Skip to main content

Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dathlu llwyddiant Meicro-Fentrau Gofal Cymdeithasol

comm cats logo

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gyhoeddi effaith gadarnhaol meicro-fentrau yn y sector gofal cymdeithasol lleol. Mae meicro-fentrau yn ddarparwyr gofal bach, wedi'u lleoli yn y gymuned, sydd wedi'u dylunio er mwyn ategu gofal traddodiadol yn y cartref. Maen nhw'n cynnig gofal wedi'i deilwra, gan gynyddu'r dewis a'r dulliau rheoli gofal ar gyfer unigolion gydag anghenion gofal a darparu cyfleodd i entrepreneuriaid lleol weithio yn eu cymunedau.

Mae 34 o feicro-fentrau lleol wedi'u sefydlu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wedi'u hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a'u cynorthwyo gan raglen Catalyddion Cymunedol gan ddarparu 500 awr o waith trwy Daliadau Uniongyrchol i 56 unigolyn lleol. Yn ogystal â hyn, mae cyflwyno meicro-fentrau wedi gwella ansawdd ac argaeledd gwasanaethau cymorth yn y gymuned yn sylweddol, yn ychwanegol i unrhyw wasanaethau mae pobl yn talu amdanyn nhw yn breifat.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o'r Cabinet ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Rwy'n falch o gyhoeddi llwyddiant y meicro-fentrau yn Rhondda Cynon Taf.

"Mae'r darparwyr gofal cymunedol bach yma wedi gwella ansawdd ac argaeledd gwasanaethau gofal a hefyd wedi grymuso entrepreneuriaid lleol i gael effaith ystyrlon yn eu cymunedau.

"Mae'r adborth cadarnhaol gan y rheiny sy'n derbyn gofal, eu teuluoedd, a gan y cynhalwyr eu hunain, yn amlygu pwysigrwydd y fenter yma. Rydyn ni'n parhau i fod yn ymroddedig o ran cefnogi ac ehangu meicro-fentrau er mwyn sicrhau bod gyda phawb yn ein cymuned fynediad at y gofal wedi'i deilwra y maen nhw'n ei haeddu."

Cafodd gwerthusiad ei gynnal gan Practice Solutions Ltd rhwng mis Ionawr a mis Gorffennaf 2024, ac roedd yn cynnwys cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda'r rheiny sy'n derbyn gofal, eu teuluoedd, cynhalwyr, gweithwyr cymdeithasol, a gweithwyr y Cyngor. Cafodd adroddiad ei gyhoeddi yn amlygu sawl llwyddiant allweddol:

  • Boddhad Swydd Uchel: Roedd cynhalwyr meicro-fentrau yn nodi lefelau boddhad swydd uchel, gan nodi bod hyn o ganlyniad i'r hyblygrwydd a natur ystyrlon eu gwaith. Roedden nhw'n gwerthfawrogi bod modd iddyn nhw dreulio rhagor o amser gyda phob unigolyn, gan feithrin perthnasoedd da a pharchus gyda nhw.
  • Adborth Cadarnhaol: Roedd y rheiny oedd yn derbyn gofal a'u teuluoedd yn canmol y gofal urddasol wedi'i deilwra sy’n cael ei ddarparu gan y meicro-fentrau. Roedd presenoldeb cyson yr un cynhaliwr, yn ogystal ag ymweliadau hirach o ran amser yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.
  • Integreiddio â'r Gymuned: Mae meicro-fentrau wedi bod yn allweddol o ran meithrin cysylltiadau cymunedol. Mae nifer o'r cynhalwyr yn byw yn lleol, gan gynyddu ymddiriedaeth a dibynadwyedd. Maen nhw hefyd wedi gwella'r cysylltiadau rhwng cynhalwyr â'r unigolion y maen nhw'n eu cynorthwyo.
  • Cymorth gan raglen Catalyddion Cymunedol: Mae'r cymorth sydd wedi'i ddarparu gan raglen Catalyddion Cymunedol wedi bod yn werthfawr iawn o ran helpu i sefydlu meicro-fentrau a sicrhau eu bod nhw'n ffynnu.
  • Cysylltu'r Rheiny sy'n Ceisio Gofal a Chymorth gyda Meicro-fentrau: Mae Gwasanaeth Broceriaeth y Cyngor wedi bod yn hanfodol o ran cydlynu gofal a chymorth ar gyfer unigolion sy'n elwa fwyaf ar feicro-fentrau. Mae'r cyfeirlyfr sy'n rhestru meicro-fentrau (Tribe a Small Good Stuff) hefyd yn caniatáu i bobl ddod o hyd i'w datrysiadau gofal eu hunain.

