Skip to main content

Achlysur lleol er mwyn arddangos cynlluniau llety gofal newydd yn ardal Glynrhedynog

Ferndale residential artist impression - Copy

Bydd arddangosfa gyhoeddus ac achlysur 'galw heibio' yn cael eu cynnal yn ardal Glynrhedynog ar 5 Mawrth, er mwyn i'r gymuned ddysgu rhagor a chael cyfle i ofyn cwestiynau am y Cartref Gofal Dementia Preswyl modern y mae'r Cyngor wedi ymrwymo i'w ddarparu.

Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal gan ymgynghorydd cynllunio penodedig y prosiect, LRM Planning - gyda swyddogion y Cyngor yn mynychu hefyd er mwyn cynorthwyo. Bydd yn cael ei gynnal yn Ysgol Gymuned Glynrhedynog ddydd Mercher, 5 Mawrth rhwng 3.30pm a 7pm. Mae croeso i bawb fynychu ar unrhyw adeg yn ystod yr achlysur.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu'r cartref â 32 o welyau, a fydd yn gyfleuster o'r radd flaenaf ar gyfer gofal dementia arbenigol yn lle cartref gofal Ferndale House ar Heol yr Orsaf.

Bydd y cartref gofal newydd sbon yma yn manteisio ar ddyluniad pwrpasol a chyfleusterau modern megis ystafelloedd synhwyraidd - yn ogystal â gweithlu sefydledig ac ymroddgar o'r lleoliad presennol, a fydd yn trosglwyddo i'r safle newydd gyda'r preswylwyr wedi i'r datblygiad gael ei gwblhau. Bydd y llety newydd yn cael ei adeiladu ar safle hen Ffatri 'Chubb' yn ardal Glynrhedynog, ger yr ysgol gynradd newydd. Mae gwaith ac arolygon tir cychwynnol yn mynd rhagddyn nhw ar hyn o bryd.

Mae'r arddangosfa gyhoeddus ac achlysur 'galw heibio' arfaethedig yn rhan o'r broses gynllunio a bydd yn cynnig cyfle cyntaf i drigolion ddysgu rhagor am y cynllun, bwrw golwg ar ddyluniadau cychwynnol y cynllun, a gofyn unrhyw gwestiynau. Bydd LRM Planning yn anfon llythyr at drigolion lleol yn fuan, gyda gwahoddiad iddyn nhw fynychu'r achlysur.

Yn dilyn yr achlysur, bydd cyfle ffurfiol i drigolion leisio eu barn mewn Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio yn y gwanwyn, 2025, er mwyn helpu i lywio'r cynlluniau. Bydd hyn yn llywio cais cynllunio terfynol sydd am gael ei gyflwyno yn ystod haf 2025.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol:  "Yr arddangosfa gyhoeddus arfaethedig yw'r cyfle cyntaf i gymuned Glynrhedynog fwrw golwg ar gynlluniau cychwynnol ei llety gofal modern, sy'n canolbwyntio ar ofal dementia. Mae'r Cyngor wedi’i gwneud hi’n glir ei fod wedi ymrwymo yn llwyr i ddarparu'r prosiect yma yn ardal Glynrhedynog, a fydd yn cynnwys adeiladu amgylchedd gofal o'r radd flaenaf yn rhan o ddatblygiad gwerth miliynau o bunnoedd.

"Mae gyda ni hanes gwych o ddarparu llety gofal modern, gan gynnwys datblygiad cynlluniau tai â gofal ychwanegol o'r radd flaenaf sydd wedi cael eu hadeiladu yn ardaloedd Graig ac Aberaman, gan sefydlu eu hunain yn safleoedd poblogaidd yn y gymuned. Rydyn ni'n adeiladu trydydd cynllun Gofal Ychwanegol yn ardal Porth, a llety gofal arbenigol yn ardal Gelli. Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i lety gofal ychwanegol a gofal dementia yn Aberpennar, a llety ar gyfer oedolion ag anabledd dysgu ym Mhentre'r Eglwys. 

"Byddwn i'n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am brosiect Glynrhedynog i fynychu'r arddangosfa ar 5 Mawrth. Does dim angen i chi gadw lle ymlaen llaw, ac mae modd i chi ymweld unrhyw bryd rhwng 3.30pm a 7pm. Rwy'n edrych ymlaen at ymweld fy hun, er mwyn dysgu rhagor am y buddsoddiad cyffrous yma."

Wedi ei bostio ar 18/02/2025