Skip to main content

Paratoi tir yn Aberpennar ar gyfer llety gofal modern

Darran Road grid - Copy

Mae gwaith clirio safle wedi dechrau oddi ar Heol y Darren yn Aberpennar ar ôl i gontractwr gael ei benodi i baratoi'r tir ar gyfer ei ddatblygu. Bydd y gwaith adeiladu llety gofal modern, newydd sbon ar gyfer pobl hŷn yn dechrau yn ddiweddarach eleni, diolch i brosiect ar y cyd rhwng Linc Cymru (Linc) a'r Cyngor.

Cafodd caniatâd cynllunio ei roi ar gyfer hen safle'r pafiliwn ym mis Awst 2024, ar gyfer datblygiad sy'n cynnwys 25 o fflatiau Gofal Ychwanegol, 15 o welyau gofal preswyl dementia, ac wyth byngalo 'Later Living'. Bydd bloc tri llawr newydd yn cael ei adeiladu ar ran orllewinol y safle (islaw Bryn Ifor) a bydd y byngalos yn cael eu hadeiladu ar y rhan ddwyreiniol (uwchben Teras y Ffowndri).

Bydd dyluniad y datblygiad yn cynnwys darpariaeth i hyrwyddo bioamrywiaeth a nodweddion draenio trefol cynaliadwy – tra bydd gwaith o ran mynediad, parcio a thirlunio yn rhan o gynllun ehangach y safle.

Prynodd Linc, partner tai Gofal Ychwanegol y Cyngor, y tir yn 2022 ac ers hynny mae wedi cynnal gwaith archwilio'r safle a gwaith dylunio. Yn rhan o'r broses dendro i benodi contractwr ar gyfer y gweithgaredd ar y safle, ym mis Gorffennaf 2024, cafodd y sawl â diddordeb eu gwahodd i gyflwyno cais erbyn mis Hydref.

Mae Linc a'r Cyngor bellach yn falch o gyhoeddi mai JG Hale Group yw'r contractwr wedi'i benodi ar gyfer gwaith clirio a galluogi'r safle. Mae'r gwaith bellach yn mynd rhagddo, a bydd wedi'i gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2025.

Dydyn ni ddim yn disgwyl i'r gwaith darfu llawer ar y gymuned, gan y bydd y gwaith clirio yn cael ei gwblhau o fewn ffin y safle yn unig.

Ar ôl i'r gwaith clirio gael ei gwblhau, bydd gwaith ar y safle yn dod i ben am y tro er mwyn i waith dylunio manwl pellach gael ei wneud, a hynny er mwyn paratoi i brif gam adeiladu'r datblygiad ddechrau. Bydd Linc a'r Cyngor yn rhoi gwybod i drigolion am gerrig milltir allweddol nesaf y cynllun maes o law.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: “Bydd y gymuned yn Aberpennar yn sylwi’n fuan ar weithgaredd pwysig ar safle’r hen bafiliwn oddi ar Heol y Darren, sydd wedi’i glustnodi ar gyfer buddsoddiad a fydd yn darparu llety gofal lleol y mae galw mawr amdano. Cafodd caniatâd cynllunio ei roi i Linc yr haf diwethaf ar gyfer y prosiect ar y cyd yma, i ddarparu  gwelyau Gofal Ychwanegol a gofal dementia, yn ogystal â byngalos 'Later Living'. Mae'n dangos ein bod yn parhau i gyflawni ymrwymiad hirsefydlog i foderneiddio opsiynau gofal preswyl i bobl hŷn.

“Yn y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi buddsoddi mewn tai Gofal Ychwanegol o’r radd flaenaf yn Aberaman a’r Graig, ac mae’r rhain yn boblogaidd iawn gyda’r preswylwyr a’u cymunedau ehangach. Mae trydydd cynllun Gofal Ychwanegol yn cael ei adeiladu ar hyn o bryd yn y Porth, ynghyd â llety gofal arbenigol newydd yn y Gelli. Mae’r Cabinet hefyd wedi ymrwymo i gynlluniau yn y dyfodol yng Nglynrhedynog, sy’n canolbwyntio ar ofal dementia, ac ym Mhentre’r Eglwys – a fydd yn llety i bobl ag anableddau dysgu.

“Rydyn ni'n falch iawn o fod yn gweithio ochr yn ochr â Linc unwaith eto i gyflawni'r datblygiad yn Aberpennar. Bydd y gwaith clirio sydd i ddod yn gam pwysig o'r cynllun cyffredinol, gan sicrhau bod y safle'n barod ar gyfer y prif gam adeiladu. Dydyn ni ddim yn disgwyl i waith dros y chwe wythnos nesaf achosi llawer o aflonyddwch yn lleol, a hoffwn i ddiolch i drigolion ymlaen llaw am eu cydweithrediad.”

Mae Linc bellach yn rhan o Grŵp Pobl, a’r prosiect yma yn Aberpennar yw’r prosiect cyntaf sy’n cynnwys Pobl Development Limited yn gleient contract adeiladu.

Richard Hallett, Rheolwr Datblygu Linc: “Rydyn ni'n falch iawn o weithio mewn partneriaeth â Chyngor Rhondda Cynon Taf i gyflwyno ei raglen gofal ychwanegol. Ar ôl cwblhau dau gynllun gofal ychwanegol mawr yn llwyddiannus yn Aberdâr a Phontypridd a symud ymlaen tuag at drydydd cynllun yn y Porth, mae'n wych gweld pedwerydd prosiect yn mynd rhagddo. Bydd y cyfleuster yn cael ei gynllunioo'n benodol i ddiwallu anghenion pobl hŷn o’r gymuned leol yn Aberpennar a’r cyffiniau, ac mae’n dangos y nod ‘Mawr a Lleol’ y mae Linc a Pobl wedi ymrwymo iddo ers iddyn nhw uno ym mis Ebrill 2024.”

Wedi ei bostio ar 19/02/2025