Meddai Sian Nowell, Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol i Oedolion: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ehangu'r farchnad gofal cymdeithasol lleol, gan gynyddu’r dewis a'r modd o reoli ar gyfer unigolion, a chynorthwyo'r boblogaeth sy'n mynd yn hŷn gyda dulliau arloesol a chynaliadwy.

"Mae'r effaith gadarnhaol y mae meicro-fentrau wedi'i chael ar fywydau unigolion sy'n derbyn gofal, a'r gymuned ehangach, yn amlygu pwysigrwydd y fenter yma.”

Wrth edrych ymlaen, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn bwriadu adeiladu ar lwyddiannau 2022-24 gyda buddsoddiad parhaus. Mae cyflwyniad bwrsariaethau ar gyfer meicro-fentrau newydd ym mlwyddyn ariannol 2024-25, er enghraifft, yn ymateb uniongyrchol i anghenion y busnesau bychain yma. Mae cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys llunio cyfeirlyfr mwy rhagweithiol er mwyn caniatáu cyswllt rhwng y rheiny sy'n chwilio am ofal a'r rheiny sy'n ei ddarparu, gan godi ymwybyddiaeth bellach am feicro-fentrau, a thyfu nifer y meicro-fentrau sy'n cael eu gweithredu yn Rhondda Cynon Taf.

Meddai Helen Allen, Cyfarwyddwr Rhaglen Catalyddion Cymunedol: "Rydyn ni'n falch iawn o weld y dystiolaeth gan sefydliad allanol mewn perthynas ag effaith gadarnhaol y bartneriaeth meicro-fentrau cymunedol ar gyfer pobl a chymuned ehangach Rhondda Cynon Taf.

"Mae Catalyddion Cymunedol yn ceisio creu rhagor o ddewisiadau o ran gofal a chymorth mewn ardaloedd lleol, gan helpu pobl i fyw bywydau da a bod yn rhan o gymunedau cynhwysol. Rydyn ni hefyd yn cynorthwyo wrth greu swyddi lleol, cadw arian yn yr economi leol a helpu partneriaid i ddarparu gofal a chymorth gwell, am bris rhatach.

Mae'r gwerthusiad yma’n darparu tystiolaeth bod datblygu meicro-fentrau cymunedol mewn ardal yn gallu cyflawni'r uchelgeisiau yma. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda'r Cyngor a rhanddeiliaid ehangach ar y prosiect ac rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'n gilydd yn y dyfodol."

Mae Catalyddion Cymunedol yn gasgliad bach o unigolion proffesiynol medrus iawn, sy'n meddu ar brofiad heb ei ail ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy'n cael ei arwain gan bobl. Mae eu gwaith yn cynnwys grymuso unigolion a chymunedau ym mhob cwr o'r wlad i feithrin eu talentau o ran creu a rheoli mentrau bychain a busnesau cymunedol.

Mae'r mentrau yma yn darparu swyddi gwerthfawr lleol ac yn sicrhau fod adnoddau ariannol yn aros yn y gymuned. Trwy feithrin cysylltiadau ac annog cyfranogiad actif, mae Catalyddion Cymunedol yn helpu pobl i fyw bywydau llawn gan gyfrannu i'w hardaloedd lleol.

Am ragor o wybodaeth, neu i ddysgu rhagor am sut i sefydlu eich meicro-fenter eich hunain, ewch i:  wefan Catalyddion Cymunedol

Darllenwch yr adroddiad llawn yma: Meicro-fenter gymunedol: achos dros fuddsoddi | Catalyddion Cymunedol

Wedi ei bostio ar 27/02/2025