Mae landlord wedi cael dirwy o bron i £5000 am weithredu Tŷ Amlfeddiannaeth anghyfreithlon yn ardal Tylorstown.
Mr Laib o Laib Property Investment Ltd, yw perchennog yr eiddo yn Fflatiau Heol y Dwyrain 170-171 Heol y Dwyrain, Tylorstown ac fe'i cafwyd yn euog am yr eildro am weithredu Tŷ Amlfeddiannaeth heb drwydded gan Adran Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Rhondda Cynon Taf.
Mr Laib sydd wedi bod yn ’gyfrifol’ am yr eiddo, sydd wedi’i rannu’n WYTH fflat ers 2021. Ym mis Mawrth 2022, derbyniodd y perchennog hysbysiad swyddogol gan y Cyngor a oedd yn nodi bod angen Trwydded Tai Amlfeddiannaeth, a hynny yn dilyn adroddiad arolwg adeilad. Cadarnhaodd yr adroddiad yma na chafodd yr eiddo ei drosi’n fflatiau yn unol â safonau Rheoliadau Adeiladu 1991. Mae hyn yn golygu y byddai'r Tŷ Amlfeddiannaeth felly'n destun trwydded gan yr Awdurdod Lleol yn unol ag Adran 55 a 56 o Ddeddf Tai 2004.
Gweithiodd Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd y Cyngor gyda Mr Laib dros gyfnod o ddwy flynedd i helpu a chynghori'r landlord er mwyn trefnu trwydded. Yn ystod y cyfnod yma, derbyniodd yr Awdurdod Lleol gopi o hysbysiad cyfreithiol gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru mewn perthynas â rhagofalon tân annigonol yn yr eiddo. Yn dilyn ymchwiliad llawn mewn perthynas â’r eiddo, cysylltodd y Cyngor â phob prydleswr yn Heol y Dwyrain i roi gwybod iddyn nhw am y sefyllfa a'u cynghori i gysylltu â Mr Laib.
Datgelodd archwiliad arall o'r ardaloedd cyffredin a'r holl fflatiau yn yr adeilad ar wahân i fflat 3, nad oedd gan yr ardaloedd cyffredin unrhyw oleuadau, ac mae problemau o ran lleithder a thu uchaf y grisiau. Doedd system intercom yr adeilad ddim yn gweithio ychwaith. Yn dilyn yr ymweliad yma, cafodd Hysbysiad Gwella ei gyflwyno i Laib Property Investment Limited sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Rhydd-ddeiliad ddatrys y materion yma. Doedd yr Hysbysiad Gwella ddim yn mynd i’r afael â’r materion diogelwch tân gan fod y Gwasanaeth Tân yn trafod y mater yma gyda’r rhydd-ddeiliad.
Er gwaethaf ymdrechion parhaus i gynghori Mr Laib, nid oedd gan y Cyngor unrhyw ddewis, penderfynwyd cyfeirio'r mater at Lys Ynadon Merthyr Tudful.
Ar 13 Mawrth 2024 cafwyd Laib Property Investment Limited a Mr Laib, yn ei absenoldeb, yn euog yn Llys Ynadon Merthyr Tudful o weithredu Tŷ Amlfeddiannaeth heb drwydded er bod angen trwydded ar yr eiddo.
Rhoddwyd dirwy i Mr Laib a Laib Property Investment Limited gwerth mwy na £2278. Mae hyn yn cynnwys Dirwy gwerth £660, Gordal i ddioddefwr gwerth £264 a chostau gwerth £215 (£1139) fesul dioddefwr.
Rhoddodd y Cyngor wybod i Laib Property Investment Limited am ganlyniad y Gwrandawiad yn y Llys wedi iddyn nhw fethu â mynychu. Dywedodd y llythyr bod angen trwydded Tŷ Amlfeddiannaeth o hyd ar yr eiddo ac eglurwyd y byddai camau gorfodi pellach yn cael eu hystyried os nad oedd cais am drwydded yn cael ei gyflwyno cyn pen 21 diwrnod.
Ni dderbyniwyd cais am drwydded Tŷ Amlfeddiannaeth a chafodd dim tystiolaeth bellach ei chyflwyno i brofi nad oes angen trwydded ar yr eiddo, cafodd y mater ei gyfeirio unwaith eto at Lys Ynadon Merthyr Tudful lle cafwyd Mr Laib yn euog eto a rhoddwyd dirwy gwerth mwy na £1290. Roedd RHAID talu’r dirwy yma cyn pen 28 diwrnod - sy'n swm sylweddol uwch na chost trwydded Tŷ Amlfeddiannaeth!
Rhoddwyd dirwy gwerth £770 i Laib Property Investment Limited am weithredu heb drwydded, roedd rhaid i’r cwmni dalu costau gwerth £215 a gordal gwerth £308, sy’n cyfateb i gyfanswm o £1293 i'w dalu cyn pen 28 diwrnod.
Cyfanswm y ddirwy ar gyfer ail euogfarn Mr Laib a’r cwmni y mae ef wedi’i benodi’n gyfarwyddwr ar ei gyfer yw £2568.
Roedd cyfanswm y dirwyon ar gyfer y ddwy euogfarn i bawb dan sylw bron â chyrraedd £5000 - cyfanswm o £4864.
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau:
“Mae tai amlfeddiannaeth yn aml yn chwarae rhan ganolog wrth ddiwallu anghenion tai. Maen nhw'n cynnig llety sydd fel arfer yn rhatach nag opsiynau rhentu preifat eraill ac yn opsiwn fforddiadwy y mae grwpiau fel myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol ifanc yn dibynnu arnyn nhw.
“Erbyn hyn dyma air ddeiliadaeth fwyaf y DU ac mae'r niferoedd yn parhau i gynyddu. Mae gan y Cyngor ddyletswydd i sicrhau nad yw landlordiaid yn manteisio ar eu tenantiaid ac yn mynd ati i orfodi materion trwyddedu gorfodol.
"Unwaith eto mae'r garfan Iechyd yr Amgylchedd wedi helpu i ddiogelu hawliau a diogelwch trigolion sy'n rhentu Tŷ Amlfeddiannaeth gyda landlordiaid preifat. Mae gwaith caled y garfan i gynnal safonau yn y Fwrdeistref Sirol wedi arwain at erlyniad llwyddiannus arall mewn perthynas â landlord a fethodd â chydymffurfio, a dylid ei ystyried yn rhybudd cryf i landlordiaid ledled y Fwrdeistref Sirol bod yn rhaid iddyn nhw gydymffurfio â'r rheolau neu wynebu'r canlyniadau.
"Mae dyletswydd ar landlordiaid i reoli eu holl eiddo mewn modd rhagweithiol, gan nodi a datrys problemau wrth iddyn nhw godi fel mater o drefn, anwybyddodd Mr Laib lu o gynigion o gymorth, roedd ef wedi torri’r gyfraith yn ogystal â rhoi ei denantiaid mewn sefyllfa a allai fod yn beryglus.
"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i greu cymunedau diogel a chryf a byddwn ni bob amser yn gweithredu yn erbyn landlordiaid twyllodrus sy'n diystyru'r rheolau."
Am ragor o wybodaeth am Dai Amlfeddiannaeth ewch i https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Business/LandlordGuidance/Housesinmultipleoccupation/Housesinmultipleoccupation.aspx.
Wedi ei bostio ar 14/02/2025