru. Mae adroddiad Cabinet dydd Mercher yn cynnwys adroddiad ymgynghori llawn, crynodeb o'r adborth a ddaeth i law a'r ymatebion iddo. Mae’r rhain yn cynnwys ymholiadau gan y cyhoedd a Chynghorau Ysgol y ddwy ysgol, a’r ymateb gan Estyn.

Cynhaliwyd cyfarfodydd gyda chyrff llywodraethu, cynghorau ysgol, ac aelodau o staff Ysgol Gyfun Aberpennar ac Ysgol Gymunedol Aberdâr, a chynhaliwyd sesiwn galw heibio cyhoeddus hefyd ym mhob ysgol – gyda 15 o bobl yn bresennol. Daeth cyfanswm o 248 o ymatebion i law yn rhan o'r ymgynghoriad ehangach. Mae rhagor o wybodaeth i'w chael yn adroddiad y Cabinet ddydd Mercher.

Yn ogystal, doedd dim effeithiau negyddol wedi'u nodi o ran yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb, nac ar y Gymraeg. Nododd Estyn y bydd y cynnig yn debygol o wella safon y ddarpariaeth ôl-16 yn yr ardal.

Ar ôl ystyried yr holl adborth o'r ymgynghoriad wrth ddod i benderfyniad, cytunodd Aelodau o'r Cabinet i symud y cynnig yn ei flaen ddydd Mercher. Bydd y broses nawr yn symud i gam Hysbysiad Statudol yr ymgynghoriad.

Pe bai'n cael ei weithredu, fyddai dim effaith ar unrhyw fyfyrwyr sydd yn y chweched dosbarth ar hyn o bryd. O fis Medi 2025, fyddai dim myfyrwyr Blwyddyn 12 newydd yn cael eu derbyn i Ysgol Gyfun Aberpennar (bydden nhw’n dechrau yn y chweched dosbarth yn Aberdâr neu’n mynychu’r coleg), a byddai disgyblion Aberpennar sydd ar fin mynd i Flwyddyn 13 yn parhau â’u hastudiaethau yno, neu'n rhan o'r trefniadau partneriaeth ar draws Cwm Cynon.  Pe bai'r cynigion yn mnd yn ei flaen, dyma fyddai'r garfan olaf o fyfyrwyr i gael addysg chweched dosbarth yn Ysgol Aberpennar cyn i'r chweched dosbarth gau.

Yn ogystal â hyn, byddai'r holl fyfyrwyr sy'n byw tair milltir neu ragor o'u hysgol neu goleg yn gymwys i gael cludiant o'r cartref i'r ysgol.  Felly, mae’n debygol y byddai gan bob disgybl ôl-16 sy’n byw yn nalgylch Ysgol Gyfun Aberpennar hawl i gludiant am ddim i Ysgol Gymunedol Aberdâr.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a'r Gymraeg:“Rydyn ni'n bod deall bod unrhyw newid sylweddol i’r trefniadau Addysg presennol yn beth anodd – fodd bynnag, mae’n amlwg bod gan y cynnig hwn ar gyfer Aberpennar sail resymegol gadarn. Mae'r cynnig wedi cael ei gyflwyno oherwydd nifer o bryderon a godwyd gan yr ysgol ei hun, ynghylch hyfywedd y chweched dosbarth, ei faint sy'n crebachu, dewis cyfyngedig o bynciau, a chost gynyddol – gan effeithio ar gyllideb gyffredinol yr ysgol ar draws blynyddoedd 7-11.

“Mae profiad disgyblion yn Aberpennar yn ganolog i’r cynnig – maen nhw’n haeddu cynnig chweched dosbarth eang a chytbwys, gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf sydd ar gael yn Aberdâr. Mae’r newid hefyd yn anelu at fynd i’r afael â’r gostyngiad yn nifer disgyblion Aberpennar sy’n mynychu'r chweched dosbarth, gyda dim ond 16% o ddisgyblion Blwyddyn 11 yn dewis y llwybr hwn yn 2023/24, i lawr o 60% yn 2014/15. Dim ond 72 o fyfyrwyr oedd yno ym mis Hydref 2024, sydd wedi haneru fwy neu lai dros y naw mlynedd diwethaf.

“Mae cysylltiadau agos rhwng ysgolion Aberpennar ac Aberdâr drwy Gonsortiwm Ôl-16 Cwm Cynon – sy’n drefniant sefydledig ar gyfer addysg y chweched dosbarth. Amlygir y berthynas bresennol hon gan fod tua 75% o'r myfyrwyr chweched dosbarth presennol yn Aberpennar eisoes yn cael rhywfaint o'u haddysg mewn ysgol arall yng Nghwm Cynon. Hefyd, mae'n debygol y bydd holl fyfyrwyr dalgylch Aberpennar yn gymwys i gael cludiant am ddim i Aberdâr.

“Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad – o ddisgyblion, staff a chyrff llywodraethu trwy gyfarfodydd mewnol, i drigolion a gafodd cyfle i ddweud eu dweud yn rhan gyhoeddus y broses. Er nad oedd canran fawr o ymatebwyr cyhoeddus yn cytuno â’r cynnig, gwrandawodd y Cabinet hefyd ar sylwadau a wnaed gan yr ysgol, edrych ar hyfywedd y chweched dosbarth yn y dyfodol, ac ystyried sut mae myfyrwyr yn haeddu profiad cyffredinol gwell yn eu haddysg ôl-16.”

Yn unol â'r cynigion, byddai'r Consortiwm ôl-16 yn parhau gydag Ysgol Gymunedol Aberdâr ac Ysgol Uwchradd Ioan Fedyddiwr yr Eglwys yng Nghymru.  Yn yr un modd â'r drefn bresennol, byddai modd i ddisgyblion ôl-16 ddewis mynychu Coleg y Cymoedd.

Wedi ei bostio ar 27/02/2025