Mae Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a Chynllun Gweithredu diwygiedig y Cyngor wedi'u cyhoeddi, yn dilyn cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru. Er bod rheoli perygl llifogydd y brif afon yn gyfrifoldeb ar Gyfoeth Naturiol Cymru, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gyfrifol am reoli perygl llifogydd sy'n cael ei achosi gan ddŵr wyneb, cyrsiau dŵr cyffredin a dŵr daear. Dŵr Cymru sy'n gyfrifol am reoli llifogydd o garthffosydd.
Mae'r Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu'n nodi dull cyffredinol y Cyngor i reoli perygl llifogydd lleol. Mae'n cyflwyno'i amcanion, mesurau a chamau gweithredu i reoli perygl llifogydd o ffynhonellau lleol yn ein cymunedau.
Mae modd i drigolion weld strategaeth diwygiedig y chwe mlynedd nesaf ar wefan y Cyngor wedi iddi gael ei chyhoeddi ar Chwefror 19, 2025. Mae modd ei gweld ar dudalen we cyfredol y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol. Llynedd, cafodd y strategaeth ei chymeradwyo gan aelodau o Gabinet y Cyngor. Ers derbyn cymeradwyaeth, mae'r strategaeth wedi derbyn cefnogaeth Gweinidogion. Bydd y strategaeth yn ei lle am chwe mlynedd o ddyddiad cyhoeddi strategaeth. Bydd y cynllun gweithredu yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru bob dwy flynedd er mwyn adlewyrchu mesurau a nodau parhaus y strategaeth.
Y Cyngor sydd wedi nodi fel Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ar gyfer ardal Rhondda Cynon Taf dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr (2010), ac felly mae cyfrifoldeb ar y Cyngor i ddatblygu, cynnal, cymhwsyo, a monitro'r strategaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd. Mae'r cyfrifoldeb yma'n berthnasol i ffynhonellau llifogydd lleol - dŵr wyneb, cyrsiau dŵr cyffredin a dŵr daear.
Mae'n bwysig nodi bod rheoli perygl llifogydd gan ffynhonellau eraill yn Rhondda Cynon Taf ddim yn gyfrifoldeb y Cyngor. Mae rheoli perygl llifogydd o'r brif afon yn gyfrifoldeb ar Gyfoeth Naturiol Cymru, tra bod Dŵr Cymru yn gyfrifol am reoli llifogydd o garthffosydd.
Dyma ail Strategaeth Lleol y Cyngor sy'n gydnaws â'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru. Roedd y Cyngor wedi cyhoeddi ei Strategaeth Leol gyntaf yn 2013, ac yn dilyn hynny yn 2015 cafodd Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd ei gyhoeddi. Mae'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a'r Cynllun Gweithredu sydd newydd eu cyhoeddi yn cyfuno'r ddwy ddogfen, gyda'r bwriad o gyfathrebu'r perygl llifogydd lleol mewn ffordd symlach a mwy effeithiol.
Cafodd trigolion a rhanddeiliaid allweddol eu hymgynghori ar y strategaeth newydd dwywaith rhwng mis Rhagfyr 2022 a Ionawr 2023, ac eto rhwng mis Awst a Hydref 2023. Roedd yr ymgynghoriadau wedi bod yn ddefnyddiol i lywio'r ddogfen derfynnol.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Mae strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod 245,000 o gartrefi yng Nghymru mewn perygl o lifogydd. Mae newid yn yr hinsawdd yn achosi rhagor o law trwm sy'n ychwanegu'n bellach at y risgiau yma. Roedd Storm Dennis yn 2020 a Storm Bert yn 2024 wedi ein hatgoffa bod tywydd eithafol yn fwy cyffredin erbyn hyn, ac yn dangos bod rhaid atgyfnerthu blaenoriaethau strategol y Cyngor mewn perthynas â rheoli llifogydd. Mae hynny'n cynnwys gwella cydnerthedd rheoli llifogydd ledled cymunedau Rhondda Cynon Taf.
"Mae'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a'r Cynllun Gweithredu diwygiedig sydd eisoes wedi'u cyhoeddi yn nodi sut bydd y Cyngor yn rheoli llifogydd ledled y Fwrdeistref Sirol am y chwe mlynedd nesaf. Mae ein strategaeth yn gyson â'r amcanion, mesurau, polisïau a deddfwriaeth genedlaethol. Mae'n adeiladu ar yr holl wersi rydyn ni wedi'u dysgu ers ein strategaeth gyntaf yn 2013.
"Yn rhan o'i phrif amcaion, mae'r strategaeth yn gobeithio gwella'r dulliau o gyfathrebu i wella ymwybyddiaeth o berygl llifogydd. Bydd gwneud hynny'n sicrhau bod pawb wedi paratoi ar gyfer perygl llifogydd, a bod ein cymunedau yn effro i'r camau gweithredu pe bai llifogydd. Mae'r ddogfen hefyd yn sicrhau y bydd y Cyngor yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd wrth fynd i'r afael â pherygl llifogydd, y risgiau sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd – er enghraifft, drwy ddulliau draenio cynaliadwy a dulliau rheoli llifogydd naturiol.
"Mae'r strategaeth ddiwygiedig hefyd yn hyrwyddo dull sy'n seiliedig ar risg i flaenoriaethu y ffordd rydyn ni'n rheoli perygl llifogydd, ac i barhau i fuddsoddi'n sylweddol i leihau nifer y bobl sy'n byw mewn ardaloedd llifogydd uchel. Ym mis Tachwedd 2024, roedd Storm Bert wedi dangos i ni bod y gwelliannau rydyn ni wedi'u gwneud yn lleol ers Storm Dennis wedi bod yn effeithiol wrth ddiogelu ein cymunedau. Serch hynny, mae modd gwneud rhagor. Rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi rhagor o arian gan dynnu ar raglen fuddsoddi'r Cyngor a chyfleoedd i ddefnyddio cyllid allanol.
"Yn y blynyddoedd diwethaf, mae gweithdrefnau cadarn wedi'u sefydlu pan rydyn ni'n disgwyl glaw trwm. Mae'r gweithdrefnau'n cynnwys gwirio a chlirio asedau'r Cyngor. Rydyn ni hefyd wedi mabwysiadu dulliau monitro mwy cadarn mewn achosion o dywydd eithafol, gan sicrhau bod holl adnoddau'r Cyngor ar gael i ymateb yn syth i unrhyw achos o lifogydd.
"Dyma annog holl drigolion sydd â diddordeb i fwrw golwg ar y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a Chynllun Gweithredu, sydd ar gael i'r cyhoedd ar wefan y Cyngor."
Yn ychwanegol, mae Aelodau'r Cabinet wedi trafod Adroddiad Trosolwg Storm Bert yn ei gyfarfod ar 19 Chwefror. Mae’r adroddiad yn cynnwys trosolwg o ddigwyddiad y storm ym mis Tachwedd 2024 ac yn gosod cynllun o waith ar gyfer y misoedd sydd o'n blaenau er mwyn cyflwyno adroddiadau Adran 19 am lifogydd a ddigwyddodd mewn cymunedau penodol.
Wedi ei bostio ar 20/02/2025