Skip to main content

Cau'r A4119 dros nos yn rhan o'r cynllun deuoli

A4119 grid

Dyma roi gwybod y bydd angen cau'r A4119 dros nos rhwng Coed-elái ac Ynysmaerdy nos Lun 17 Chwefror – a hynny gyda'r nos er mwyn lleihau aflonyddwch yn sylweddol (9pm tan 6am).

Mae'r cynllun deuoli'n brosiect trafnidiaeth mawr i wella cysylltedd ac annog gweithgarwch economaidd sy'n darparu ffordd ddeuol ar yr A4119 tuag at Gwm Rhondda, o Goed-elái i Ynysmaerdy. Cafodd pont teithio llesol hefyd ei gosod i'r de o gylchfan Coed-elái er mwyn i gerddwyr a beicwyr groesi'r ffordd o lwybr newydd i'r gymuned i'r pentref.

Mae'r prif waith bron wedi'i gwblhau, gyda chontractwr y Cyngor wrthi'n ymgymryd â gweithgareddau terfynol ar draws y safle gwaith sy'n hanfodol i ddiogelwch. Mae hyn yn rhan o'r broses o baratoi i'w drosglwyddo i'r Cyngor, a fydd yn cael ei wneud unwaith y bydd yr holl waith terfynol wedi'i gwblhau i safon foddhaol.

Yn rhan o'r gwaith hanfodol i ddiogelwch sydd i'w gwblhau o hyd, mae'n ofynnol i'r contractwr unioni rhai rhannau o'r wyneb a gafodd ei osod cyn y Nadolig nad ydyn nhw'n cyrraedd y safon, a hynny’n dilyn archwiliad yn rhan o'r broses drosglwyddo. Mae angen cau'r ffordd er mwyn cwblhau'r gwaith.

Bydd gan y gwaith dros nos sydd ar y gweill (o 9pm nos Lun 17 Chwefror) yr un trefniadau â'r cyfnodau pan oedd y ffordd ar gau dros nos ym mis Rhagfyr 2024. Bydd y gwaith yn dod i ben erbyn 6am ddydd Mawrth 18 Chwefror.

Bydd yr A4119 ar gau i'r ddau gyfeiriad rhwng cylchfan Coed-elái a chylchfan Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn Ynysmaerdy. Mae map o'r rhan a fydd ar gau a llwybrau amgen i'w gweld yma. Bydd y llwybr amgen yma'n ddargyfeiriad sylweddol i yrwyr - trwy Ffordd Osgoi Pentre'r Eglwys, yr A470 i Bontypridd, yr A4058 i Donypandy/ Cwm Clydach, a'r A4119 i Goed-elái. Fydd dim mynediad ar hyd Lôn Smaelog na Heol Cwm Elái. Bydd mynediad ar gael i gerbydau'r gwasanaethau brys. 

Yn ystod y cyfnod y bydd y ffordd ar gau, bydd bws gwennol Stagecoach yn cludo teithwyr rhwng Coed-elái a Thonypandy, er mwyn iddyn nhw deithio i Gaerdydd ac oddi yno ar Wasanaeth 122. Mae amserlen y bws gwennol wedi'i hatodi yma.

Mae'r gwaith yn amodol ar dywydd braf – bydd unrhyw newid i'r trefniadau yn cael ei rannu gan y Cyngor ar ei gyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Mae Alun Griffiths (Contractors) Ltd wedi darparu manylion cyswllt ar gyfer ei Swyddog Cysylltu â'r Cyhoedd, er mwyn i drigolion ofyn cwestiynau ynglŷn â'r gwaith. Mae modd cysylltu â'r swyddog trwy ffonio 03300 412185 (rhwng 8.30am a 5.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener), neu mae modd e-bostio carfan y safle ar A4119CoedEly@alungriffiths.co.uk.

Bydd rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r trefniadau i gau'r ffordd dros nos ar 17 Chwefror hefyd yn cael ei chynnwys ar wefan allanol y contractwr.

Mae cynllun deuoli'r A4119 Coed-elái wedi bod yn bosibl diolch i fuddsoddiad sylweddol gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU - ynghyd â chyfraniadau cyllid allweddol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru.

Wedi ei bostio ar 10/02/2025